Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwaith o godi’r cyfleuster gweithgynhyrchu Passivhaus cyntaf yng Nghymru yn mynd rhagddo yn y Trallwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae busnes teuluol PYC Construction and Insulation yn adeiladu ffatri 600 metr sgwâr ar safle 1.4 erw o faint ym Mharc Menter Buttington Cross, safle y gwnaethant brynu gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r buddsoddiad yn cael ei gefnogi gan Gronfa Twf Economaidd Cymru a bydd yn creu 19 o swyddi newydd.

Passivhaus yw’r safon sicrwydd ansawdd ar gyfer adeiladau carbon isel sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.  Mae safon Passivhaus, a ddatblygwyd yn yr Almaen 20 mlynedd yn ôl, wedi gweld y safon yn datblygu’n gyflym iawn yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf a bellach, mae Cynghorau Caerwysg a Norwich yn ei ystyried yn safon y maen rhaid i unrhyw adeiladwr tai ei fodloni.

Mae llawer o fanteision i safon Passivhaus – mae’n gallu gostwng hyd at 90% ar filiau ynni a gostwng allyriadau carbon a gwella ansawdd aer; lefelau cyfforddusrwydd a chynhyrchiant.

Sefydlwyd PYC Construction and Insulation gan ddau frawd – Jasper a Ben Meade - nôl ym 1993 ac ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n gweithio o hen adeiladau fferm sydd wedi cael eu trosi’n ffatri yng nghartref y teulu ym Meifod.

Maen nhw nawr yn barod i ddefnyddio’r ffatri newydd, addas i’r pwrpas i symud y busnes i’r cam nesaf.  Bydd modd rhoi’r tai at ei gilydd yn y ffatri yn hytrach nag ar y safle – bydd hyn yn golygu na fydd tywydd gwael yn cael effaith ar y gwaith adeiladu a bydd modd osgoi unrhyw oedi hefyd.  Bydd hyn yn golygu y byddan nhw’n gallu codi’r tai yn gynt, bydd modd codi mwy ohonyn nhw a bydd yna lai o wastraff.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Bydd croeso mawr i ffatri newydd o’r math hwn – y cyntaf o’i bath yng Nghymru – gan y diwydiant adeiladu, diwydiant sydd yn un o’n prif sectorau economaidd.

“Mae cynaliadwyedd yn ganolog i system Passivhaus ac nid yn unig mae’r system adeiladu tai hon yn gallu creu tai fforddiadwy a chyfforddus ond hefyd, mae’n gallu  helpu i leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon a helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau.  Rwy’n hapus iawn bod yr help y mae’r cwmni wedi’i gael gan y Gronfa Twf Economaidd yn ei helpu i ehangu’r busnes, gan helpu PYC i ddatblygu ac i ehangu ei fusnes ac ar yr un pryd, greu sgiliau tra medrus yn yr ardal hefyd.” 

Mae PYC eisoes wedi cyflogi pensaer a thechnegydd pensaernïol a bellach, mae’n cynnig gwasanaeth dylunio ac adeiladu cyflawn.  Bydd y gwasanaeth un contractwr hwn yn gallu helpu darparwyr tai cymdeithasol, cynghorau, ymddiriedolaethau tir cymunedol a chymunedau tai yn ogystal â’r farchnad hunanadeiladu i godi tai o’r safon uchaf. 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmni, Jasper Meade:  

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’n busnes ni ac rydym yn gwerthfawrogi’r help yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru.  Roedd y cymorth hwn yn hollbwysig i’n helpu i ehangu’r busnes.  Dros y blynyddoedd, rydym wedi dysgu llawer iawn am systemau Passivhaus ac mae’r profiad sydd gennym o adeiladu tai i’r safon hwn yn helaeth iawn hefyd.  Y ni sydd wedi bod yn gyfrifol am godi, yn ogystal ag inswleiddio gyda Warmcel, llawer o swyddfeydd, ysgolion, colegau a thai cyntaf yn y DU gan ddefnyddio system PH.    Ymhlith  yr adeiladau yr ydym wedi’u codi mae Canolfan Hyddgen Machynlleth a’r Ganolfan Fenter ym Mhrifysgol East Anglia yn Norwich. 

“Rydym yn hyrwyddwyr brwdfrydig o fanteision y system Passivhaus ac am ei hybu fel dewis cynaliadwy a fforddiadwy ar gyfer codi pob math o dai.  Gyda’n cyfleuster newydd, byddwn yn gallu ehangu, gwneud yr holl waith o dan un to, targedu marchnadoedd newydd a chreu swyddi newydd a pharatoi’r ffordd ar gyfer codi’r adeiladau hyn.”