Mae rhaglen i gefnogi athrawon sy'n siarad Cymraeg i fynd yn athrawon uwchradd yng Nghymru ar agor bellach, a gellir gwneud ceisiadau tan 22 Chwefror 2026.
Mae rhaglen 'Cynllun Pontio' yn cefnogi siaradwyr Cymraeg sy'n addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n addysgu y tu allan i Gymru neu sydd wedi bod allan o'r proffesiwn ers pum mlynedd neu fwy ac sy'n dymuno ailymuno â'r proffesiwn.
Mae'r rhaglen yn talu cyflog tra bydd yr unigolyn yn cwblhau ei hyfforddiant i newid i fod yn athro uwchradd.
Ers 2020 mae bron i 100 o bobl wedi cael cymorth drwy'r cynllun.
Un ysgol sydd wedi elwa o'r cynllun yw Ysgol Bro Teifi. Dywedodd y Pennaeth, Gareth Evans:
Mae Cynllun Pontio wedi ein galluogi ni fel ysgol i ailhyfforddi athrawon cynradd i ddatblygu eu profiad a'u hyder i addysgu yn y sector uwchradd.
Yn ystod eu profiad, mae'r athrawon wedi elwa nid yn unig o gefnogaeth mentor o fewn yr ysgol, ond hefyd o gefnogaeth corff o staff profiadol.
Rydyn ni hefyd yn falch bod rhai ohonyn nhw wedi gallu cael swyddi gyda ni yn yr ysgol. Mae eraill wedi cael swyddi mewn ysgolion uwchradd eraill, gan gyflawni nod y cynllun o gynyddu capasiti athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y system addysg. Heb os, mae hon yn rhaglen unigryw ac effeithiol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Rydyn ni eisiau cefnogi'r rhai sy'n dymuno symud i addysg uwchradd neu ailymuno ag addysgu, gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar yr un pryd. Mae'r rhaglen hon yn darparu pecyn o hyfforddiant a chymorth ariannol i helpu pobl yn eu gyrfa addysg.
Mae Cynllun Pontio eisoes wedi helpu llawer o bobl i gyflawni eu huchelgais i fynd yn athrawon uwchradd, a dw i'n falch bod ffenestr geisiadau ar agor unwaith eto i gefnogi carfan newydd o bobl a hoffai ymuno ag addysg uwchradd ac addysgu drwy'r Gymraeg.
Mae'r rhaglen yn helpu i ddatblygu gweithlu addysgu i ddarparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n hanfodol wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg ein dysgwyr.
I wneud cais, dylai ymgeiswyr lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen gais a'i chyflwyno drwy e-bost AthrawonCC.WMTeachers@gov.wales erbyn dydd Sul, 22 Chwefror 2026.
Mae Cynllun Pontio yn un o nifer o fentrau, sy'n cael £8m gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a chynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys:
- bwrsari cadw o £5,000 ar gyfer athrawon uwchradd cymwys sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc neu'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- arian i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio'r Gymraeg ar lefel Safon Uwch, gan alluogi ysgolion i barhau i ddarparu'r Gymraeg fel pwnc pan fo niferoedd dysgwyr yn isel
- arian ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau i ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i ddysgu Cymraeg
