Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n edrych yn debyg mai'r 12 mis diwethaf oedd blwyddyn brysura erioed Llywodraeth Cymru o ran cefnogi cynyrchiadau teledu a ffilm, meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan siarad ar Ddydd Gŵyl Ddewi, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi fod y ffigurau diweddaraf yn dangos y bydd y cynyrchiadau a gafodd eu ffilmio yng Nghymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn dod â rhyw £55m i economi Cymru yn 2017/18 yn unig, gan gynnal cynnydd blynyddoedd cynt.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

Rydyn ni, yn Llywodraeth Cymru, wedi gwneud penderfyniad bwriadol i helpu'r sector i dyfu. Rydyn ni wedi gweithio'n galed i ddenu'r cynyrchiadau teledu a ffilm gorau i Gymru ac i wneud yn fawr o'r manteision economaidd a ddaw yn eu sgil. 

Ein gwobr am yr ymdrech yw cynnydd mawr yn nifer y cynyrchiadau sy'n derbyn nawdd Llywodraeth Cymru sy'n cael eu ffilmio yng Nghymru, a chynnydd cyfatebol yn yr arian sy'n cael ei wario yn yr economi o ganlyniad. 

Yn wir, am bob £1 y mae Llywodraeth Cymru'n ei buddsoddi mewn cynyrchiadau ffilm a theledu, mae £8 ar gyfartaledd yn cael ei wario yn economi Cymru. 

Mae'n waith caled a'n hymrwymiad wedi'n helpu i ddatblygu enw da Cymru fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer cynyrchiadau drama o'r radd flaenaf; ac fel gwlad sy'n barod i gefnogi'r sector ac fel dewis da a fforddiadwy yn lle Llundain.

Rydyn ni wedi datblygu seilwaith o stiwdios ar hyd coridor yr M4, i ddarparu cyfleusterau ar gyfer pob math o gynyrchiadau, boed ffilm, teledu neu animeiddio. 

Ac rydyn ni wedi rhoi hwb arall i hyn â safle Stiwdios Blaidd Cymru yng Nghaerdydd, sydd ag uchder o ryw 57tr at ei thrawstiau, sy'n ei gwneud yn ddeniadol i gynhyrchwyr dramâu teledu o'r radd uchaf a ffilmiau drudfawr o America. 

Mae ffrwyth ein gwaith caled a'n buddsoddiad yn amlwg i bawb eu gweld. Diolch i gymorth ariannol ac ymarferol Llywodraeth Cymru, mae gwariant y sector creadigol yng Nghymru wedi cynyddu o ragor na £35m yn 2017/17 i amcangyfrif o ryw £55m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae cynyrchiadau a ffilmiwyd yng Nghymru fel Journey's End, Britannia, Kiri, Requiem ac Un Bore Mercher eisoes wedi creu argraff ar wylwyr ac adolygwyr fel ei gilydd yn 2018. Gyda mwy o gynyrchiadau nag erioed, gwerth dros £500m, yn dod i Gymru trwy Bad Wolf, BBC, Pinewood, Boom ac eraill, rwy'n hyderus y bydd y duedd am i fyny yn para yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd Talentau Creadigol Cymru i’w gweld yn Llundain ar ddydd Gŵyl Ddewi wrth i ffilm Croeso Cymru am Flwyddyn y Môr ddod nol ar y sgrin ar y 1af o Fawrth. Mae’r ffilm fer epig hon am ddarganfod ac am antur gyda’r actor o Hollywood, Luke Evans, wedi’i chyfarwyddo gan Marc Evans (Y Gwyll, Safe House, Trauma) ac yn cynnig golwg trwy lygaid aderyn o olygfeydd harddaf ardaloedd glan-môr Cymru. Y nod yw annog pobl i holi mwy am yr hyn y gall Cymru ei gynnig ym Mlwyddyn y Môr 2018.