Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni 7 nod llesiant, gan gynnwys 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant eraill.

Cymraeg 2050

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hon yn weledigaeth hirdymor ac mae gan y system addysg ran hanfodol i'w chwarae wrth gyflawni'r uchelgais hwn. Yn benodol, i wneud y canlynol:

  • cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu addysg ddwyieithog
  • sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i feithrin ei sgiliau Cymraeg ddigon i allu defnyddio'r iaith yn gymdeithasol ac yn y gwaith
  • cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwireddu'r ddau amcan uchod

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, mae angen i ni sicrhau gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg digonol er mwyn cynyddu'r cyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ac mae angen i ni feithrin sgiliau Cymraeg pob ymarferydd er mwyn helpu i weithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae Cymraeg 2050 yn nodi'r targedau canlynol ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhifau athrawon
Nifer yr athrawon ysgol gynradd sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Llinell sylfaen 2015 i 2016

2,900

Targed 2021

3,100

Targed 2031

3,900

Targed 2050

5,200

Nifer yr athrawon uwchradd sy'n addysgu Cymraeg fel pwnc

Llinell sylfaen 2015 i 2016

500

Targed 2021

600

Targed 2031

900

Targed 2050

1,200

Nifer yr athrawon uwchradd sy'n addysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Llinell sylfaen 2015 i 2016

1,800

Targed 2021

2,200

Targed 2031

3,200

Targed 2050

4,200

Mae meithrin sgiliau Cymraeg ein hymarferwyr a'u gallu i addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau Cymraeg 2050. Fodd bynnag, ochr yn ochr â hyn, mae cadw ein hymarferwyr presennol hefyd yn flaenoriaeth uchel.

Mae Tabl 1 isod yn dangos nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng Nghymru sy'n hyfforddi i addysgu Cymraeg yn ôl lefel ysgol a blwyddyn.

Mae Tabl 2 yn dangos nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn. Er bod nifer yr athrawon Cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n hyfforddi bob blwyddyn ar y trywydd cywir, neu'n rhagori ar y 103 o athrawon sydd eu hangen i gyrraedd targedau 2031, mae'r nifer sy'n astudio i fod yn athrawon uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn gyson is na'r 119 o athrawon sydd eu hangen i gyrraedd targedau 2031. O ystyried hefyd bod 130 o athrawon wedi gadael y proffesiwn rhwng 2019 a 2020, mae'n amlwg bod angen gweithredu, nid yn unig i gynyddu nifer yr athrawon sy'n cael eu hyfforddi ond hefyd i annog athrawon i aros yn y proffesiwn.

Cyhoeddwyd dadansoddiad manwl o'r data ochr yn ochr â chynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg. Mae'r ddogfen hon yn nodi manylion llawn yr her sy'n gysylltiedig â sicrhau nifer digonol o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Caiff y ddogfen hon ei diweddaru bob dwy flynedd a bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses gyffredinol honno o fesur cynnydd.

Tabl 1: Myfyrwyr blwyddyn gyntaf ar gyrsiau AGA yng Nghymru sy'n hyfforddi i addysgu Cymraeg yn ôl lefel ysgol a blwyddyn
 

2015 i 2016

2016 i 2017

2017 i 2018

2018 i 2019

2019 i 2020

Pob ysgol

245

235

210

175

235

Ysgol Gynradd

150

145

110

95

145

Ysgol Uwchradd

95

90

100

75

90

Tabl 2: Athrawon ystafell ddosbarth sydd wedi gadael swydd addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg rhwng 2019 a 2020 (a)
  Cynradd Uwchradd Cyfanswm
Categori gadael Nifer

%

Nifer

%

Nifer

%

Cyfanswm yr athrawon sydd wedi gadael

235

8.7%

235

10.5%

470

9.5%

O gyfanswm yr athrawon sydd wedi gadael            
Athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn

170

6.3%

130

5.7%

295

6.0%

Athrawon sydd wedi symud i rôl nad yw'n gysylltiedig ag addysgu

50

1.9%

30

1.4%

80

1.7%

Athrawon a symudodd i Ysgol Ganol

5

0.2%

65

2.8%

70

1.4%

Athrawon sydd wedi symud i ysgol cyfrwng Saesneg

10

0.4%

15

0.7%

25

0.5%

Tymor hir

Mae cynllun gwaith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu a gweithredu cynllun 10 mlynedd ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg a gwella sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg er mwyn gallu diwallu anghenion lleol pob sir yn unol â'i Chynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cyhoeddwyd Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg (y Cynllun) ym mis Mai 2022 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru fireinio a gweithredu rhai o'n polisïau allweddol a sicrhau bod pob rhanddeiliad yn cydweithio er mwyn cyflawni ein nodau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cymhelliant i annog mwy o bobl i hyfforddi fel athrawon yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae cynllun Iaith Athrawon Yfory wedi'i anelu'n benodol at yr unigolion hynny sy'n hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg neu Gymraeg fel pwnc. Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cymhelliant pynciau â blaenoriaeth os byddant yn paratoi i addysgu rhai pynciau uwchradd penodol. Bydd y fwrsariaeth hon yn cynnig taliad pellach i'r unigolion hynny sydd wedi aros yn y proffesiwn.

Un o ystyriaethau tymor hir y Cynllun yw deall y daith gyfan sy'n gysylltiedig â dod yn athro ac aros yn athro yn hytrach na chanolbwyntio'n benodol ar addysg gychwynnol i athrawon (AGA). Un o'r camau gweithredu sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun yw cyflwyno cynllun Bwrsariaethau peilot wedi'i anelu at annog athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel pwnc i aros yn y proffesiwn.

Atal

Nod y Fwrsariaeth yw lleihau nifer yr athrawon uwchradd hyfforddedig sy'n gadael y proffesiwn drwy ddarparu taliad cadw i garfan benodol o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon Cymraeg  ar ôl iddynt gwblhau tair blynedd o addysgu. Byddwn yn astudio data peilot er mwyn gweld a yw'r cynllun hwn yn arwain at sefyllfa lle bydd llai o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon Cymraeg yn gadael y system ac a oes effaith ddilynol ar y sector cyfrwng Saesneg.

Integreiddio

Mae'r fwrsariaeth hon yn un o nifer o gamau gweithredu a nodir yn y Cynllun i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, cefnogi eu datblygiad a'u cadw yn y proffesiwn. Mae'r Cynllun yn ystyried y broses gyfan o greu athrawon. Mae'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun yn cynnwys targedu disgyblion yn llawer cynharach er mwyn hyrwyddo addysgu fel proffesiwn ac annog mwy o ddisgyblion i ddewis Cymraeg fel cymhwyster Safon Uwch. Wedyn symud ymlaen i annog israddedigion sy'n astudio drwy gyfrwng y Saesneg neu'n astudio yn Lloegr i ddychwelyd i Gymru i ymgymryd â'u TAR ac i ymgymryd â'u AGA drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn dilyn hynny, mae'r Cynllun yn ystyried y trefniadau ar gyfer cadw athrawon a datblygiad proffesiynol hyd at bolisïau er mwyn helpu i ddatblygu digon o arweinwyr cyfrwng Cymraeg.

Cydweithio

Bu cydweithio yn rhan annatod o'r broses o ddatblygu'r Cynllun. Mae'r partneriaid allweddol yn cynnwys undebau athrawon, awdurdodau addysg lleol, darparwyr AGA, CYDAG, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill. Maent wedi cymryd rhan lawn wrth ei ddatblygu, gan gynnwys nodi'r Fwrsariaeth hon fel cam gweithredu, a chaiff rolau a chyfrifoldebau'r rhai hynny sy'n rhan annatod o'r broses o roi'r cynllun ar waith eu diffinio'n glir yn y cynllun. Yn ogystal, rydym wedi gweithio gyda phenaethiaid, awdurdodau lleol, Cyngor y Gweithlu Addysg a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu'r fwrsariaeth hon.

Cyfranogiad

Cafodd y Cynllun ei gyd-greu â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol drwy grŵp gorchwyl a gorffen. Roedd gan yr aelodau ran bwysig i'w chwarae wrth ddiffinio'r problemau, datblygu syniadau ac atebion a byddant yn rhan annatod o'r broses o'i roi ar waith. Rydym hefyd wedi cyfarfod â nifer o randdeiliaid ehangach yn ystod y broses ddatblygu er mwyn sicrhau ein bod yn deall y materion yn llawn a bod y Cynllun yn cynnwys camau gweithredu y gellir eu cyflawni. Rydym wedi cynnal trafodaethau penodol ar fwrsariaeth gadw â phenaethiaid sy'n ei chael hi'n anodd llenwi swyddi gwag a Chyngor y Gweithlu Addysg, y bydd ganddo ran i'w chwarae wrth fonitro'r cynllun hwn ochr yn ochr â'i rôl wrth weinyddu Iaith Athrawon Yfory.

Yn ogystal â'r pum ffordd uchod o weithio, ystyriwch y meysydd canlynol:

Effaith

Rydym yn gobeithio y caiff y Fwrsariaeth effaith ar nifer yr athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd sy'n gadael y proffesiwn. Caiff y cynllun peilot ei adolygu'n barhaus yn ystod y cyfnod. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau hyn i ddatblygu a diffinio polisïau'r dyfodol yn ystod pum mlynedd y cynllun peilot.

Costau ac Arbedion

Ni fwriedir i'r Fwrsariaeth gyflawni arbedion yn ystod y cam hwn. Prif ddiben y Fwrsariaeth yw annog athrawon cyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn. Y rheswm am hyn yw nad ydym yn hyfforddi digon o athrawon i gyrraedd y targedau a nodwyd yn Cymraeg 2050 ac o ystyried bod nifer o athrawon hefyd yn gadael y proffesiwn, rydym yn methu â chyflawni'r niferoedd gofynnol.

Dull

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr wneud cais am y fwrsariaeth. Bydd y ffenestr ar gyfer ceisiadau yn agor ar 1 Medi bob blwyddyn. Dylai'r rhai hynny sydd o'r farn eu bod yn gymwys wneud cais erbyn 30 Medi. Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu hysbysu yn ystod mis Hydref a chaiff y fwrsariaeth ei thalu ochr yn ochr â chyflog yr ymgeisydd erbyn mis Rhagfyr.

Gall unrhyw athrawon nad oes ganddynt 3 mlynedd academaidd o wasanaeth pan fydd y ffenestr ar gyfer gwneud ceisiadau yn agor wneud cais mewn blynyddoedd dilynol unwaith y byddant wedi cyflawni'r hyd gwasanaeth gofynnol.

Ni fydd angen unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol i roi'r cynllun hwn ar waith.

Adran 8: Casgliad

Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Mae cyflwyno bwrsariaeth i gadw athrawon yn un o'r camau gweithredu a gynhwyswyd yng nghynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022. Datblygwyd y cynllun ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys undebau athrawon a phenaethiaid. Rydym hefyd wedi cael trafodaethau pellach am y fwrsariaeth â phenaethiaid a'r grŵp allanol sy'n gyfrifol am fonitro'r Cynllun. Mae'n bosibl y caiff gwerthusiad ac ymgynghoriad pellach eu cynnal ar ddiwedd y cynllun peilot er mwyn llywio ei ddyfodol.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Rhaglen beilot yw'r rhaglen hon er mwyn ceisio annog athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn. Os bydd y rhaglen yn llwyddiannus, bydd yn golygu y bydd llai o athrawon yn gadael y proffesiwn a bydd yn gam ymlaen tuag at gyrraedd y targedau a nodwyd yn Cymraeg 2050. Mae'n bosibl y bydd effeithiau negyddol ar forâl athrawon nad ydynt yn gymwys i gael y fwrsariaeth, gan gynnwys y rhai hynny sy'n colli allan ar y fwrsariaeth gan eu bod wedi cymhwyso fel athro cyn 2020, eu bod yn athrawon mewn ysgolion cyfrwng Saesneg neu mewn ysgolion cynradd. Fodd bynnag, mae cynlluniau yn bodoli eisoes fel y cynllun sabothol sydd wedi'i anelu at gefnogi'r rhai hynny mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i wella eu sgiliau Cymraeg. Mae cynlluniau cymhelliant eraill fel BAME a phynciau â phrinder hefyd ar gael i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu
  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r fwrsariaeth yn anelu at gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg sy'n aros yn y proffesiwn. Er mwyn i ni gyrraedd y targedau a nodwyd yn Cymraeg 2050, mae cadw athrawon yr un mor bwysig â hyfforddi digon o athrawon newydd. Mae'n debygol y bydd effeithiau negyddol ar athrawon nad ydynt yn gymwys i gael y fwrsariaeth. Fodd bynnag, mae'r heriau sy'n wynebu ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg wrth recriwtio athrawon wedi'u nodi yng nghynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg a'r ddogfen data ategol ac mae'r achos o blaid helpu athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg i aros yn y proffesiwn yn glir. Mae prinder athrawon uwchradd yn y rhan fwyaf o ardaloedd o Gymru eisoes ac mae nifer yr athrawon sy'n hyfforddi i addysgu Cymraeg neu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd yn llawer is na'r nifer sy'n ofynnol i gyrraedd y targedau a nodwyd yn Cymraeg 2050. Er mwyn i ni gyrraedd y targedau hyn, rhaid mynd i'r afael â chadw athrawon yn ogystal â hyfforddi digon o athrawon newydd.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Caiff y rhaglen beilot ei monitro mewn perthynas â'r niferoedd sy'n gwneud cais am y fwrsariaeth, a niferoedd cadw dros gyfnod pum mlynedd y cynllun peilot. Byddwn yn monitro unrhyw effeithiau negyddol ar y carfanau nad ydynt yn gymwys, megis ysgolion cynradd ac ysgolion cyfrwng Saesneg. Byddwn hefyd yn casglu adborth ansoddol gan yr ysgolion a'r athrawon eu hunain. Byddwn yn olrhain ystadegau a gaiff eu casglu drwy'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion er mwyn olrhain nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn.  Caiff y fwrsariaeth ei hadolygu ar ddiwedd y cynllun peilot cyn cyflwyno argymhellion i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.

Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi

Yr amcan polisi yw cadw mwy o athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion dwyieithog ac athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg drwy ddarparu bwrsariaeth i gadw athrawon i'r rhai hynny a enillodd statws athro cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen ac sydd wedi cwblhau tair blynedd academaidd o addysgu ers hynny.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Mae'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion yn dangos bod nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn yn fater penodol mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog lle ceir problemau recriwtio hefyd oherwydd prinder athrawon. Mae prinder athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc ym mhob ysgol uwchradd a gynhelir hefyd. Dengys data fod y mater yn llawer gwaeth mewn ysgolion uwchradd nag ysgolion cynradd. Rydym wedi trafod y mater hwn â phenaethiaid ac wedi cael gohebiaeth gan rieni ac athrawon sy'n nodi nad yw disgyblion yn gallu astudio amrywiaeth o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd prinder athrawon.

Rydym yn gobeithio y bydd bwrsariaeth i gadw athrawon yn annog mwy o athrawon â sgiliau Cymraeg i aros yn y proffesiwn, gan yn y pen draw gynyddu nifer yr athrawon sydd ar gael i addysgu Cymraeg fel pwnc neu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid ydym wedi cynnal trafodaethau uniongyrchol â phlant ond ag athrawon a phenaethiaid a sefydliadau rhanddeiliaid allweddol eraill.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'n debygol y bydd effaith ar bobl ifanc mewn ysgolion uwchradd gan mai nod y fwrsariaeth yw cadw athrawon medrus sy'n gallu addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg yn y proffesiwn.

Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y'u dynodir gan erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol?

CCUHP
Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol

Yn gwella (X)

Yn herio (X)

Esboniad

Mae'r fwrsariaeth yn cyfrannu at gyflawni erthygl 29 sy'n nodi y dylai addysg plant neu bobl ifanc helpu eu meddwl, eu corff a'u talentau i fod cystal ag y gallant. Dylai hefyd ddatblygu eu parch tuag at bobl eraill a'r byd o'u cwmpas. Yn benodol, dylent ddysgu i barchu:

  • eu hawliau a hawliau pobl eraill
  • eu rhyddid a rhyddid pobl eraill
  • eu rhieni
  • hunaniaeth, iaith a gwerthoedd gwledydd, gan gynnwys eu gwlad nhw eu hunain

Dylai addysg baratoi plant a phobl ifanc ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd. Dylai eu haddysgu sut i fyw mewn ffordd llawn dealltwriaeth a goddefgarwch nad yw'n dreisgar ac sy'n parchu'r amgylchedd.

X

 

Bydd sicrhau bod digon o athrawon Cymraeg fel pwnc mewn ysgolion uwchradd yn galluogi plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, mamiaith Cymru.

Mae'r cynllun yn cyfrannu at gyflawni erthygl 30 (plant o grwpiau lleiafrifol neu frodorol). Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith, arferion a chrefydd ei deulu, p'un a ydynt yn cael eu rhannu gan y rhan fwyaf o'r bobl yn y wlad y mae'n byw ynddi ai peidio.

X

 

Bydd y fwrsariaeth yn helpu mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg drwy gadw athrawon yn y proffesiwn er mwyn cyflwyno cwricwlwm eang drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd yn cefnogi cynnydd cyffredinol yn nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc.

Ystyriwch a oes unrhyw rai o Hawliau Dinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed.

Nac ydynt, ni fydd yn effeithio ar unrhyw Hawliau Dinasyddion yr UE. Mae'n bosibl bod disgyblion yn yr ysgolion hyn yn ddinasyddion yr UE ond nid oes unrhyw hawliau penodol yn cael eu torri o ganlyniad i'r cynnig.

Monitro ac Adolygu

Mae'n hanfodol ailystyried eich Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn nodi a gafodd yr effeithiau a nodwyd gennych yn wreiddiol eu gwireddu, ac a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Lle byddwch yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth, ni fydd yn ddigon i chi ddibynnu ar yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol yn unig; bydd angen i chi ddiweddaru'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant er mwyn ystyried sut y gallai manylion y cynigion yn y rheoliadau neu'r canllawiau effeithio ar blant.

Gall yr arweinydd polisi ailystyried y fersiwn a gyhoeddwyd o'i Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant, ei hailenwi fel adolygiad o'r Asesiad gwreiddiol, a diweddaru tystiolaeth yr effaith. Dylid cyflwyno'r asesiad wedi'i adolygu i'r Gweinidogion ag unrhyw gynigion i ddiwygio'r polisi, yr ymarfer neu'r canllawiau. Dylid cyhoeddi'r adolygiad hwn o'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant hefyd.

Byddwn yn cynnal adolygiad ar ddiwedd y cyfnod peilot a thrwy gydol y broses fel rhan o'r trefniadau presennol ar gyfer cofnodi data drwy'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion a thrwy drafodaethau parhaus â phenaethiaid a gwaith ymchwil ansoddol â derbynwyr.  Bydd y wybodaeth hon yn llywio'r broses o ddatblygu polisi ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd.