Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gell Cyngor Technegol yn cydlynu cyngor gwyddonol a thechnegol i gefnogi penderfynwyr Llywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau.

Mae’r Gell Cyngor Technegol yn darparu:

  • diweddariadau wythnosol rheolaidd i swyddogion Llywodraeth Cymru am yr hyn a ddaw gan SAGE, rhagolygon modelu Cymru ac adroddiadau o’r sefyllfa ddiweddaraf
  • rhagolygon modelu ar gyfer GIG Cymru, Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a Grwpiau Cydgysylltu Strategol
  • briffiau technegol rheolaidd i randdeiliaid allanol i hysbysu trafodaethau
  • cyngor am yr hyn a ddaw gan SAGE ar gyfer swyddogion polisi a Gweinidogion
  • cydlyniant i’r Grŵp Cynghori Technegol ehangach a’i is-grwpiau, yn ogystal â chyhoeddi datganiadau consensws y Grŵp i ategu cynlluniau a phenderfyniadau

Mae’r Grŵp Cynghori Technegol yn cyfarfod 2 waith yr wythnos ar hyn o bryd, ac yn cynnwys arbenigwyr technegol o bob cwr o Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a’r byd academaidd, sy’n darparu cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Covid-19.

Caiff y cyngor a’r canllawiau eu dwyn ynghyd i ffurfio Datganiadau Consensws y Grŵp Cyngor Technegol sy’n eistedd wrth ochr adroddiadau sefyllfa cryno wythnosol y Gell Cyngor Technegol.