Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Taith Merched OVO Energy yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf y penwythnos hwn, wrth i’r ras UCI Women’s World Tour ddod i ben yng Ngwynedd a Chonwy ddydd Sul, 17 Mehefin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r Gogledd wedi croesawu Taith Prydain OVO Energy i ddynion bedair gwaith, ond eleni fydd y tro cyntaf i feicwyr benywaidd gorau’r byd gael cyfle i rasio yn yr ardal.

Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a fydd yn rhoi’r gwobrau i’r enillwyr ar ddiwedd y cymal ym Mhorth Eirias: 

“Dw i wrth fy modd ein bod yn cefnogi’r ras hon am y tro cyntaf eleni. Fel yr unig ras gymalau ryngwladol i fenywod ym Mhrydain, mae’r digwyddiad yn denu beicwyr benywaidd gorau’r byd – ac mae’n gyfle ardderchog i godi proffil chwaraeon i fenywod a’r gamp beicio ac annog pobl i gymryd rhan ynddi, a hyrwyddo byw’n iach. Bydd y llwybr yn dangos tirweddau godidog Cymru a thynnu sylw at ein glannau ysblennydd sy’n cael eu dathlu yn ystod Blwyddyn y Môr yn 2018.  

“Mae gwylwyr yng Nghymru yn rhoi croeso gwych i’n beicwyr bob tro a dw i’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn dod ddydd Sul i annog y beicwyr ar hyd cymal olaf y ras hon.” 

Bydd y ras bum niwrnod yn dod i ben gyda chymal anodd 122 cilometr o hyd o Ddolgellau i Fae Colwyn. Bydd y beicwyr yn teithio ar hyd llwybrau ag iddynt rai o’r golygfeydd prydferthaf yng Nghymru. Mae’r llwybrau hyn yn rhan o Ffordd Cymru sef tri llwybr o gwmpas Cymru.  Ffordd Cymru yw’r enw cyffredinol ar gyfer y tri llwybr sy’n dathlu atyniadau a phrofiadau twristiaeth allweddol ar hyd Ffordd Gogledd Cymru, Llwybr y Lli a Llwybr Cambria. Bydd yn annog ymwelwyr i ddarganfod mwy o leoedd yng Nghymru. 

Wrth i Gymru ddathlu Blwyddyn y Môr yn 2018, bydd rhan gyntaf y cymal yn dilyn yr arfordir hardd o Fae Tremadog drwy Abermaw a Harlech cyn troi tua’r tir i brofi llethrau serth Eryri, drwy Feddgelert a Betws-y-coed, i orffen ar arfordir y Gogledd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Bydd cyfanswm o 17 o dimau yn cystadlu yn Nhaith Merched OVO Energy 2018, gan gynnwys pedwar tîm o Brydain sef Wiggle HIGH5, Trek Drops, WNT Rotor a Storey Racing. Bydd enwau’r beicwyr yn cael eu cyhoeddi ddechrau’r haf.

Bydd rhaglen awr o hyd yn dangos uchafbwyntiau pob cymal yn cael ei darlledu bob dydd ar ITV4 ac Eurosport a bydd ar gael ar-alw drwy’r ITV Hub ac Eurosport Player.  Mae Taith Merched OVO Energy yn rhan o’r WorldTour UCI i Ferched, sy’n cynnwys 23 o rasys mewn 10 o wledydd.