Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru wedi penderfynu y dylid gwneud diwygiadau i'r newidiadau arfaethedig gwreiddiol yr ymgynghorwyd arnynt ym mis Hydref 2020. Mae'r diwygiadau hyn yn ddigon gwahanol i'r newidiadau arfaethedig gwreiddiol fel bod angen ymgynghori ymhellach mewn perthynas â'r diwygiadau hyn.

Cefndir

Mae'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, datblygu gweithlu â sgiliau priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r trefniadau Isafswm Cyflog Amaethyddol (AMW), yn cynnig unrhyw newidiadau angenrheidiol ac yn ymgynghori ar eu cynigion cyn eu cyflwyno mewn Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (AWO) drafft i Weinidogion Cymru i'w hystyried. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd, mae gan y Gorchymyn awdurdod cyfreithiol yng Nghymru.

Wrth wneud eu penderfyniadau, mae'r Panel yn defnyddio eu harbenigedd ac yn ystyried yr amodau economaidd yn y diwydiant ar y pryd, yn ogystal ag unrhyw ofynion cyfreithiol (fel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol). Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn cael cyflog, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg a adolygir yn rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Unite a thri aelod annibynnol.

Mae is-adran nawdd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol y Panel, ac mae cwmni cyfreithiol allanol yn cynghori'r Panel ar unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi a chydymffurfiaeth gyfreithiol yn gyffredinol. Maent yn paratoi'r Gorchmynion Cyflogau drafft sy'n gweithredu penderfyniadau'r Panel hefyd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig i'r telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr amaethyddol i’w cynnwys yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2021 (‘Gorchymyn 2021’) ym mis Hydref 2020.

Mae'r Panel wedi penderfynu y dylid gwneud diwygiadau i'r newidiadau arfaethedig gwreiddiol hynny. Mae'r diwygiadau hyn yn ddigon gwahanol i'r newidiadau arfaethedig gwreiddiol fel bod angen ymgynghori ymhellach mewn perthynas â'r diwygiadau hyn.

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar y diwygiadau hyn a gynigiwyd yng nghyfarfod y Panel ar 6 Medi 2021.

Cwestiynau

  1. A ydych yn cytuno â'r diwygiadau i eiriad graddau arfaethedig yn y strwythur graddio newydd?
  2. Ydych chi'n cytuno â chynnwys Atodlen 4 newydd sy'n amlinellu cymwysterau cyfatebol?
  3. Os nad ydych, esboniwch pam ac a oes gennych unrhyw gynigion eraill y mae’n bosibl y byddai’r Panel yn dymuno eu hystyried?

1. Diwygiadau i eiriad graddau arfaethedig yn y strwythur graddio newydd

Amlinellwyd y strwythur graddio newydd ar gyfer gweithwyr amaethyddol yng Nghymru yn Atodiad A i'r ymgynghoriad gwreiddiol dyddiedig 26 Hydref 2020.

Mae'r Panel yn cynnig diwygio'r geiriad i adlewyrchu'n fwy cywir y gofynion o ran cymwysterau mewn perthynas â Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Lefel A, Gweithiwr Amaethyddol Lefel B, Gweithiwr Amaethyddol Uwch Lefel C ac Uwch-weithiwr Amaethyddol Lefel D fel a ganlyn (nodir y geiriad diwygiedig mewn print trwm ac fe’i tanlinellir):

Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A

Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy'n berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth, nad yw wedi cwblhau prentisiaeth (yn unol â’r fframwaith prentisiaethau yng Nghymru neu’r hyn ddaeth cyn hynny neu brentisiaeth gyfatebol y tu allan i Gymru) y mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.

Gweithiwr Amaethyddol Gradd B

Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd

  1. yn darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr eu bod wedi cael y prif gymhwyster neu'r cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae'n rhaid iddynt fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth, yn unol â'r fframwaith prentisiaeth yng Nghymru neu ei ragflaenydd(ragflaenwyr) neu wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o'r tu allan i Gymru, fel y nodir yn Atodlen 4 y mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth;  neu
  2. ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B.

Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C

Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd

  1. yn darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr eu bod wedi cael y prif gymhwyster neu'r cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae'n rhaid iddynt fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth, yn unol â'r fframwaith prentisiaeth yng Nghymru neu ei ragflaenydd(ragflaenwyr) neu wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o'r tu allan i Gymru,  fel y nodir yn Atodlen 4 y mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth; 
  2. ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B neu
  3. yn cael ei gyflogi fel arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.

At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro cydymffurfiaeth y tîm â chyfarwyddiadau a roddir gan eu cyflogwr neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw'n gyfrifol am faterion disgyblu.

Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D

Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd

  1. yn darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr eu bod wedi cael y prif gymhwyster neu'r cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae'n rhaid iddynt fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth, yn unol â'r fframwaith prentisiaeth yng Nghymru neu ei ragflaenydd(ragflaenwyr) neu wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o'r tu allan i Gymru,  fel y nodir yn Atodlen 4 y mae'n rhaid iddo fod yn berthnasol i'w rôl mewn amaethyddiaeth; neu
  2. â chyfrifoldebau gan gynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,

gael ei gyflogi fel Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.

2. Cynnwys Atodlen 4 newydd sy'n amlinellu cymwysterau cyfatebol

Mae'r Panel yn cynnig ymhellach gynnwys Atodlen 4 newydd yng Ngorchymyn 2021 sy'n amlinellu'r cymwysterau cyfatebol y cyfeirir atynt yn y disgrifiadau gradd ar gyfer Gweithiwr Amaethyddol Lefel B, Gweithiwr Amaethyddol Uwch Lefel C ac Uwch-weithiwr Amaethyddol Lefel D.

Bydd yr Atodlen 4 newydd yn cynnwys dau dabl sy'n nodi'r cymwysterau cyfatebol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Iwerddon a’r Alban ac o dan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd fel a ganlyn:

Cymwysterau cyfatebol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Iwerddon, a’r Alban
Cymru Lloeger Gogledd Iwerddon  Iwerddon Yr Alban

Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2

Prentisiaeth Ganolradd Lefel 2  Hyfforddeiaethau Gogledd Iwerddon Lefel 2 - Prentisiaeth Fodern Lefel 5
Prentisiaeth Lefel 3 Uwch Brentisiaeth Lefel 3 Prentisiaeth Gogledd Iwerddon Lefel 3 Prentisiaeth Lefel 5 Prentisiaeth Fodern, Prentisiaeth Sylfaen Lefel 6
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Lefel 6 Prentisiaeth Fodern Lefel 7
Cymwysterau cyfatebol o dan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (‘EQF’)
Cymru EQF
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 EQF Lefel 3
Prentisiaeth Lefel 3 EQF Lefel 4
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 EQF Lefel 5

Amdanoch chi

4. Rhowch wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad. Os oes modd, dylech gynnwys manylion am yr alwedigaeth neu'r sector yr ydych yn ymwneud ag ef, eich gweithlu os ydych yn gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr Isafswm Cyflog Amaethyddol, eu graddau a'u cyfraddau), ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol yn eich barn chi.

Ymatebion

Dylid cyflwyno sylwadau ar y cynigion hyn erbyn 19 Tachwedd 2021 er mwyn i'r Panel allu cyflwyno cyngor i'r Gweinidogion fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.  

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu â'r Panel hefyd, a lle mae Llywodraeth Cymru neu'r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yna gall y gwaith hwn gael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Gellir cyhoeddi ymatebion yn llawn i ddangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os ydych am aros yn ddienw, nodwch eich dewis pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn yn dileu eich manylion cyn cyhoeddi.

Dylech fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth hefyd.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata amdanoch a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae gennych hawliau fel unigolyn mewn perthynas â'r ffordd y caiff eich data personol eu cadw a'u prosesu. I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan

Ymatebwch i Reolwr y Panel yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod neu drwy e-bost i: AAP@llyw.cymru  

Rheolwr y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Atodiad A: Cwestiynau

  1. A ydych yn cytuno â'r diwygiadau i eiriad graddau arfaethedig yn y strwythur graddio newydd?
  2. Ydych chi'n cytuno â chynnwys Atodlen 4 newydd sy'n amlinellu cymwysterau cyfatebol?
  3. Os nad ydych, esboniwch pam ac a oes gennych unrhyw gynigion eraill y mae’n bosibl y byddai’r Panel yn dymuno eu hystyried?
  4. Rhowch wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad. Os oes modd, dylech gynnwys manylion am yr alwedigaeth neu'r sector yr ydych yn ymwneud ag ef, eich gweithlu os ydych yn gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr Isafswm Cyflog Amaethyddol, eu graddau a'u cyfraddau), ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol yn eich barn chi.