Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru

2. Teitl cynllun y cymhorthdal

Cronfa Adfer ac Ailadeiladu Diwylliannol Cymru

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Daw’r pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i ganiatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y Cynllun o’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (adran 1) (fel y’i diwygiwyd)
  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (adran 126)
  • Deddf Datblygu Diwydiannol 1982 (adran 7), a
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A, 60 70 a 71(1))

Rhaid i'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y Cynllun hwn gydymffurfio â threfn rheoli cymorthdaliadau'r DU ac mae'r terfynau a nodir yn yr atodlenni rydym wedi’u hatodi isod yn cyd-fynd â throthwyon presennol yr UE i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer unrhyw gymhorthdal sy'n uwch na'r terfynau a nodir.

Rhaid i bob cymorth o dan y 'Fframwaith Dros Dro ar gyfer Mesurau Cymorth Gwladwriaethol i Gefnogi'r Economi o dan y COVID-19 presennol' gydymffurfio â'r rheolau a nodir yn y Fframwaith Dros Dro.

Fersiwn llawn o'r fframwaith dros dro ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

4. Diffiniadau

Ystyr "dyddiad rhoi'r cymorth" yw'r dyddiad y rhoddir yr hawl gyfreithiol i’r buddiolwr gael y cymorth o dan y drefn gyfreithiol genedlaethol berthnasol.

Ystyr "menter fawr" yw unrhyw fenter nad yw'n fusnes bach a chanolig (BBaCh) (fel y'i diffinnir isod).

Ystyr "elw gweithredol" yw'r gwahaniaeth rhwng y refeniw wedi’i ddisgowntio a'r costau gweithredu wedi’u disgowntio dros oes economaidd y buddsoddiad, lle mae'r gwahaniaeth hwn yn un cadarnhaol. Mae'r costau gweithredu yn cynnwys costau fel costau personél, deunyddiau, gwasanaethau dan gontract, cyfathrebu, ynni, cynnal a chadw, rhent, gweinyddu, ond nid costau dibrisiant a chostau ariannu os ydynt yn elfennau o’r cymorth buddsoddi. Mae disgowntio refeniw a chostau gweithredu gan ddefnyddio cyfradd ddisgowntio briodol yn ei gwneud yn bosibl gwneud elw rhesymol.

Pennir "elw rhesymol" yn ôl yr elw sy’n nodweddiadol i'r sector dan sylw. P’run bynnag, mae cyfradd enillion ar gyfalaf nad yw’n fwy na'r gyfradd trwco/ffeirio berthnasol ynghyd â phremiwm o 100 pwynt sylfaen yn cael ei ystyried yn elw rhesymol.

Ystyr "blaenswm ad-daladwy" yw benthyciad ar gyfer prosiect sy’n cael ei dalu mewn un rhandaliad neu fwy a bydd yr amodau ar gyfer ei ad-dalu yn dibynnu ar ganlyniad y prosiect.

Ystyr "BBaCh" yw menter sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae'r categori busnesau micro, bach a chanolig ('BBaChau') yn cynnwys busnesau sy'n cyflogi llai na 250 o bobl ac sydd â throsiant blynyddol nad yw'n fwy na EUR 50 miliwn, a/neu nad yw ei fantolen flynyddol yn fwy na EUR 43 miliwn
  • fewn y categori BBaChau, diffinnir menter fach fel menter sy'n cyflogi llai na 50 o bobl ac nad yw cyfanswm ei throsiant blynyddol a/neu ei mantolen flynyddol yn fwy na EUR 10 miliwn
  • fewn y categori BBaChau, diffinnir micro-fenter fel menter sy'n cyflogi llai na 10 o bobl ac nad yw cyfanswm ei throsiant blynyddol a/neu ei mantolen flynyddol yn fwy na EUR 2 miliwn.

Ystyr "dechrau gwaith" yw'r cynharaf o naill ai ddechrau'r gwaith adeiladu sy'n ymwneud â'r buddsoddiad, neu'r ymrwymiad cyfreithiol rhwymol cyntaf i archebu offer neu unrhyw ymrwymiad arall sy'n gwneud y buddsoddiad yn ddi-droi'n-ôl. Nid ystyrir bod prynu tir a gwaith paratoi megis cael trwyddedau a chynnal astudiaethau dichonoldeb yn ddechrau gwaith. O ran cymryd awenau sefydliad, ystyr 'dechrau gwaith' yw'r foment pan y caffaelir yr asedau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sefydliad sy’n cael ei gaffael.

"Cymhorthdal"; mae gan fesur cymorth bedair (4) nodwedd allweddol sy'n debygol o ddangos y byddai'n cael ei ystyried yn gymhorthdal:

  • Yn gyntaf, rhaid i gymhorthdal fod yn gyfraniad ariannol (neu mewn nwyddau) fel grant, benthyciad neu warant.
  • Hefyd, rhaid i'r cyfraniad ariannol gael ei ddarparu gan 'awdurdod cyhoeddus', gan gynnwys llywodraeth ganolog, ddatganoledig, ranbarthol neu leol, ymhlith eraill.
  • Yn drydydd, rhaid i’r cymhorthdal hefyd roi budd dethol i'r derbynnydd, sef mantais economaidd na all ei chael ar delerau'r farchnad.
  • Yn olaf, rhaid i'r cymhorthdal ystumio neu niweidio cystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad.

Ystyr "dwysedd y cymhorthdal" yw swm gros y cymorth wedi’i fynegi fel canran o'r costau cymwys, cyn tynnu treth neu dâl arall

Ystyr "ymgymeriad mewn anhawster" yw ymgymeriad o dan o leiaf un o'r amgylchiadau canlynol:

  1. Yn achos cwmni atebolrwydd cyfyngedig (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf cyfranddaliadau wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. Hynny pan dynnir y colledion cronedig o gronfeydd wrth gefn (a'r holl elfennau eraill a ystyrir yn gyffredinol fel rhan o gronfeydd y cwmni), esgorir ar swm cronnol negyddol sy'n fwy na hanner y cyfalaf cyfranddaliadau sydd wedi’i danysgrifio.
  2. Yn achos cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni (ac eithrio BBaCh sy’n llai na thair oed neu, at ddiben bod yn gymwys am gymorth cyllid risg, BBaCh y mae llai na 7 mlynedd ers ei werthiant masnachol cyntaf ac sy'n gymwys am fuddsoddiad cyllid risg yn dilyn archwiliad diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf fel y’i dangosir yng nghyfrifon y cwmni wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae "cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni" yn cyfeirio'n benodol at y mathau canlynol o gwmni:
    • partneriaethau
    • partneriaethau cyfyngedig, a
    • chwmnïau anghyfyngedig.
  3. Bod yr ymgymeriad yn destun achos o ansolfedd ar y cyd neu'n bodloni'r meini prawf o dan ei gyfraith ddomestig ar gyfer achos o ansolfedd ar y cyd ar gais ei gredydwyr.
  4. Lle mae'r ymgymeriad wedi cael cymorth achub ac nad yw eto wedi ad-dalu'r benthyciad neu wedi terfynu'r warant, neu sydd wedi cael cymorth ailstrwythuro ac yn dal i fod yn destun cynllun ailstrwythuro.
  5. Yn achos ymgymeriad nad yw'n BBaCh, lle, am y ddwy flynedd ddiwethaf:
    1. mae’r gymhareb rhwng dyled yr ymgymeriad ar ei lyfrau a’i ecwiti wedi bod yn fwy na 7,5 a lle
    2. mae cymhareb llog EBITDA yr ymgymeriad wedi bod yn is na 1,0.

5. Amcanion y cynllun

Helpu i ddiogelu sefydliadau cynaliadwy a swyddi yn y sector diwylliant er mwyn sicrhau ei fod yn goroesi argyfwng Covid-19. Ei alluogi i barhau'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy yn 2021.

Nod y cynllun yw cefnogi trawsnewid y sector. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi pecyn achub ac adfer sy'n cyd-fynd o ran polisi â thelerau ac amodau Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun COVID-19 mewn atodlen ar wahân.

6. Y corff llywodraethu sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

7. Cwmpas y cynllun

Bydd y sefydliadau diwylliannol a threftadaeth canlynol yn cael elwa ar y cynllun:

  • mannau cynnal cerddoriaeth
  • mudiadau a safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd
  • archifau
  • llyfrgelloedd
  • sinemâu annibynnol, a
  • digwyddiadau diwylliannol neu dreftadol.

Ni roddir cymorth os yw'r derbynnydd arfaethedig:

  • wedi cael gorchymyn i ad-dalu cymhorthdal a roddwyd yn y DU sydd wedi’i ddatgan yn gymhorthdal anghyfreithlon, Neu
  • Yn achos cymhorthdal a ddarperir o dan atodlen 1; lle rhoddir cymorth i ymgymeriad a oedd mewn anhawster (gweler y diffiniad) cyn 31 Rhagfyr 2019 oni bai ei fod yn fenter fach neu'n ficro-fenter nad yw wedi derbyn cymorth achub ac ailstrwythuro
  • Yn achos cymhorthdal a ddarperir o dan atodlen 2; lle rhoddir cymorth i ymgymeriad mewn anhawster (gweler y diffiniad).

8. Hyd y cynllun

Bydd modd rhoi cymorth o dan y Cynllun hwn rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Ionawr 2022.

9. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun hwn

Er nad oes cyllideb benodedig ar gyfer y cynllun hwn, amcangyfrifir y caiff cyfanswm o ryw £30 miliwn ei wario rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2021.

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a roddir o dan y Cynllun yn dryloyw. Bydd modd rhoi cymorth ar ffurf grantiau.

11. Gweithgareddau cymwys y gall y cynllun eu cefnogi

Mae'r Cynllun yn cefnogi gweithgareddau sy’n diogelu Diwylliant a Threftadaeth lle bernir bod y cyllid yn gymhorthdal.

Disgrifir yn fanwl yn Atodlen 1 y gweithgareddau cymwys y bwriedir iddynt gywiro’r aflonyddu difrifol a fu ar yr economi.

Disgrifir yn fanwl yn Atodlen 2 y gweithgareddau cymwys y bwriedir iddynt helpu i ddiogelu diwylliant a threftadaeth drwy newid trawsnewidiol.

Os nad oes modd cynorthwyo derbynwyr cymwys yn unol â hynny, gellir dyfarnu symiau bach o gymorth ariannol iddynt yn unol ag Erthygl 3.2 paragraff 4 o Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE.

12. Effaith y cymhelliad

Bwriad y cymhorthdal yw newid ymddygiad economaidd y buddiolwr. Bernir bod yr egwyddor hon wedi’i bodloni lle bydd y cymorth yn bodloni'r holl amodau a nodir naill ai yn nhrefn rheoli cymhorthdal y DU neu yn Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi o dan y COVID-19 presennol.

13. Cronni

Wrth benderfynu a lwyddwyd i gadw o fewn y trothwyon dwysedd unigol a therfyn dwysedd y cymhorthdal, rhaid ystyried yr holl gefnogaeth gyhoeddus sydd wedi’i rhoi i'r gweithgaredd neu’r prosiect a gynorthwyir, ni waeth pwy sydd wedi ariannu’r cymorth hwnnw, boed ffynhonnell leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu'r Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd modd cyfuno’r cymhorthdal a ddarperir o dan y Cynllun hwn â mathau eraill o gymorth na chyda chymorth sy’n cael ei ystyried yn 'symiau bach o gymorth' ar gyfer yr un costau cymwys os bydd swm hynny’n uwch na’r terfynau cymorth perthnasol.

Mae mecanwaith wedi'i sefydlu fel rhan o'r broses ymgeisio i sicrhau nad yw'r cymorth o’i gronni yn fwy na’r dwysedd mwyaf a ganiateir o dan y Cynllun. Caiff archwiliadau diwydrwydd dyladwy eu cynnal yn ystod y broses ddyfarnu.

Os dyfernir y cymhorthdal yn unol â Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi o dan y COVID-19 presennol, gellir dyfarnu hyd at £1,600,000, gan gynnwys unrhyw gymhorthdal arall sy'n deillio o Fframwaith Dros Dro'r UE sydd eisoes wedi'i dderbyn gan yr ymgeisydd.

14. Gofynion monitro ac adrodd

Bydd pawb sy'n derbyn cymhorthdal o dan y Cynllun yn cael gwybod bod y cymorth wedi'i ddarparu o dan y Cynllun, a fydd wedi’i gofrestru o dan SC10245, 'Cronfa Adfer ac Ailadeiladu Diwylliant Cymru' neu Fframwaith Dros Dro'r UE i gefnogi'r economi yng nghyd-destun COVID-19.

Cedwir cofnodion am 10 mlynedd o ddyddiad dyfarnu'r cymhorthdal diwethaf o dan y Cynllun. Bydd y cofnodion yn ddigon manwl i allu cadarnhau a yw amodau'r Cynllun yn cael eu bodloni.

Bydd manylion unrhyw ddyfarniad sy'n fwy na £500,000 a roddir o dan y cynllun hwn ar gael i'r cyhoedd eu gweld ar wefan Cronfa Ddata Tryloywder Cymhorthdal y DU o fewn 6 mis ar ôl ei roi.

Cyhoeddir adroddiadau blynyddol neu bob dwy flynedd ar wariant o dan y Cynllun hwn er mwyn cydymffurfio ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU o ran cymhorthdal.

Yn unol ag ymrwymiadau'r DU o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU-UE, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r holl wybodaeth a dogfennau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i bartïon â diddordeb i ddangos eu bod yn cydymffurfio â threfn rheoli cymhorthdal y DU o fewn mis ar ôl iddi derbyn cais i’w gweld.

Gwybodaeth gysylltu:

Uned Polisi Cymorth Gwladol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Cymru

Ffôn: + 44 (0)3000 253568
E-bost: state.aid@gov.wales

Atodlen 1: Cymorthdaliadau Adfer Diwylliannol y bwriedir iddynt gywiro’r aflonyddu difrifol a fu yn yr economi

Bydd y Gronfa Adferiad Diwylliannol yn helpu i gefnogi a chynnal y sector oherwydd yr heriau sy’n parhau i ddeillio o bandemig Covid-19. Bwriad y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i sefydliadau yn y sector, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, digwyddiadau a'u gwasanaethau cymorth technegol (fel y'u diffinnir isod), a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi gweld colledion ariannol mawr oherwydd y pandemig. Bydd y gronfa'n helpu sefydliadau i oresgyn yr argyfwng. Er mai pecyn achub ac adfer yw hwn yn bennaf, mae'n gyfle unigryw i sicrhau trawsnewidiad o fewn y sector.

Prif waith (mwy na 60%) Gwasanaethau Technegol a Chymorth Creadigol yw darparu gwasanaethau craidd i'r sectorau canlynol:

  • Digwyddiadau (digwyddiadau diwylliannol, chwaraeon neu fusnes sy'n cyd-fynd â'n strategaeth Digwyddiadau Cymru, fel y'u diffinnir yn y meini prawf cymhwysedd ym mharagraff/tudalen x o'r Canllawiau hyn)
  • Sinemâu Annibynnol
  • Sector y Celfyddydau (cerddoriaeth, dawns, theatr, llenyddiaeth, celfyddydau gweledol a chymhwysol, celfyddydau cyfunol, Celf Ddigidol)
  • Lleoliadau Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad

Bydd busnesau’n gweithredu neu'n cyflogi yng Nghymru a byddant wedi gweld gostyngiad sylweddol yn eu trosiant yn y 12 mis diwethaf. Dylai busnesau allu dangos iddynt weithredu er budd y sectorau hyn o fewn y 3 blynedd diwethaf.

Mae busnesau o dan y penawdau canlynol yn cael gwneud cais:

  • Sain
  • Goleuadau 
  • AV, ffilm neu ffotograffiaeth
  • Gwasanaethau Llwyfannu neu Gynhyrchu
  • Llogi a gosod offer llwyfannu
  • Atebion achredu/tocynnau (e.e. bandiau arddwrn)
  • Cyfleustodau dros dro e.e. generaduron trydan/pŵer
  • Gwasanaethau TG arbenigol (e.e. apiau, gwasanaethau amseru ar gyfer chwaraeon neu gapsiynau ar gyfer pobl fyddar)
  • Dylunwyr a gosodwyr arddangosfeydd/stondinau (ar gyfer digwyddiadau busnes yn unig) 
  • Asiantwyr/asiantaethau adloniant sy'n darparu artistiaid (i ddigwyddiadau cymwys, lleoliadau cerddoriaeth neu ddisgyblaethau proffesiynol CCC)

Ni fydd y busnesau canlynol yn gymwys:

  • Asiantaethau marchnata/PR
  • Argraffu, dylunio neu frandio/gwisgo digwyddiadau
  • Cynhyrchu/gosod arwyddion
  • Gwneuthurwyr medalau/tlysau
  • Artistiaid, diddanwyr, bandiau unigol (Dylent ymgeisio trwy’r Gronfa i Artistiaid Llawrydd)
  • Gwneuthurwyr/manwerthwyr nwyddau
  • Cyflenwyr/manwerthwyr bwyd a diod a chwmnïau arlwyo
  • Trafnidiaeth (e.e. gwasanaethau parcio a theithio)/parcio.

A. Lwfans y Grant Busnes Adferiad Diwylliannol

Gellir talu cymorth sy'n cyd-fynd â’r 'Fframwaith Dros Dro ar gyfer Mesurau Cymorth Gwladwriaethol i Gefnogi'r Economi yng nghyd-destun COVID-19' yn unol â'r Egwyddorion a nodir yn Erthygl 3.4 o'r TCA ac yn unol ag Erthygl 3.2(3) o'r TCA o dan Lwfans Grant Busnes COVID-19 (cymorthdaliadau a roddir am gyfnod dros dro i ymateb i argyfwng economaidd cenedlaethol neu fyd-eang).

Uchafswm y cymorth a ganiateir yw £1,600,000 fesul ymgymeriad. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau busnes COVID-19 y DU sydd eisoes wedi’u derbyn ac unrhyw gymorth gwladwriaethol o dan Adran 3.1 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd sydd eisoes wedi’i dderbyn ar draws unrhyw gynllun arall yn y DU.

B. Lwfans Arbennig y Grant Busnes Adferiad Diwylliannol

Pan fydd ymgeisydd wedi cyrraedd ei derfyn o dan Lwfans Grant Busnes Adferiad Diwylliannol Atodlen 1A, mae’n bosibl y bydd lwfans pellach ar gael iddo o dan reolau'r cynllun hwn o hyd at £9,000,000 fesul actor economaidd unigol, cyn belled â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  1. Mae'r Lwfans Arbennig yn cwmpasu yn unig gostau sefydlog yr ymgeisydd (heb ffynhonnell incwm) dros y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2022, gan gynnwys costau o'r fath a ysgwyddir mewn unrhyw ran o'r cyfnod hwnnw ('cyfnod cymwys')
  2. Rhaid i ymgeisydd ddangos iddo weld gostyngiad sylweddol yn ei drosiant dros y cyfnod cymwys o’i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Cyfrifir ei golledion ar sail ei gyfrifon archwiliedig neu ei gyfrifon statudol swyddogol a gafodd eu ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau, neu ei gyfrifon cymeradwy a gyflwynwyd i CThEM sy'n cynnwys gwybodaeth am elw a cholled yr ymgeisydd
  3. Ystyr 'costau sefydlog heb ffynhonnell incwm’ yw costau sefydlog nad oes elw, yswiriant na chymhorthdal arall i dalu amdanynt
  4. Ni chaiff y taliad grant fod yn fwy na 70% o gostau sefydlog (heb ffynhonnell incwm) yr ymgeisydd, ac eithrio mentrau micro a bach (at ddibenion y cynllun hwn a ddiffinnir fel rhai â llai na 50 o weithwyr ac â throsiant blynyddol a/neu mantolen flynyddol o lai na £9,000,000), lle na ddylai'r taliad grant fod yn fwy na 90% o'r costau sefydlog heb ffynhonnell incwm
  5. Ni chaiff taliadau grant o dan y lwfans hwn fod yn fwy na £9,000,000 fesul un actor economaidd. Mae'r lwfans hwn yn cynnwys unrhyw grantiau sydd eisoes wedi’u derbyn yn unol ag Adran 3.12 o Fframwaith Dros Dro'r Comisiwn Ewropeaidd; rhaid i'r holl ffigurau a ddefnyddir fod yn rhai gros, hynny yw, cyn tynnu treth neu dâl arall
  6. Ni fydd modd cyfuno’r grantiau a ddarperir o dan y lwfans hwn â chymorthdaliadau eraill ar gyfer yr un costau.

Atodlen 2: Cymorthdaliadau Ailadeiladu Diwylliannol y bwriedir iddynt helpu i ddiogelu diwylliant a threftadaeth trwy newid trawsnewidiol

Gellir darparu cymorth at y dibenion a’r gweithgareddau diwylliannol canlynol:

  1. Amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd, canolfannau neu ofodau celfyddydol a diwylliannol, theatrau, sinemâu, tai opera, neuaddau cyngerdd, sefydliadau perfformiad byw eraill, sefydliadau treftadaeth ffilm a sefydliadau, seilwaith a mudiadau celfyddydol a diwylliannol tebyg eraill
  2. Treftadaeth ddiriaethol gan gynnwys pob math o safleoedd treftadaeth ddiwylliannol ac archeolegol symudol neu sefydlog, henebion, safleoedd ac adeiladau hanesyddol; treftadaeth naturiol sy'n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol neu os yw wedi’i chydnabod yn ffurfiol fel treftadaeth ddiwylliannol neu naturiol gan awdurdod cyhoeddus cymwys Aelod-wladwriaeth
  3. Treftadaeth anniriaethol o unrhyw ffurf, gan gynnwys arferion a chrefftau gwerin;
  4. Digwyddiadau a pherfformiadau celf neu ddiwylliannol, gwyliau, arddangosfeydd a gweithgareddau diwylliannol tebyg eraill
  5. Gweithgareddau addysg ddiwylliannol a chelfyddydol yn ogystal â hyrwyddo'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu a hyrwyddo amrywiaeth o ran mynegiant diwylliannol drwy raglenni addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd
  6. Ysgrifennu, golygu, cynhyrchu, dosbarthu, digideiddio a chyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys cyfieithiadau.

Ffurfiau cymwys o gymorth

Rhoddir y ffurfiau canlynol o gymorth:

  • Cymorth buddsoddi, gan gynnwys cymorth ar gyfer adeiladu neu i wella seilwaith diwylliannol
  • Cymorth gweithredu.

Costau cymwys

Bydd costau cymwys ar gyfer cymorth buddsoddi’n cynnwys:

  • costau ar gyfer adeiladu, caffael, diogelu neu wella seilwaith, os defnyddir o leiaf 80% o naill ai ei amser neu gapasiti'r gofod y flwyddyn at ddibenion diwylliannol
  • costau, gan gynnwys prydlesu, trosglwyddo meddiant neu adleoli ffisegol y dreftadaeth ddiwylliannol
  • costau ar gyfer gwarchod, diogelu, adfer ac adsefydlu treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol, gan gynnwys costau ychwanegol ar gyfer ei storio o dan amodau priodol, offer arbennig, deunyddiau a chostau dogfennu, ymchwil, digideiddio a chyhoeddi
  • costau ar gyfer gwella hygyrchedd treftadaeth ddiwylliannol i'r cyhoedd, gan gynnwys costau digideiddio a thechnolegau newydd eraill, costau i wella hygyrchedd i bobl ag anghenion arbennig (yn arbennig, rampiau a lifftiau ar gyfer pobl anabl, arwyddion braille ac arddangosion cyffwrdd mewn amgueddfeydd) ac ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol mewn perthynas â chyflwyniadau, rhaglenni ac ymwelwyr
  • costau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau diwylliannol, rhaglenni cydweithredu a chyfnewid a grantiau gan gynnwys costau ar gyfer gweithdrefnau dethol, costau hyrwyddo a chostau a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect.

Y costau cymwys ar gyfer cymorth gweithredu yw:

  • costau'r sefydliad diwylliannol neu'r safle treftadaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau di-dor neu gyfnodol gan gynnwys arddangosfeydd, perfformiadau a digwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol tebyg sy'n digwydd yng nghwrs arferol busnes
  • costau gweithgareddau addysg ddiwylliannol a chelfyddydol yn ogystal â hyrwyddo'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd diogelu a hyrwyddo amrywiaeth o ran mynegiant diwylliannol drwy raglenni addysgol a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, gan gynnwys defnyddio technolegau newydd;
  • costau ar gyfer gwella hygyrchedd i’r cyhoedd i’r sefydliad diwylliannol neu'r safle neu weithgaredd treftadaeth, gan gynnwys costau digideiddio a thechnolegau newydd eraill ynghyd â chostau i wella hygyrchedd i bobl ag anableddau
  • costau gweithredu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect neu’r gweithgaredd diwylliannol, megis rhentu neu brydlesu eiddo tiriog a lleoliadau diwylliannol, treuliau teithio, deunyddiau a chyflenwadau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r prosiect neu’r gweithgaredd diwylliannol, strwythurau pensaernïol ar gyfer arddangosfeydd a setiau llwyfan, benthyca a phrydlesu offer, meddalwedd a chyfarpar a’u dibrisiant, costau ar gyfer hawliau i waith hawlfraint a deunyddiau eraill sydd wedi’u diogelu gan hawliau eiddo deallusol cysylltiedig, costau hyrwyddo a chostau a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect neu’r gweithgaredd: ni fydd costau dibrisiant a chyllido’n gymwys oni bai nad oedd cymorth buddsoddi ar eu cyfer.
  • costau personél sy'n gweithio i'r sefydliad diwylliannol neu’r safle treftadaeth neu ar gyfer prosiect
  • cost cyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth yw cost cyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys ffioedd yr awduron (costau hawlfraint), ffioedd cyfieithwyr, ffioedd golygyddion, costau golygyddol eraill (prawfddarllen, cywiro, adolygu), costau diwyg a chyn argraffu a chostau argraffu neu e-gyhoeddi.
  • costau gwasanaethau cynghori a chymorth a ddarperir gan ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau allanol, a ysgwyddir yn uniongyrchol o ganlyniad i'r prosiect.

Dwysedd y cymorth sy’n gymwys

  1. Cymorth buddsoddi – ni fydd swm y cymorth yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng y costau cymwys ac elw gweithredol y buddsoddiad. Bydd yr elw gweithredol yn cael ei dynnu o'r costau cymwys ex-ante, ar sail amcanestyniadau rhesymol, neu drwy fecanwaith adfer arian. Caniateir i weithredwr y seilwaith gadw elw rhesymol dros y cyfnod perthnasol.
  2. Cymorth gweithredu – ni fydd swm y cymorth yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol i dalu am golledion gweithredu a rhoi elw rhesymol dros y cyfnod perthnasol. Sicrheir hyn ex-ante, ar sail amcanestyniadau rhesymol, neu drwy fecanwaith adfer arian.
  3. Os nad yw cyfanswm y cymorth yn fwy nag £1.75m ar gyfer cymorth buddsoddi a chymorth gweithredu, gellir cefnogi hyd at 80% o gyfanswm y costau cymwys heb ystyried y gwahaniaeth rhwng costau cymwys a’r elw gweithredol neu’r colledion gweithredol.
  4. Ar gyfer ysgrifennu, golygu, cynhyrchu, dosbarthu, digideiddio a chyhoeddi cerddoriaeth a llenyddiaeth, gan gynnwys cyfieithiadau, ni fydd uchafswm y cymorth yn fwy na naill ai:
    1. y gwahaniaeth rhwng y costau cymwys a refeniw wedi’i ddisgowntio’r prosiect: neu
    2. 70% o'r costau cymwys.
    Bydd y refeniw'n cael ei dynnu o'r costau cymwys ex ante neu drwy fecanwaith adfer arian.
  5. Ni fydd cymorth ar gyfer papurau newydd neu gylchgronau, a gyhoeddir mewn print neu yn electronig, yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn.

Trothwyon hysbysu i unigolion

Nodir y cymorth mwyaf y gall y cynllun hwn ei ddarparu yn y tabl isod. Bydd grant sy'n uwch na'r lefelau hyn yn cael ei gynnig ar sail ad hoc a bydd yn parchu gofynion Tryloywder grantiau ad hoc yn unol â threfn rheoli cymhorthdal y DU.

Math o gymorth Trothwy hysbysu (£)
Cymorth Buddsoddi £130 miliwn y prosiect
Cymorth Gweithredu £65 miliwn yr ymgymeriad, y flwyddyn