Neidio i'r prif gynnwy

Gall busnesau ledled Cymru bellach gael gwybod a ydyn nhw’n gallu gwneud cais am drydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos diweddaf cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, gyfnod newydd y gronfa, a fydd yn gweld £140 miliwn yn cael ei wneud ar gael i fusnesau.

Bydd y gwiriwr cymhwysedd yn galluogi busnesau i wirio a ydyn nhw’n gymwys i gael mynediad at y rhan hon o’r gronfa, gwerth £80 miliwn, a fydd yn cefnogi cwmnïau a chanddynt brosiectau a fydd yn eu helpu i fod yn rhan o economi’r dyfodol. Disgwylir i gwmnïau fuddsoddi eu harian eu hunain a meddu ar gynllun clir ynghylch y ffordd y byddan nhw’n addasu i’r economi yn dilyn COVID-19.

Bydd £20 miliwn o’r cyllid hwn yn cael ei glustnodi i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch, sy’n wynebu heriau penodol wrth i’r gaeaf nesáu.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fanylion y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol. Cyhoeddir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at y gronfa hwn ar wefan Busnes Cymru maes o law.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

“Mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i fusnesau ledled Cymru wrth ymdrin ag effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn allweddol i’r gwaith hwn, ac mae eisoes wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi.

“Rydyn ni’n agor y gwiriwr cymhwysedd ar gyfer £80 miliwn nesaf y gronfa fel y gall busnesau ddysgu a ydyn nhw’n debygol o elwa. Rydyn ni wedi clustnodi £20 miliwn o’r cyllid hwn yn enwedig ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch, i gydnabod y pwysau penodol maent yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Bydd y broses ymgeisio yn agor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Hydref. Byddaf hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y gall busnesau yr effeithir arnyn nhw gan gyfyngiadau lleol gael mynediad ar y £60 miliwn rydyn ni wedi ei glustnodi at y diben hwn maes o law.

Bydd y grantiau datblygu busnes gwerth £80 miliwn ar gael i ficrofusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr.

  • Bydd microfusnesau (sy’n cyflogi rhwng 1 a 9 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’r swm maen nhw’n ei dderbyn o’u harian eu hunain.
  • Bydd busnesau bach a chanolig (sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000, ar y amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 10% o’r swm hwn o’u harian eu hunain os ydyn nhw’n fusnes bach (1 i 49 aelod o staff ) ac o leiaf 20% os ydyn nhw’n fusnes canolig (50 i 249).
  • Bydd busnesau mawr (sy’n cyflogi dros 250 o bobl) yn gallu gwneud cais am hyd at £200,000, ar yr amod eu bod yn buddsoddi o leiaf 50% o’r swm hwn o’u harian eu hunain.

Mae’r Gwiriwr Cymhwysedd ar gyfer y rhan hon o’r gronfa ar gael yma

Bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, gwerth hyd at £60 miliwn, yn rhoi grantiau ar sail y system Ardrethi Annomestig i fusnesau sydd wedi dioddef effeithiau sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau lleol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Busnes Cymru maes o law.

Gallai busnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd mewn adeiladau â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 gael grant gwerth £1,500.

Bydd grant gwerth £1,000 ar gael i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.