Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi cefnogi cwmni sy’n gweithgynhyrchu darnau modurol yn Llanelwy, gan ei alluogi i gadw ei weithlu a pharhau i weithredu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae TRB Limited, sy’n is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr y cwmni Tokai Rika o Japan, ar flaen y gad yn gweithgynhyrchu switshys modurol a ddefnyddir mewn cylchedau trydanol cerbydau. Maent yn rheoli mecanweithiau megis gwres, aerdymheru a ffenestri.

Mae TRB yn cyflogi 135 o bobl ac wedi wynebu heriau dros yr ychydig fisoedd diwethaf wrth i’r pandemig effeithio ar ei gadwyn gyflenwi. Mae wedi derbyn £128,500 o’r Gronfa Cadernid Economaidd gan ei helpu i barhau i weithredu dros y tymor hir a chadw ei weithlu.

Mae’r Gronfa sy’n rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn darparu cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ar draws Cymru. Mae’n ategu’r help a ddarperir gan Lywodraeth y DU. 

Hyd yn hyn, mae mwy na 13,000 o fusnesau wedi cael cymorth ariannol o bron i £300 miliwn ac mae’r Gronfa wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi.

Dywedodd Phil Riley, y Dirprwy Reolwr Cyffredinol yn TRB:

Mae’n sicr wedi bod yn gyfnod heriol i TRB Ltd. Rydym yn parhau i lywio ein ffordd drwy’r ansicrwydd y mae busnesau yn ei wynebu yn sgil pandemig y coronafeirws, a’r effaith y mae’n ei chael ar ein cadwyni cyflenwi.

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud a’r gostyngiad dramatig mewn gwerthiannau, roedd yn hanfodol i TRB barhau i reoli’r amseroedd aros hir am fewnforion ac allforion. Roedd y cymorth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wedi ein helpu i oresgyn yr anawsterau a achoswyd gan y coronafeirws. Gwnaeth hyn ein galluogi i gadw ein gweithlu gwerthfawr ac ymroddedig.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates:

Mae’r coronafeirws wedi cyflwyno heriau enfawr i fusnesau ar draws Cymru. Rydym wedi ymateb drwy geisio diogelu cwmnïau, swyddi a bywoliaeth pobl drwy becyn o gymorth gwerth £1.7 biliwn na welwyd ei debyg o’r blaen ac sy’n cael ei ddarparu’n gyflym.

Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhan allweddol o hynny ac yn gwbl hanfodol i gefnogi miloedd o fusnesau ar draws Cymru wrth iddynt ymdopi ag effeithiau economaidd y pandemig.

Rwy’n falch bod y gronfa yn cefnogi TRB Ltd, gan ei helpu i gadw ei weithlu yn ystod yr adeg anodd hon. 

Wrth i’r heriau barhau, byddwn yn dyblu trydydd cyfnod ein Cronfa Cadernid Economaidd, gan sicrhau bod bron £300 miliwn ar gael i fusnesau. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu busnesau yng Nghymru drwy’r cyfnod hynod o anodd hwn.