Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates wedi cyhoeddi bod Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn rhoi help hanfodol i fusnes technoleg rhyngwladol o sir Conwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Robertson Geologging Limited o Ddeganwy wedi cael £51,000 o arian yr ERF i ddiogelu 40 o swyddi yn y cwmni a’i amddiffyn rhag effeithiau difrifol pandemig y coronafeirws.

Mae’r ERF, sy’n rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru, wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol i filoedd o gwmnïau ledled Cymru gan ategu’r help sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hyd yma, mae 12,500 o fusnesau wedi manteisio ar ragor na £280 miliwn o help ariannol sydd wedi diogelu rhagor na 75,000 o swyddi yng Nghymru.

Mae Robertson Geologging, sy’n cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch a gwasanaethau logio geoffisegol ar gyfer diwydiannau amgylcheddol, geodechnegol, daeareg peirianyddol, mwyngloddio, glo ac olew a nwy ledled y byd, wedi defnyddio’r cymorth i gadw ymlaen i weithio trwy’r pandemig.

Dywedodd Simon Garantini, Rheolwr Gyfarwyddwr Robertson Geologging Limited:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r help rydym wedi’i gael trwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Cawsom arian mawr ei angen trwyddi pan roedd y busnes cyfan bron wedi dod i stop oherwydd y pandemig.

“Rydym wedi defnyddio’r arian i dalu’n costau sefydlog, a’r costau gweithredu uwch oherwydd  y coronafeirws. Helpodd ni i newid o geisio rheoli argyfwng i ganolbwyntio ar ein gwaith craidd o gynhyrchu ac allforio’n cynnyrch a’n gwasanaethau ledled y byd.

“Drwyddo, rydym wedi gallu amddiffyn swyddi 40 o’n gweithwyr, gyda phawb yn gweithio gydol yr argyfwng.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates:

“Mae hi’n dal i fod yn gyfnod economaidd hynod anodd ond rydym wedi bod yn glir o ddechrau’r argyfwng ein bod am i fusnesau llewyrchus o ansawdd da barhau i fod yn fusnesau llewyrchus o ansawdd da ar ôl diwedd y pandemig.

“Mae Robertson Geologging wedi gweithio gydol y pandemig ac rwy’n falch o fod wedi gallu rhoi’r cymorth ariannol oedd yn allweddol iddynt allu gwneud hynny. Rydym wedi rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt, pan oedd ei angen arnynt fwyaf, gan helpu i ddiogelu swyddi lleol.

“Rydym wedi dylunio’r Gronfa Cadernid Economaidd a’i £500 miliwn yn fwriadol i lenwi’r bylchau nad yw pecyn cymorth Llywodraeth y DU yn eu llenwi. Felly, o holl wledydd y DU, Cymru sydd â’r ganran uchaf o fusnesau sydd wedi gwneud cais am gymorth dros gyfnod y coronafeirws. Mae hyn yn brawf bod ein cymorth arbennig ni yn gweithio ac yn cyrraedd busnesau, ac yn diogelu miloedd o swyddi.