Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r gronfa cymorth dewisol?

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi taliadau i bobl mewn argyfwng neu bobl sydd angen cymorth i fyw yn annibynnol. Mae’r taliadau yn cael eu rhannu’n ddau fath, yn dibynnu ar ba gategori y mae pobl yn perthyn iddo.

  • Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.
  • Mae Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maen nhw’n symud i mewn iddo.

Gellir dod o hyd i ddata ychwanegol am y DAF, gan gynnwys dadansoddiadau misol, ar StatsCymru. I helpu defnyddwyr i ddehongli’r data, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ansawdd data yn adroddiad ansawdd DAF.

Prif ganfyddiadau

  • Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, rhoddwyd 58,702 o daliadau, gwerth cyfanswm o £8,134,692
  • Roedd 55,009 o’r taliadau hyn yn daliadau EAP gwerth  £4,449,032
  • Roedd 3,693 o’r taliadau hyn yn daliadau IAP gwerth £3,685,660
  • Gwerth cyfartalog (cymedr) taliad EAP oedd £81 a gwerth cyfartalog taliad IAP oedd £998.

Ffigur 1: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP ym mhob chwarter o fis Ebrill 2023 ymlaen

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP, yn ôl chwarter, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin a rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Roedd gwerth taliadau EAP ac IAP rhwng 3.5 a 4.5 miliwn o bunnoedd ar gyfer pob chwarter. Dylid trin cymariaethau â data DAF cyn mis Ebrill 2023 yn ofalus oherwydd newidiadau yn y meini prawf ar gyfer gwneud cais i DAF ac effeithiau pandemig COVID-19. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn adroddiad ansawdd DAF

Ffynhonnell: Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.

Awdurdodau lleol

Ffigur 2: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart far hon yn dangos cyfanswm gwerth taliadau EAP ac IAP a dalwyd ym mhob awdurdod lleol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Amrywiodd gyfanswm gwerth taliadau EAP rhwng £550,167 yng Nghaerdydd a £45,749 yng Ngheredigion. O ran taliadau IAP, amrywiodd gyfanswm gwerth y taliadau rhwng £481,245 yng Nghaerdydd i £37,383 yng Ngheredigion. Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng awdurdodau lleol. 

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC Software Solutions UK ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. 

Amrywiodd werth cyfartalog taliad o £87 yn Sir Benfro i £78  yn Sir Fynwy ar gyfer taliadau EAP ac o £1,146 yn Sir y Fflint i £779 yng Ngheredigion ar gyfer taliadau IAP. 

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul mis, ar gyfer pob awdurdod lleol ar StatsCymru.

Oedran y derbynnydd

Ffigur 3: Gwerth taliadau EAP a thaliadau IAP yn ôl grŵp oedran rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos gwerth taliadau EAP ac IAP a ddyrannwyd yn ôl grŵp oedran rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023. Y grŵp oedran 30 i 39 oed a gafodd y gwerth uchaf o daliadau EAP a thaliadau IAP, a’r grŵp oedran 16 i 29 oed a gafodd y gwerth ail uchaf. Ar gyfer grwpiau oedran hŷn, gostyngodd yr arian a gafwyd o daliadau EAP ac IAP gydag oedran.

Cafodd y rhai 30 i 39 oed daliadau EAP gwerth £1,770,361 a thaliadau IAP gwerth £1,105,900. Cafodd y rhai yn y grŵp oedran 16 i 29 oed daliadau EAP a thaliadau IAP gwerth £1,136,925 a £962,257 yn y drefn honno a chafodd y rhai 70 oed a hŷn daliadau EAP gwerth £34,319 a thaliadau IAP gwerth £80,011. ‌Sylwch nad yw’r canlyniadau hyn wedi’u haddasu ar gyfer y gwahaniaeth yn y boblogaeth rhwng grwpiau oedran. 

Ffynhonnell: ‌‌Data a gasglwyd gan NEC ar ran Llywodraeth Cymru rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.

O ran taliadau EAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £90 i’r rhai 30 i 39 oed a £65 i’r rhai sy’n 70 oed a hŷn. O ran taliadau IAP, amrywiodd werth cyfartalog taliad rhwng £1,090 i’r rhai 16 i 29 oed a £755 i’r rhai sy’n 70 oed a hŷn. 

Gellir dod o hyd i nifer a gwerth y taliadau, fesul mis, ar gyfer pob grŵp oedran ar StatsCymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r bunt agosaf. Nid yw’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y caiff y data ei ddiwygio yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylid ei gofio wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar gael yn yr adroddiad ansawdd DAF.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Richard Murphy
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 9/2024