Neidio i'r prif gynnwy

Y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol

30 Ebrill 2025

Annwyl Ysgrifennydd Cabinet,

Cyfarfu’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol ar 2 Ebrill i ystyried y cynnydd a wneir ar draws Cymru o ran cyflwyno’r trefniadau newydd ar gyfer gwella ysgolion. Fe gofiwch fod aelodau’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn cynnwys Arweinwyr Awdurdodau Lleol, Prif Weithredwyr, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thîm Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Cafodd y Grŵp ddiweddariadau defnyddiol am gynnydd ynghylch y gyfres ddiweddar o weithdai a gynhaliwyd rhwng Tîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a’u harweinwyr ysgol er mwyn helpu i hybu’r gwaith o gyflwyno’r trefniadau gwella ysgolion yn lleol; symud ymlaen i’r cam pontio; a sefydlu’r corff cymorth newydd, sef Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth.

Mae’n amlwg bod llawer iawn o waith cymhleth a rhyngddibynnol yn digwydd, a allai gael ei rannu’n ddefnyddiol â’r sector drwy waith cyfathrebu ac ymgysylltu mwy helaeth a gynlluniwyd. Mae hynny’n flaenoriaeth i bob rhan o’r system, a hoffai’r Grŵp weld cynllun clir ar gyfer y cyfarfod nesaf, a gefnogir gan waith y sector a thrwy Fwrdd y Rhaglen.

At hynny, ceir awydd gwirioneddol ymhlith awdurdodau lleol i gydweithio mewn partneriaethau a nodweddir gan hyblygrwydd ac ymatebolrwydd. Ceir tystiolaeth o hynny mewn enghreifftiau ardderchog o waith cydweithio effeithiol sy’n digwydd eisoes, a chaiff ei bwysleisio ymhellach gan gytundeb mewn egwyddor gan bob awdurdod lleol i rannu eu cynlluniau gwella ysgolion â’i gilydd. Gallai’r Grŵp weld cyfle i awdurdodau lleol gydweithio’n agosach â’i gilydd ac â’r corff Dysgu Proffesiynol newydd er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o weithredu.

Fodd bynnag, mae’n amlwg hefyd bod y darlun ar draws Cymru yn gymhleth a bod hyd a lled a chyflymder newid yn amrywio. Nododd y Grŵp Cydlynu Cenedlaethol fod cydweithio da yn gofyn am amser ac ymdrech, ond nododd bryderon hefyd am gapasiti mewn ysgolion, mewn awdurdodau lleol ac yn Llywodraeth Cymru, a allai effeithio ar hynny. Mewn achosion lle mae cydweithio cryf ac effeithiol yn digwydd, nodwyd yn anecdotaidd y cydnabyddir bod y manteision o ganlyniad i gydweithio yn fwy o lawer na’r mewnbwn a’r ymdrech sy’n ofynnol.

Roedd aelodau’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn awyddus hefyd i bwysleisio na fydd newidiadau i drefniadau trefniadaethol yn unig yn esgor ar y gwelliannau a ddymunir i ysgolion. Bydd angen sicrhau bod newid mewn diwylliant yn cyd-fynd â nhw. Roedd y Grŵp yn cydnabod bod newid ac ymgorffori diwylliant newydd yn cymryd amser ac y bydd yn bwysig ystyried sut y gellir cyflawni hynny, gan gydnabod rôl bwysig asiantaethau eraill megis Estyn a’r corff Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth newydd o ran hynny a’r ddibyniaeth a fyddai arnynt. Croesewais safbwyntiau a chyfraniadau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi i’r drafodaeth hon.

Cydnabu’r Grŵp y cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud i sefydlu’r corff Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth newydd, a bod y gwaith hwnnw’n cael ei lywio gan adborth a roddwyd gan y sector. Fodd bynnag, hoffem awgrymu bod hyd a lled y gwaith sy’n ofynnol i’w alluogi i fod yn barod i weithredu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026 yn her fawr.

Yn olaf, diolchwyd a dymunwyd yn dda i Claire Homard a fydd yn gorffen bod yn aelod o’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol oherwydd bod ei thymor fel Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru yn dod i ben. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’i holynydd.

Bwriedir i’r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol gwrdd eto ym mis Gorffennaf cyn diwedd y flwyddyn academaidd. Ar hyn o bryd, rwy’n gobeithio y bydd y Grŵp yn ystyried y cerrig milltir ar gyfer llwyddiant yn ystod y cyfnod sydd i ddod, er mwyn sicrhau ein bod yn creu system gydlynus a chyson o safon ar draws Cymru, sy’n ei gwella ei hun. 

Yr eiddoch yn gywir,

Kirsty Williams CBE