Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth.

Cadeirydd: Dr Anwen Elias

Mae Dr Anwen Elias yn Ddarllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, gan raddio o Brifysgol Caergrawnt a’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, Fflorens, lle y cwblhaodd ddoethuriaeth yn y Gwyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwleidyddiaeth diriogaethol a chyfansoddiadol gymharol, pleidiau gwleidyddol, a chyfranogiad dinasyddion mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd. Mae gan Dr Elias wybodaeth helaeth am arloesi democrataidd ledled y byd ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn defnyddio dulliau creadigol i hybu cyfranogiad a thrafodaeth gan ddinasyddion.

Un o Gomisiynwyr y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru oedd Dr Anwen Elias. Yn y rôl honno, cyfrannodd arbenigedd penodol ym maes ymgysylltu dinasyddion, yn enwedig wrth sefydlu'r paneli dinasyddion a dylunio'r Gronfa Ymgysylltu â'r Gymuned. Drwy ei phrofiad fel Comisiynydd, bydd yn sicrhau y bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn parhau i lywio gwaith y Grŵp.

Mo Alamgir

Mae Mo Alamgir yn entrepreneur yn y maes technoleg ac yn arweinydd cymunedol ymroddedig sydd wedi treulio’r 17 mlynedd ddiwethaf yn gwneud gwaith pro bono i ysgogi newid cymdeithasol ystyrlon. Mae ei fentrau yn canolbwyntio ar uwchsgilio pobl ifanc o gefndiroedd Du ac ethnig leiafrifol, pontio cymunedau ffydd a diffydd, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a rhagfarn ddiarwybod yn y gweithle. Drwy ei waith, mae wedi helpu cannoedd o bobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r hyder i elwa ar gyfleoedd gyrfa gwell, gan gefnogi gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol.

Mae Mo hefyd wedi chwarae rhan mewn cyflwyno rhaglenni addysgol i ysgolion, busnesau a sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan godi ymwybyddiaeth o Islam er mwyn herio camsyniadau a lleihau Islamoffobia. Mae ei ymdrechion wedi cyfrannu at drafodaethau polisi ar amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb hil, gan gefnogi gweledigaeth Cymru o ddod yn Genedl Wrth-Hiliol.

Mae ei gyfraniad wedi cael ei gydnabod ar y lefelau uchaf, gan gynnwys gwahoddiad i Balas Buckingham gan y Brenin Charles ac enwebiad ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant, yr anrhydedd sifil mwyaf sy’n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru.

Wrth iddo ymgymryd â’r rôl gynghori newydd hon, bydd Mo yn parhau i fod yn hyrwyddwr tegwch, cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol, gan sicrhau bod penderfyniadau polisi yn adlewyrchu anghenion holl gymunedau Cymru.

Sarah Allan

Mae Sarah Allan yn un o brif arbenigwyr y DU mewn democratiaeth gydgynghorol. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad o gynllunio, cyflawni a chynghori ar ymgysylltu â’r cyhoedd wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Meithrin Gallu a Safonau a Chyfarwyddwr Rhaglenni Hinsawdd yn yr elusen ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus, Involve. Mae gwaith Sarah yn amrywio o brosiectau lleol a lleol iawn ar gyfer awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau cymdeithas sifil, i gynulliadau dinasyddion cenedlaethol uchel eu proffil, fel Climate Assembly UK ar gyfer chwe phwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Dinasyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hi wedi ymgymryd â threfniadau ymgysylltu â’r cyhoedd ar bynciau sy’n amrywio o newid hinsawdd, i blismona, i ddiogelwch adeiladau ac iechyd meddwl ieuenctid. Mae Sarah yn Uwch Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn Uned y Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain, ac mae’n Aelod Cyswllt o Ganolfan Ymgysylltu â Democratiaeth, Prifysgol Leeds.

Jess Blair

Mae Jess Blair wedi bod yn Gyfarwyddwr ERS Cymru ers 2017. Mae hi wedi arwain ymgyrchoedd ar bleidleisio yn 16 oed, cynyddu maint y Senedd a democratiaeth gydgynghorol. Roedd Jess yn aelod o Banel Arbenigolr ar gyfer y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.  Roedd yn gyfrifol am gyd-reoli Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ac roedd ar Grŵp Cynghori Cynulliad Dinasyddion Gogledd Iwerddon. Cyn ymuno ag ERS Cymru, roedd Jess yn Rheolwr Polisi a Phrosiectau yn y Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod flaenllaw yng Nghymru. Roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Dros Dro yn ystod 2016. Mae Jess yn aelod o Grŵp Llywio Rhwydwaith Llywodraeth Agored y DU. Mae ganddi radd Meistr mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mike Corcoran

Mae gwaith Mike Corcoran yn canolbwyntio ar helpu i ennyn diddordeb pobl yn y pethau sy’n wirioneddol bwysig.

Mae’n arbenigwr mewn cyfathrebu, ymgysylltu a chydgynhyrchu, ar ôl iddo weithio gyda chleientiaid ar draws tri chyfandir, sy’n amrywio o ficrofentrau i adrannau llywodraeth. Ar hyn o bryd, mae ei swyddi yn cynnwys bod yn Ymgynghorydd gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru a chyda Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru, yn Ymchwilydd Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam, ac yn gynghorydd ar gydgynhyrchu a chyfranogiad ar gyfer cyrff sy’n cynnwys Bwrdd Dinas Wrecsam a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y Gogledd. Gan hanu o Wrecsam, mae’n eiriolwr brwdfrydig dros ennyn diddordeb y cyhoedd yn y celfyddydau a’r gwyddorau. Mae’n Ymddiriedolwr Gwirfoddol o Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam, yn Gyfarwyddwr Gwirfoddol Gŵyl Gerddoriaeth FOCUS Wales ac yn Gadeirydd Gwirfoddol Ymddiriedolwyr sefydliad y celfyddydau NEW Sinfonia.

Mae gan Mike radd mewn Ffiseg ac Athroniaeth o Brifysgol Durham, ac mae’n Gymrawd Cyswllt yr Higher Education Academy.

Dr. Tomos Dafydd Davies

Mae Dr Tomos Dafydd Davies yn weithiwr proffesiynol profiadol ym maes polisi a materion cyhoeddus a chanddo gefndir cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae ei brofiad yn rhychwantu cyd-destun y DU a’r cyd-destun rhyngwladol. Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn Sir Fynwy yn 2022, ac mae’n gwasanaethu ar bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod, gan ganolbwyntio ar wella ymgysylltu â democratiaeth. Mae gan y Cynghorydd Davies, sydd wedi gweithio fel cynghorydd i dri Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y gorffennol, wybodaeth helaeth am dirwedd ddatganoledig a chymdeithas sifil Cymru. Mae wedi gwasanaethu fel Aelod o Gyngor Prifysgol Bangor ac fel Ymddiriedolwr Canolfan Cymry Llundain. Mae’r Cynghorydd Davies yn siaradwr Cymraeg rhugl a chafodd ei radd o Brifysgol Aberystwyth.

Athro Sally Holland

Mae’r Athro Sally Holland yn Athro Gwaith Cymdeithasol yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE, Prifysgol Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae ei hymchwil bresennol yn cynnwys gwerthuso’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghymru a mesur canlyniadau gwasanaethau Dechrau’n Deg i blant. Rhwng 2015 a 2022, Sally oedd Comisiynydd Plant Cymru. Yn y rôl honno, roedd ei blaenoriaethau yn cynnwys datblygu dull ‘dim drws anghywir’ i wasanaethau iechyd meddwl plant, dileu’r amddiffyniad cyfreithiol ar gyfer cosbi plant yn gorfforol a rhoi terfyn ar wneud elw mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant. Gweithiodd gyda gwasanaeth cyhoeddus Cymru i gynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a chefnogodd ddatblygiad Senedd Ieuenctid Cymru. Adeg Etholiad y Senedd yn 2021, cafodd etholiad i blant ei gynnal ar yr un pryd ganddi a’i thîm. Yn wreiddiol o’r Alban, mae Sally wedi byw yng Nghymru am 33 o flynyddoedd ac mae wedi dysgu Cymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi gorffen cerdded llwybr arfordir Cymru o’r naill ben i’r llall ac, erbyn hyn, mae’n mwynhau mynd ati’n raddol i gerdded Clawdd Offa.

Yvonne Murphy

Mae Yvonne Murphy yn Gyfarwyddwr Artistig a Chynhyrchydd Gweithredol Omidaze Productions a hi sydd wedi creu The Democracy Box a The Talking Shop, sy’n ddulliau creadigol ac arloesol o addysgu pobl am ddemocratiaeth, ac o drafod a rhannu gwybodaeth am ddemocratiaeth. Yvonne hefyd yw awdur adroddiad Beyond the Ballot Box a gyhoeddwyd gan The Democracy Box.

Mae Yvonne wedi bod yn weithiwr llawrydd yn y byd creadigol ers 1992, gan weithio fel Cyfarwyddwr Theatr, Cynhyrchydd Creadigol ac Ymgynghorydd ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae gan Yvonne ddiddordeb arbennig yn y croestoriadedd rhwng cyfranogiad diwylliannol a democrataidd a sut y gall pobl broffesiynol greadigol ac artistiaid fod yn rhan o greu atebion arloesol i broblemau mwyaf dybryd cymdeithas.

Cafodd Omidaze Productions ei greu gan Yvonne yn 2008. Yn 2013, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Clore Cyngor Celfyddydau Cymru i Yvonne a chafodd fynd ar secondiad, tra bod deiliad y swydd ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth, yn Arweinydd Strategol y DU ar gyfer mudiad cenedlaethol y celfyddydau a diwylliant What Next?, a hi sefydlodd ganolfan Chapter gyntaf What Next? yng Nghymru.

Mae Yvonne wedi bod yn Artist Cyswllt yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Theatr Iolo a Chymuned Artis ac yn aelod o fwrdd Canolfan Gelfyddydau Chapter ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Cafodd Yvonne ei henwi yn un o 100 o Wneuthurwyr Newid Cymru gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn 2022.

Julie Sangani

Mae Julie Sangani yn gweithio yn y sector cyhoeddus ac mae’n arweinydd cymunedol a chanddi brofiad helaeth mewn datblygu polisi, cyfranogiad dinasyddion, a llywodraethiant cynhwysol. Fel un o Gynghorwyr Dinas Caerdydd ac Aelod dros Iechyd y Cyhoedd, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o Gabinet y Cyngor, mae hi wedi hyrwyddo mentrau sy’n rhoi mwy o amlygrwydd i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys drwy ddatblygu rhwydwaith Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer y ddinas gyfan a Strategaeth Cyfranogiad Cymunedol newydd.

Mae Julie yn Is-gadeirydd NWAMI (Rhwydweithio dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio Amlddiwylliannol) ac yn Sylfaenydd ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Menywod Indiaidd Cymru, gan fod yn eiriol dros gymunedau amrywiol a thros greu mannau diogel i gynnal deialog. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Aelod Annibynnol o Gyngor Celfyddydau Cymru ac fel llywodraethwr ysgol, gan weithio i sicrhau tegwch mewn addysg a diogelwch plant.

Mae Julie, sydd â chefndir mewn datblygu busnes yn Anabledd Dysgu Cymru, wedi arwain mentrau twf strategol i gefnogi grwpiau a ymyleiddiwyd. Mae ei gwaith mewn partneriaethau yn y sector cyhoeddus, ac yn cynghori ar bolisi, yn pwysleisio ei hymrwymiad i arloesi democrataidd ac ymgysylltu â'r gymuned.

Fel menyw o liw, mae Julie yn dod â safbwynt hanfodol i lunio polisïau, gan sicrhau bod cynhwysiant yn rhan annatod o brosesau gwneud penderfyniadau. Mae hi wedi ymrwymo i Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus, Egwyddorion Nolan, ac i hybu datblygiad polisi dwyieithog yng Nghymru.

Athro Diana Stirbu

Mae’r Athro Diana Stirbu yn ysgolhaig cydnabyddedig a chanddi ddiddordebau ymchwil ac arbenigedd mewn llywodraethiant datganoledig a thiriogaethol, gwleidyddiaeth gyfansoddiadol, a democratiaeth gyfranogol. Ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Llundain yn 2010 ac, ers 2023, mae wedi bod yn cyd-arwain y Ganolfan Ymchwil Gymhwysol mewn Grymuso Cymdeithas (CARES). Mae’r Athro Stirbu wedi bod yn aelod gweithgar o’r gymuned academaidd gan ymchwilio i esblygiad y trefniadau a’r sefydliadau democrataidd yng Nghymru, gan gyfrannu at drafodaethau ac ymgynghoriadau cyhoeddus.

Yn 2017-2018, comisiynwyd yr Athro Stirbu gan y Bwrdd Taliadau, ynghyd â thîm o ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, i gynnal darn o ymchwil a oedd yn edrych ar y rhwystrau a’r galluogwyr ar gyfer ystod amrywiol o unigolion i sefyll mewn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd). Yn 2020-2021, ymgymerodd yr Athro Stirbu â darn mawr o ymchwil ar effeithiolrwydd pwyllgorau’r Senedd yn ystod ei Chymrodoriaeth Academaidd. Wedi hynny, penodwyd yr Athro Stirbu (yn 2022-2024) yn aelod o’r Panel Arbenigol a oedd yn cefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Mae hi wedi datblygu corff o waith sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd mewn seneddau, a democratiaeth gyfranogol mewn llywodraeth leol gan ddefnyddio methodolegau cyfranogol ac ecosystem a dylunio meddwl sy’n torri tir newydd.

Daisy Thomson

Mae Daisy Thomson yn dod ag arbenigedd mewn ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws ystod o feysydd polisi dadleuol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i Involve lle mae’n arwain ar brosesau democratiaeth gydgynghorol ar gyfer llywodraethau lleol a chenedlaethol a chyrff anllywodraethol. Yn Involve, datblygodd Bapur Gwyn y Dinasyddion, map trywydd ar gyfer ymgorffori dulliau llunio polisi cyfranogol yn Llywodraeth y DU. Mae hi hefyd yn gynghorydd Sciencewise i’r Swyddfa Gartref ar lunio polisi cydgynghorol. Fel cyn-was sifil, mae Daisy wedi gweithio ar bolisi yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys ym maes cymorth anabledd, polisi trethi datganoledig, a diwygio’r llysoedd. Roedd Daisy yn gynghorydd ar hawliau dinasyddion i’r Gweinidog Brexit cyn cymryd rôl arweiniol yn adferiad Grenfell yn y Weinyddiaeth Dai. Yma, datblygodd y strategaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau gan y llywodraeth ar Dŵr Grenfell a rheoli’r broses dan arweiniad y gymuned i gytuno ar gofeb ar gyfer y dyfodol. Yn ei holl waith gyda’r gwasanaeth sifil, roedd Daisy yn eiriol dros wneud y newidiadau i’r system (allanol a mewnol) sydd eu hangen ar gyfer sicrhau bod y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael mwy o lais mewn penderfyniadau. Wrth astudio ar gyfer gradd MPhil (Caergrawnt) yn ddiweddar, canolbwyntiodd Daisy ar lunio polisi cyfranogol. Cyflwynwyd y gwaith ar ffurf prosiect mapio creadigol chwe mis o hyd a gynlluniwyd ar y cyd â chymuned Aberfan.

Leanne Wood

Mae gan Leanne Wood dros bum mlynedd ar hugain o brofiad fel gweithredydd gwleidyddol. Mae hi wedi dal sawl rôl mewn bywyd gwleidyddol gan gynnwys fel cynghorydd lleol, AS dros y Rhondda ac arweinydd Plaid Cymru. Hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli’r Rhondda a’r fenyw gyntaf i arwain Plaid Cymru. Roedd yn un o Gomisiynwyr y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ac mae hi’n Gyd-gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru ac yn llysgennad Ramblers Cymru.

Mae Leanne wedi hyrwyddo llawer o faterion cymdeithasol ac economaidd amrywiol ac mae’n benderfynol o weithio i sicrhau, waeth sut beth fydd dyfodol cyfansoddiadol Cymru, fod y rhai sy’n ei chael hi’n anodd a’r rhai a ymyleiddiwyd yn cael cyfle i weld gwelliannau gwirioneddol yn eu bywydau.