Neidio i'r prif gynnwy

Yng ngwanwyn 2025, penodwyd y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth gan y Prif Weinidog i ymchwilio i ffyrdd newydd o gryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Nodwyd yn adroddiad Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar gyfer 2024 fod nifer o faterion sy’n bygwth ac yn herio’r cyfleoedd i ddinasyddion gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru. Cynigiwyd yn yr adroddiad gyfres o ddiwygiadau i gryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu panel arbenigol i ystyried ffyrdd arloesol o gynyddu’r ddealltwriaeth o ddemocratiaeth. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y Comisiwn yn llawn, ac fe’u cymeradwywyd gan y Senedd.

Mae’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth yn cael ei gadeirio gan Dr Anwen Elias ac mae’n dwyn ynghyd grŵp amrywiol o ddylanwadwyr a chynghorwyr yn y meysydd arloesi a chyfranogiad democrataidd. Bydd aelodau’r Grŵp yn dod â’u harbenigedd, eu gweledigaeth a’u profiad er mwyn ystyried ffyrdd o gynnig cyfle i bobl gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y grŵp yn pennu cwmpas unrhyw gyfleoedd newydd i sicrhau bod dinasyddion yn chwarae mwy o ran mewn prosesau gwneud penderfyniadau, mewn partneriaeth ag eraill ledled Cymru sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ar ymgysylltu â’r cyhoedd a’u hannog i gymryd rhan.

Wedi hynny, bydd y grŵp yn cynghori Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar ehangu’r defnydd o arloesi democrataidd, er mwyn sicrhau bod gan bobl yng Nghymru lais mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar bob lefel o lywodraeth.