Cylch gorchwyl
Cylch Gorchwyl y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth.
Cynnwys
Y cefndir
Mae’r Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth wedi ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ar 18 Ionawr 2024. Argymhellodd y Comisiwn gyfres o argymhellion brys i gryfhau democratiaeth yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu panel arbenigol i helpu i gryfhau’r gallu o ran arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â'r gymuned yng Nghymru.
"Arloesi democrataidd - Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r capasiti ar gyfer arloesi democrataidd ac ymgysylltu’n gynhwysol â’r gymuned yng Nghymru. Dylai hyn ddefnyddio panel cynghori arbenigol, a dylid ei ddylunio mewn partneriaeth â’r Senedd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Dylai strategaethau newydd ar gyfer addysg ddinesig fod yn flaenoriaeth i’r gwaith hwn, a dylai gael ei adolygu’n rheolaidd gan y Senedd.
Rôl y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth
Diben y grŵp yw darparu cyngor ymarferol arbenigol i Weinidogion Cymru a’u partneriaid mewn perthynas â chryfhau cyfranogiad democrataidd a chyfleoedd ar gyfer arloesi democrataidd.
Cylch gorchwyl
- Cefnogi datblygiad strategaethau ymgysylltu dinesig ac addysg ddinesig drwy ddarparu dealltwriaeth a gwybodaeth i lywio’r ymateb i argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
- Darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid ar wella ymgysylltu â democratiaeth yng Nghymru, gan adeiladu ar y sylfeini sydd wedi cael eu gosod gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n golygu bod rhaid i'r llywodraeth a llywodraeth leol ystyried pwysigrwydd cynnwys pobl wrth gyflawni’r nodau llesiant, mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth.
- Darparu cyngor arbenigol mewn perthynas â defnyddio rhagor o arloesi democrataidd wrth ddatblygu a chyflawni polisi ar lefelau cenedlaethol a lleol (gan gynnwys, o bosibl, ddatblygu datganiad o egwyddorion cyfansoddiadol).
- Hyrwyddo’r defnydd o arloesi a chyfranogiad democrataidd mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys drwy ymgysylltu â phartneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ehangach.
- Darparu cyngor ar ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd / profiad cymunedol o ymgysylltu dan arweiniad y dinesydd i wella gallu yn y sector.
Aelodaeth
Mae'r Cadeirydd a'r aelodau wedi'u penodi am gyfnod hyd at y gwanwyn 2026, gyda phosibilrwydd o estyniad i’r cyfnod hwn. Mae'r grŵp yn cynnwys aelodau sydd â gwybodaeth a phrofiad o arloesi democrataidd ac addysg ddinesig, wedi’u penodi gan y Dirprwy Brif Weinidog.
Wrth i waith y grŵp ddatblygu, mae cyfle i ehangu’r aelodaeth i gynnwys cynrychiolwyr cymunedol a/neu i gyfethol aelodau am gyfnod penodol pan fyddant yn dod ag arbenigedd sy’n berthnasol i brosiectau cyfnod penodol neu’n sefydlu is-grwpiau. Mae’r opsiwn ar gael hefyd i ychwanegu grŵp cyfeirio cymunedol at y strwythur, y byddai ei Gadeirydd yn eistedd ar y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth.
Adolygu
Yng Ngwanwyn 2026, bydd gweithgareddau a chanlyniadau’r grŵp yn cael eu hadolygu, er mwyn i’r llywodraeth newydd ystyried yr opsiynau ar gyfer llywodraethiant a strwythur y grŵp yn y dyfodol.
