Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwaharddiad ar fêps untro yn atal pobl rhag cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, cynhyrchion fepio untro o 1 Mehefin 2025 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nod y gyfraith yw atal y difrod a achosir i'r amgylchedd drwy gynhyrchu a gwaredu'r cynhyrchion hyn yn y ffordd anghywir. 

Trosolwg

O dan Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau”),  mae'n drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) gynhyrchion fepio untro i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Bydd y gwaharddiad yn dechrau o 1 Mehefin 2025 ymlaen, ond anogir busnesau i newid yn awr i gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau a'r dogfennau a baratowyd wrth fynd ati i'w datblygu, gweler:

Amserlenni

Bydd y gwaharddiad ar gynhyrchion fepio untro yn dechrau ar 1 Mehefin 2025 ac mae'n cynnwys fêps untro sydd â nicotin ynddynt a'r rheini nad oes ynddynt unrhyw nicotin.

Bydd gwerthu fêps y gellir eu hailddefnyddio yn parhau'n gyfreithlon.
 

Ar bwy y bydd hyn yn effeithio?

Mae person yn cyflawni'r drosedd o gyflenwi cynnyrch fêpio untro gwaharddedig:

  • os yw'n cyflenwi fêp untro;
  • os yw’n cynnig cyflenwi fêp untro, neu
  • os oes ganddo fêp untro yn ei feddiant ar gyfer ei gyflenwi.

Cyn i'r gwaharddiad ddod i rym

Dylai busnesau gymryd camau yn awr i ddechrau cynllunio ar gyfer y gyfraith newydd a dechrau stocio fêps y gellir eu hailddefnyddio yn lle hynny.

Pan ddaw'r gwaharddiad i rym

Pan ddaw'r gwaharddiad i rym, bydd yn rhaid i fusnesau:

  • roi'r gorau i werthu cynhyrchion fepio untro i gwsmeriaid neu fusnesau eraill.
  • rhoi'r gorau i brynu cynhyrchion fepio untro oddi wrth gyfanwerthwyr.
  • dweud wrth eu staff am y newidiadau hynny.

Dylai busnesau y bydd dal ganddynt gynhyrchion gwaharddedig siarad â chyflenwyr neu gwmnïau gwaredu ynghylch sut i'w hailgylchu'n ddiogel ac yn gyfreithlon.

Bydd methu ag ailgylchu stociau fêps untro ar ôl 1 Mehefin 2025 yn rhoi eich busnes mewn perygl o golledion masnachol a chamau gorfodi cyfreithiol. 

Ni ellir rhoi fêps untro yng ngwastraff y cartref a rhaid eu gwaredu'n ddiogel mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Y rheswm dros hynny yw bod risg iddyn nhw, a deunyddiau cymysg, gan gynnwys batris, metel a phlastig, fynd ar dân.

Gallwch ddod o hyd i ailgylchwr yma: Waste electrical and electronic equipment (WEEE) public registers [GOV.UK]

Pam yr ydym yn cyflwyno'r gyfraith newydd hon

Nod y Rheoliadau hyn yw lleihau'r niwed a achosir i'r amgylchedd drwy gynhyrchu a gwaredu fêps untro yn y ffordd anghywir.

Mae hyn yn rhan o ymrwymiad ehangach i:

  • hyrwyddo newid ehangach a mwy cynaliadwy mewn ymddygiad yng nghyswllt defnyddio cynnyrch untro
  • mynd i'r afael â'r diwylliant taflu i ffwrdd
  • annog pobl i newid i ddewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio.

Help i fusnesau

Mae Canllawiau Llywodraeth y DU i fusnesau [GOV.UK] bellach wedi'u cyhoeddi. Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cymorth a chyngor

Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch am y gwaharddiad, mae croeso ichi gysylltu â ni: 

E-bost: leq@llyw.cymru 

Drwy’r post: 

Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd Lleol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ