Neidio i'r prif gynnwy

Taclo llifogydd yn 'flaenoriaeth', meddai'r Gweinidog Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gwaith adeiladu ar ddechrau ar raglen gwerth £150 miliwn i fuddsoddi dros 3 blynedd mewn gwaith rheoli'r risg i'r arfordir ledled Cymru, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths. 

Mae'r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol yn neilltuo arian ar gyfer cynlluniau sy'n lleihau'r risg i dros 18,000 eiddo trwy brosiectau trwsio, cyfnewid a chreu amddiffynfeydd arfordirol newydd. Ymhlith y cynlluniau arfordirol fydd yn dechrau yn y flwyddyn i ddod y mae: 

  • cryfhau'r amddiffynfeydd yn Nwyrain y Rhyl 
  • cryfhau a chynnal  a chadw'r morfur yn Aberafan 
  • adeiladu'r amddiffynfeydd clustogi yn y Felinheli. 

Hefyd, dros y 12 mis nesaf caiff mwy na £50 miliwn ei fuddsoddi mewn gwaith rheoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol ledled Cymru.

Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf o £27 miliwn ar gyfer cynlluniau newydd, gwaith cynnal a chadw asedau a datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol; yn ogystal â rhaglen refeniw o bron £25 miliwn. Bydd yr arian hwn yn helpu i gwblhau cynlluniau ym Miwmares, Llanfair Talhaearn a Thalgarth yn ogystal â chychwyn gwaith adeiladu yn Llansannan, Llanmaes, Casnewydd a'r Trallwng. 

Pan fydd cynlluniau rhaglen eleni wedi'u cwblhau, bydd 1,200 eiddo, gan gynnwys dros 850 o gartrefi, yng Nghymru'n elwa. 

Bydd y Gweinidog Lesley Griffiths yn cyhoeddi’r rhaglen gyllid ar gyfer gwaith atal a rheoli perygl llifogydd yn ystod Datganiad Llafar yn y Senedd heddiw.

Dangosodd Storm Callum hydref diwethaf pam ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru'n dal i fuddsoddi yn y gwaith pwysig hwn, hynny ar ôl i fwy na 270 eiddo ledled Cymru ddioddef oherwydd y llifogydd ac i gartrefi, ysgolion, ffyrdd a siopau gael eu difrodi. 

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod £2.8 miliwn yn cael ei neilltuo i awdurdodau lleol ac CNC i ddatblygu cynlluniau amddiffyn ac atgyfnerthu yn y dyfodol, a chaiff £1 miliwn ei glustnodi ar gyfer y Grant Gwaith Bach, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gynnal cynlluniau a gwaith cynnal a chadw mân er lles cymunedau.

I roi'r cyngor gorau ac i nodi'r arferion gorau o ran rheoli'r risg o lifogydd ac i'r arfordir, mae Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd wedi'i sefydlu ar gyfer Cymru. 

Hefyd, bydd Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn destun ymgynghori nes ymlaen eleni. Bydd ganddi bwyslais ar wybodaeth a chyflawni yn ogystal ag ar annog dulliau naturiol o reoli'r risg o lifogydd. 

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae llifogydd yn gallu cael effaith ddychrynllyd a hir ar fywydau bobl, a dyna pam ei bod yn flaenoriaeth gennym o hyd a'n bod yn benderfynol o roi cymaint o gefnogaeth i'r rheini sy'n wynebu'r risg fwyaf ag y medrwn". 

"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn, ynghyd â'n Strategaeth Genedlaethol newydd a Phwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i wynebu'r dyfodol a sicrhau'n bod yn gallu dygymod â heriau'r newid yn yr hinsawdd". 

"Bydd y rhaglen yn sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy ar ein hamgylchedd yn ganolog i bob penderfyniad a wnawn fel rhan o'n hymdrech i amddiffyn cartrefi a busnesau ledled Cymru rhag perygl llifogydd ac erydu arfordirol."