Neidio i'r prif gynnwy

Gyda phryderon ynghylch yr ‘Argyfwng Costau Byw’ y mae teuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu yn cynyddu, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu'r pecyn cymorth cyfan a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i leihau'r baich ar deuluoedd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae biliau ynni yn uwch nag erioed, mae costau bwyd yn cynyddu ac mae chwyddiant yn codi i'r lefel uchaf ers degawd. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru yn teimlo'r pwysau ar eu cyllideb gartref.

Ar ben yr amgylchiadau hynod hyn, mae'r sefyllfa'n waeth o ganlyniad i benderfyniadau anhrugarog a wnaed gan Lywodraeth y DU. Wrth gyhoeddi Cyllideb ddiwethaf y DU, cafwyd cyfle i fynd i'r afael â'r pryderon hyn er mwyn lleihau'r pwysau dros gyfnod anodd y gaeaf, ond yn anffodus nid achubwyd ar y cyfle hwn.

Ond lle mae San Steffan wedi methu â chefnogi teuluoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r bwlch i helpu ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn.

Gwnaethom gyflwyno mesurau brys er mwyn helpu i leddfu effaith y penderfyniad i ddileu'r taliad ychwanegol o £20.

Drwy ein Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £51 miliwn mae:

  • £2 filiwn wedi'i ddyrannu i atal digartrefedd
  • £38 miliwn wedi'i ddyrannu i'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i ddarparu taliad untro o £100 mewn arian parod er mwyn helpu aelwydydd cymwys i dalu eu biliau tanwydd gaeaf
  • £1.1 miliwn wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys £500,000 i helpu banciau bwyd i fodloni'r galw uwch a £657,000 i helpu i sefydlu 25 o brosiectau Big Bocs Bwyd ychwanegol yn Ardal Tasglu'r Cymoedd
  • Byddwn yn cyhoeddi rhagor o gyllid o dan y Gronfa Gymorth i Aelwydydd yn ystod yr wythnosau nesaf

Rydym hefyd wedi neilltuo £14.7 miliwn ychwanegol i'r Gronfa Cymorth Dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn sicrhau bod modd i'r cynllun barhau'n hyblyg. Drwy hyn, bydd yn bosibl darparu rhagor o daliadau, yn fwy aml, i bobl sy'n wynebu colli'r £20 ychwanegol sy'n cael ei ddileu o daliadau Credyd Cynhwysol.

Byddwn yn cynnig ein cymorth tanwydd gaeaf drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol eto ar gyfer cartrefi nad ydynt ar y grid, yn ogystal â grantiau trwsio boeleri tan 31 Mawrth 2022.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Fel yr amlinellwyd yn ein llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, rydym yn poeni'n fawr am y cynnydd ym mhrisiau ynni domestig a'r effaith y mae'n ei chael ar aelwydydd yng Nghymru, yn arbennig aelwydydd incwm isel sy'n wynebu'r risg o dlodi tanwydd, neu a oedd eisoes yn byw mewn tlodi tanwydd cyn y cynnydd a welwyd ym mis Hydref.

Fel rhan o Strategaeth Marchnad Manwerthu Ynni Llywodraeth y DU, rydym yn gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried o ddifrif gyflwyno cap gwahaniaethol ar gyfer tariffau ynni domestig neu dariff ynni cymdeithasol wedi'i dargedu er mwyn cefnogi aelwydydd incwm isel yn well. Drwy osod cap is i ddiogelu aelwydydd incwm isel rhag cynnydd na allant ei fforddio mewn prisiau, gellir sicrhau y bydd modd i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wresogi eu cartrefi'n ddigonol.

Rydym hefyd yn annog Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ychwanegol drwy gynlluniau megis y Gostyngiad Cartrefi Cynnes a thaliadau tanwydd gaeaf eraill y gaeaf hwn er mwyn lleihau'r baich ar deuluoedd sydd o dan bwysau.

Gan amlinellu'r camau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau'r pwysau ar bobl yn ystod yr argyfwng costau byw, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Gwyddom fod y cynlluniau rydym wedi eu datblygu yn gweithio ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl mewn aelwydydd incwm isel. Ond gwyddom hefyd, gyda phrisiau ynni yn cynyddu a chwyddiant yn codi, fod angen inni wneud rhagor.

Byddaf yn cynnal trafodaeth bord gron â rhanddeiliaid allweddol a gweinidogion eraill ar 17 Chwefror i bennu'r camau pellach y gallwn eu cymryd gan ddefnyddio'r adnoddau polisi sydd ar gael inni ac i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cefnogi aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu risg wirioneddol o niwed ariannol. Byddaf yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r aelodau ar ôl i'r trafodaethau hyn gael eu cynnal.

Yn olaf, byddwn yn parhau i gyflwyno ein hachos mor gryf â phosibl, ar y cyd â'r Alban a Gogledd Iwerddon, i Lywodraeth y DU, sydd wedi dangos nad oes ots yn y byd ganddi am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Fel y mae National Energy Action wedi'i ddatgan yn glir, mae gan Lywodraeth y DU y pwerau a'r adnoddau ariannol i fynd i'r afael â'r materion hyn.

I gloi, dywedodd y Gweinidog:

Y ffaith yw, nid yw Adolygiad o Wariant yr Hydref Llywodraeth y DU yn cyfrif am faint yr her rydym yn ei hwynebu er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw sy'n dod i'r amlwg a buddsoddi mewn cynlluniau adfer er lles gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru.

Er mai San Steffan sy'n rheoli'r rhan fwyaf o'r ysgogiadau ariannol, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i dargedu'r bobl hynny sydd fwyaf angen help a chymorth yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.