Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru yn ystod taith i Ddulyn i nodi Dydd Gŵyl Dewi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan y Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru chwe maes cydweithio ac mae'n cynnwys ymrwymiad gan y ddwy wlad i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac i rannu arferion da.

Cyfarfu'r Gweinidog â Joe O'Brien o Lywodraeth Iwerddon, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Datblygu Gwledig a Chymunedol a'r Adran Amddiffyn Cymdeithasol, i drafod sut y gellid parhau i gryfhau cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon.

Mewn ymweliad deuddydd â Dulyn, bu Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, mewn nifer o ddigwyddiadau diwylliant a busnes.

Roedd hyn yn cynnwys derbyniad Dydd Gŵyl Dewi gyda phartneriaid o bob rhan o lywodraeth, diwydiant, addysg a diwylliant Iwerddon, yn ogystal â chymuned y Cymry ar wasgar.

Yn ystod ei hamser yn Nulyn, cyfarfu'r Gweinidog â Chyngor Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon a dau o'u Cynrychiolwyr Ieuenctid Hinsawdd, Oileán Carter Stritch a Jennifer Salmon, sy'n ceisio meithrin perthynas â thîm Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru.

Cyfarfu hefyd ag uwch-swyddogion gweithredol o'r sefydliad ymchwil glinigol blaenllaw ICON, sydd wedi bod yn buddsoddi yng Nghymru ac yn ehangu ei weithlu yn Abertawe. 

Mae'r cwmni wedi bod yn tyfu ei weithlu yn Abertawe dros y pedair blynedd ddiwethaf ac mae'n meithrin cysylltiadau cryfach â phrifysgolion yng Nghymru, gan ei fod yn ceisio cyflogi rhagor o raddedigion a llenwi rolau sgiliau uchel yn y sector gwyddorau bywyd.

Cyfarfu'r Gweinidog, Jane Hutt hefyd â Conor Falvey, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol â chyfrifoldeb am y Celfyddydau a Diwylliant, a Nadia Feldkircher, Prif Ymchwilydd ar gynllun peilot Incwm Sylfaenol i'r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon, i drafod cryfderau a heriau cynlluniau o'r fath.

Mae gan bob cynllun peilot gynulleidfa darged wahanol ym mhob gwlad benodol.

Mae cynllun peilot Llywodraeth Cymru ar gyfer Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal wedi'i dargedu at garfan o tua 630 o bobl ifanc sy'n gadael gofal a bydd yn dod i ben yn 2025. Blwyddyn o hyd oedd y cyfnod cofrestru ffurfiol ar gyfer y cynllun peilot a daeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

Mae gwerthusiad o'r cynllun peilot yn parhau. Cafodd dadansoddiad ystadegol o'r garfan a gofrestrodd ei gyhoeddi y llynedd, gyda'r adroddiad gwerthuso cyntaf wedi'i gyhoeddi fis diwethaf.

Bydd cynllun peilot Incwm Sylfaenol i'r Celfyddydau Llywodraeth Iwerddon yn archwilio, dros gyfnod o dair blynedd hyd fis Ebrill 2025, effaith incwm sylfaenol ar artistiaid a'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau creadigol.

Gwneir taliadau o €325 yr wythnos i 2,000 o artistiaid a gweithwyr celfyddydau creadigol cymwys a ddewiswyd ar hap ac a wahoddwyd i gymryd rhan.

Bu'r Gweinidog a'r prif swyddog yn trafod cryfderau a heriau cynlluniau Incwm Sylfaenol, yn ogystal â'r hyn y gellid ei ddysgu gan ei gilydd am y priod gynlluniau.

Dywedodd y Gweinidog, Jane Hutt: 

"Mae wedi bod yn fraint ailddatgan ein hymrwymiad i'r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25 yn ystod fy nghyfnod yn Nulyn.

"Mae Dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn gyfle perffaith i arddangos ein diwylliant dramor, gan ymgysylltu â chymuned y Cymry ar wasgar.

"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i rannu arferion da, gan gynnwys drwy gynlluniau Incwm Sylfaenol a Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol."

Dywedodd y Gweinidog Joe O'Brien: 

"Mae'r dathliad Dydd Gŵyl Dewi yma yn Nulyn, a'r dathliad Dydd Sant Padrig fydd yng Nghaerdydd yn ddiweddarach yn y mis, yn dangos y berthynas glòs sy'n datblygu, wedi'i hadeiladu ar y cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol dwfn rhwng y ddwy wlad.

"Rydym wedi ymrwymo, gan gynnwys drwy'r Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru, ac ymweliad y Gweinidog heddiw, i ddod â Chymru ac Iwerddon yn agosach at ei gilydd, gan ddyfnhau ein cydweithrediad a chryfhau cysylltiadau."