Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynghorau lleol ledled Cymru yn cael £2.8m ychwanegol i’w helpu i ariannu’r cynnydd yn y galw ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i ddiweithdra a gostyngiad mewn incwm effeithio ar nifer mawr o gartrefi, mae’r cynllun hwn wedi bod o gymorth hanfodol i lawer o gartrefi incwm isel ledled Cymru.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi awdurdodau lleol drwy wneud iawn am y gostyngiad yn eu hincwm yn sgil y cynnydd yn nifer y cartrefi sy’n gymwys i gael gostyngiad yn y dreth gyngor ers i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu cyflwyno.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Er bod y coronafeirws yn effeithio ar bob un ohonom, rydym yn gwybod ei fod yn cael yr effaith ariannol fwyaf sylweddol ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

“Bydd y cyllid yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn rhoi’r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar awdurdodau lleol i barhau i gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf drwy ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

“Byddwn i’n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallai fod yn gymwys am gymorth gyda’r dreth gyngor i gysylltu â’i gyngor am arweiniad.”

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol i ddeall effeithiau mwy hirdymor y cynnydd yn y galw ar y cynllun ac i asesu graddfa unrhyw ostyngiad yn y dreth gyngor a gesglir gan awdurdodau lleol.