Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi ysgrifennu at Drysorlys y DU yn mynnu bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael cymorth i gael y cynilion sy’n ddyledus iddynt o dan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd pob plentyn a anwyd yn y DU rhwng 2002 a 2011 daliad cychwynnol o £250 gan Lywodraeth Lafur y DU fel yr oedd ar y pryd i’w helpu i ddechrau cynilo at eu dyfodol. Cafodd y cynllun ei ddiddymu wedi hynny gan Lywodraeth Geidwadol y DU.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru symiau ychwanegol hefyd yng nghyfrifon y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar gyfer plant yng Nghymru wrth iddynt ddechrau yn yr ysgol gynradd. 

Fodd bynnag, mae ffigurau’n dangos, mewn bron i 2 filiwn o achosion, nad rhieni’r plant oedd yn gyfrifol am fuddsoddi’r talebion hyn. O ganlyniad, mae llawer o’r buddsoddiadau hyn wedi mynd yn angof. Bydd y cronfeydd ymddiriedolaeth cyntaf i gael eu sefydlu yn dechrau aeddfedu ym mis Medi, gyda’r dôn gyntaf o blant i elwa arnynt yn dathlu eu pen-blwyddi yn 18 oed. O ganlyniad, mae’r Gweinidog Cyllid yn mynnu bod camau’n cael eu cymryd ar fyrder i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cynilion sy’n ddyledus iddynt.

Dywedodd Rebecca Evans;

“Roedd y cronfeydd a gafodd eu hymrwymo gan Lywodraeth y DU ar y pryd a Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad yn nyfodol ein plant. Pa un ai ydy pobl ifanc yn dewis ail-fuddsoddi neu gynilo, neu ddefnyddio’r arian i dalu am gostau i’w helpu gyda’r cam nesaf yn eu bywydau, ni ddylai unrhyw beth eu hatal nhw rhag gwneud hynny. Yn sicr, ni ddylai diffyg ymwybyddiaeth o fodolaeth y cynilion hyn eu hatal nhw rhag gwneud hynny.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth y DU weithredu nawr er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth sydd eu hangen arnyn nhw ni i gael elwa ar eu cynilion. Yma yng Nghymru byddwn ni’n cymryd ein camau ein hunain i godi ymwybyddiaeth o’r mater hwn.”