Neidio i'r prif gynnwy

Dylai pawb dros flwydd oed anelu at lefel maethynnau a argymhellir (RNI) o 10 microgram o Fitamin D y dydd, bob dydd o’r flwyddyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn adolygiad eang o’r dystiolaeth, mae’r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) wedi argymell y dylai pawb dros flwydd oed anelu at lefel maethynnau a argymhellir (RNI) o 10 microgram o Fitamin D y dydd, bob dydd o’r flwyddyn.

Mae’r argymhelliad hwn yn disodli’r canllawiau blaenorol a oedd dim ond yn berthnasol i fenywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron; pobl 65 oed a hŷn; a phobl nad ydynt yn mynd allan llawer i’r haul.  

Mae’r cyngor newydd hefyd yn argymell y dylai babanod, o’u geni hyd nes iddynt gyrraedd blwydd oed, yn enwedig y rheini sydd wedi cael eu bwydo’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar y fron, yn cael RNI o rhwng 8.5 -10 microgram o Fitamin D.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Dros Dro Cymru, Dr Chris Jones:

“Mae Fitamin D yn bwysig iawn i’n cadw ni’n iach. Mae’n helpu i reoli lefelau calsiwm a ffosffad yn ein cyrff, sy’n angenrheidiol i gadw ein hesgyrn, ein dannedd a’n cyhyrau yn iach. Cael digon o haul, a sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny mewn modd cyfrifol, yw’r brif ffordd y gallwn ni gael Fitamin D. Ond, mae’r fitamin hwn i’w gael hefyd mewn rhai bwydydd fel pysgod olewog ac wyau”.

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Byddwn ni nawr yn gweithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad. Byddwn ni’n codi ymwybyddiaeth o’r argymhelliad dyddiol ac yn cefnogi pobl i gyrraedd y lefel hon fel rhan o’n hagwedd ehangach at iechyd a llesiant”.