Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog Iechyd newydd Cymru yn amlinellu cynlluniau newydd i leihau amseroedd aros, recriwtio rhagor o feddygon teulu a symud gofal allan o’r ysbyty ac i mewn i’r gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Hyd at ddeg canolfan llawfeddygol a diagnostig newydd i gael eu datblygu ar draws Cymru dros bedair blynedd
  • Arosiadau o ddwy flynedd i gael eu dileu ymhen misoedd
  • Meddygon teulu newydd, gofal y tu allan i oriau wedi’i ehangu a gwasanaethau cymunedol wedi’u cryfhau i leddfu’r pwysau ar ysbytai


Bydd rhaglen o hyd at ddeg canolfan lawfeddygol a diagnostig yn cael ei datblygu dros y pedair blynedd nesaf i gynyddu capasiti’r Gwasanaeth Iechyd a lleihau oedi.

Bydd arosiadau o ddwy flynedd yn cael eu dileu ymhen misoedd, gyda nifer yr arosiadau sydd wedi cronni yn gyffredinol yn lleihau i’r un lefelau ag yr oeddent cyn y pandemig – a hyn oll yn cael ei gyflawni cyn diwedd tymor y Senedd hon.

Bydd hyd at 100 o feddygon teulu cyflogedig newydd yn cael eu recriwtio a bydd mynediad at ofal sylfaenol y tu allan i oriau yn cael ei ehangu i leihau’r pwysau ar ysbytai.

Bydd gofal cymunedol yn cael ei ehangu a bydd trefniadau ar gyfer cynllunio i ryddhau cleifion yn cael eu cryfhau, fel bod pobl yn treulio llai o amser yn yr ysbyty a mwy o amser yn byw yn dda gartref.

Bydd Strategaeth Digidol a Data ddeng mlynedd yn moderneiddio seilwaith y Gwasanaeth Iechyd, a bydd strategaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu yn cael ei chyhoeddi yr hydref hwn.

Yn sgil prinder swyddi ar gyfer y rheini sy’n graddio yn y meysydd nyrsio, bydwreigiaeth a pharafeddygaeth eleni, bydd sefydliadau yn dod ynghyd mewn uwchgynhadledd i ystyried cymorth i’w ddarparu ar unwaith a’r opsiynau ar gyfer atal problemau tebyg yn y dyfodol.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal:

Mae gorfod aros blynyddoedd am driniaeth, gyda’r holl boen a phryder sy’n dod yn sgil hynny, yn realiti annioddefol i lawer gormod o bobl yng Nghymru.

Mi fyddwn ni’n mynd ati’n ddi-oed, drwy uchelgais a gweithredu pendant, i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac i greu Cymru iachach a thecach – gyda system iechyd a gofal sy’n rhoi pobl yn gyntaf ac yn cyflawni’r newid sydd ei angen ar ein cenedl.