Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod ei chyfarfod â Tata Steel yn India yn gynharach heddiw (dydd Iau 29 Chwefror).

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfarfu Eluned Morgan â Phrif Weithredwr byd-eang Tata Steel, Narendran, cyn dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Mumbai i lansio blwyddyn Cymru yn India.

Diben y cyfarfod oedd parhau â'r sgyrsiau a gynhaliwyd rhwng Prif Weinidog Cymru, Gweinidog yr Economi Vaughan Gething a Tata Steel yn dilyn eu cyhoeddiad i gau dwy ffwrnais chwyth Port Talbot a'r ffwrneisi golosg yn raddol.

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd hefyd bwysigrwydd ystyried yn llawn yr opsiynau amgen y mae'r undebau llafur wedi'u cyflwyno ac anogodd y cwmni i beidio â gwneud unrhyw ddewisiadau na ellir eu gwrthdroi.

Dywedodd y Gweinidog, Iechyd Eluned Morgan:

Dur yw'r llinyn a fydd yn rhedeg trwy economi heddiw ac yfory a gall dur Cymru chwarae rhan fawr yn y trawsnewid hwnnw. Pasiodd y Senedd bleidlais unfrydol yn ddiweddar o blaid parhau i gynhyrchu dur ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot fel rhan o drawsnewidiad tecach a hirach. Hon oedd y neges a godais i gyda Tata Steel yma yn India wrth annog y cwmni i osgoi camau gweithredu na ellir eu gwrthdroi ac a fyddai’n atal cyfleoedd am gytundeb gwell a chredadwy.   

Fe ailadroddais bwysigrwydd ymgysylltu'n ystyrlon ag undebau llafur dur a phwysleisiais y goblygiadau y bydd unrhyw gynigion yn eu cael ar weithwyr yn y gadwyn gyflenwi ledled Cymru yn ogystal â'r effaith uniongyrchol ar weithlu ymroddedig Tata.

Fel rhan o'n cyllideb derfynol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £4.75 miliwn yn ein rhaglenni cyflogadwyedd gan gynnwys ReAct+, Cymunedau am Waith + a Thwf Swyddi Cymru+, gan roi hwb i fuddsoddiad presennol o £49 miliwn er mwyn ein galluogi i wneud yr hyn a allwn i atal y canlyniadau gwaethaf i gymunedau dur Cymru. 

Mae'r cyllidebau hyn yn seiliedig ar y galw a byddant yn cael eu blaenoriaethu i sicrhau bod gweithwyr yn cael cymorth effeithiol lle bo’i angen.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Rydyn ni'n annog Tata Steel a gweinidogion Llywodraeth y DU i gynnal trafodaethau newydd er mwyn atal y golled economaidd y mae ein cymunedau dur yn ei hwynebu.

Rydyn ni'n gobeithio, drwy ddeialog â'r undebau, y gall y partïon ddod o hyd i ffordd gredadwy ymlaen i'r busnes lle na fydd angen colli'r ddwy ffwrnais a cholli swyddi ar y raddfa syfrdanol hon.