Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi dweud bod yr unigolion hynny sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 a brechiad rhag y ffliw yn cael eu hannog i fanteisio ar y cynnig cyn y gaeaf heriol sydd o flaen Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw mae’r Strategaeth Frechu COVID-19 yn cael ei chyhoeddi ar ei newydd wedd. Yn y Strategaeth, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn cadarnhau y bydd y rhan fwyaf o’r rheini sy'n gymwys yn cael cynnig eu brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Bydd unigolion sydd â system imiwnedd wan yn cael cynnig trydydd dos o’r brechlyn i roi’r amddiffyniad gorau posibl iddynt. Byddant yn cael eu blaenoriaethu i gael apwyntiad brys ar amser sy’n gyfleus iddynt, yn seiliedig ar y driniaeth y maen nhw’n ei derbyn a chyngor eu clinigydd.

Mae'r Strategaeth hefyd yn cadarnhau, erbyn 1 Tachwedd 2021, y bydd cynigion yn cael eu gwneud ar gyfer:

  • un dos i bob person ifanc 12-15 oed
  • brechiad atgyfnerthu i breswylwyr cartrefi gofal a staff iechyd a gofal

Bydd pob un yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cael eu gwahodd i gael brechiad atgyfnerthu o leiaf chwe mis wedi iddynt gael eu dos diwethaf. Fel o'r blaen, bydd y llythyrau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd a gofynnir i bobl beidio â chysylltu â'u meddyg teulu.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:

Bydd y gaeaf hwn yn hynod o anodd i'n gwasanaeth iechyd felly mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn manteisio ar y cynnig i gael brechiad COVID-19 a brechiad rhag y ffliw os ydyn nhw’n gymwys, er mwyn eu hamddiffyn nhw eu hunain a'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae brechiadau ar gyfer y coronafeirws yn effeithiol iawn. Amcangyfrifir, ar ôl i unigolyn gael ail ddos, y bydd ei lefel amddiffyniad rhag cael ei dderbyn i’r ysbyty yn tua 95%. Bydd unigolion hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag cymhlethdodau difrifol os byddan nhw’n cael eu brechu rhag y ffliw. Os ydyn nhw’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 neu beidio, rydw i’n annog pob unigolyn sy'n gymwys i gael ei frechu rhag y ffliw.

Hyd yma, rydyn ni wedi rhoi mwy na 4.6 miliwn o frechiadau COVID-19 ac mae 85 y cant o'r boblogaeth dros 16 oed wedi cael eu brechu'n llawn.

Nid oes unrhyw bryder ynghylch cyflenwadau unrhyw un o'r brechlynnau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cynigion i barhau i amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ogystal â’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae byrddau iechyd yn gwneud cynnydd da yn barod o safbwynt darparu’r brechiad atgyfnerthu, brechu pobl ifanc 16 a 17 oed a phobl ifanc o 12-15 oed, gan gynnwys y rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf oherwydd bod ganddynt gyflyrau iechyd eisoes.

Rydym hefyd yn annog pobl ifanc 12-15 oed i gael sgwrs am gael y brechiad gyda'u teulu neu gydag oedolyn y maen nhw’n ymddiried ynddo.

Dim ond ar ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref y bydd y rhan fwyaf o oedolion iau wedi cael eu hail ddos o frechlyn COVID-19 a bydd ganddynt lefel uchel o amddiffyniad o hyd. Bydd manteision cynnig brechiadau atgyfnerthu i’r grŵp hwn yn cael eu hystyried pan ddaw rhagor o wybodaeth i law.

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi bod system archebu ddigidol yn cael ei datblygu i alluogi pobl i drefnu apwyntiadau ar-lein er mwyn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ofyn am frechiad ar amser sy’n gyfleus iddynt. 

Bydd apwyntiadau yn dal i fod ar gael ar gyfer dosau cyntaf o frechlyn COVID-19 i unrhyw un sydd heb ei frechu.