Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cymru'n rhoi ei rhaglen frechu fwyaf erioed ar waith i frechu rhag y ffliw yr hydref hwn. Bydd pawb sydd dros 50 oed a phob disgybl ysgol uwchradd yn cael cynnig brechiad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2020/2021 cafodd y nifer mwyaf erioed o frechiadau ffliw – dros filiwn – eu rhoi yng Nghymru, ac am y tro cyntaf roedd nifer y bobl dros 65 oed a fanteisiodd ar y cynnig yn fwy na 75%.

Bydd y rhaglen i roi dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID hefyd yn cael ei gweinyddu ar y cyd ar gyfer pobl sy’n gymwys, lle bo hynny'n briodol, er mwyn ceisio gwella  effeithlonrwydd y broses ac annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle i gael y ddau frechiad.   

Daw hyn wrth i’r Prif Swyddog Meddygol rybuddio, yn ei lythyr blynyddol am y ffliw, y gallai’r ffliw a COVID-19 fod ar led yr un pryd y gaeaf hwn, yn ogystal â heintiau anadlol eraill.

Bydd cynyddu nifer y rhai sy'n gymwys i gael y pigiad ffliw, a chynnal y rhaglen yr un pryd â rhaglen atgyfnerthu’r brechlyn COVID, yn fodd i ddiogelu'r cyhoedd a'r GIG fel ei gilydd.

Y gobaith yw y bydd ehangu’r rhaglen brechu rhag y ffliw yn golygu bod llai o salwch a marwolaethau sy’n gysylltiedig â'r ffliw ac y bydd llai o bobl yn gorfod mynd i’r ysbyty, ar adeg pan allai'r GIG a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol fod yn rheoli achosion lluosog o COVID-19 unwaith eto y gaeaf hwn.

Yn ogystal â chynnig brechiad i bawb sydd dros 50 oed, bydd y rhaglen ysgolion yn cael ei hestyn i bobl disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11.

Mae hyn yn golygu y bydd y brechlyn y ffliw ar gael drwy’r GIG i ymhell dros 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais o sicrhau bod 75% o ddisgyblion ysgolion uwchradd ac 80% o bobl 65 oed a hŷn yn cael eu brechu y ffliw.

Caiff pecyn ariannu ychwanegol o £6.8m ei ddyrannu i’r byrddau iechyd i’w galluogi i gyrredd y ddwy garfan newydd.

Bydd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, yn ysgrifennu at GIG Cymru am y Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol Rhag y Ffliw yn 2021-22. Bydd yn manylu ymhellach ynglŷn â’r grwpiau brechu sy’n cael blaenoriaeth, yr uchelgais o ran sicrhau bod pobl yn manteisio ar y cynnig, y brechlynnau sydd ar gael a'r potensial i weinyddu brechlynnau COVID a brechlynnau’r ffliw ar y cyd yn ystod y tymor sydd i ddod.

Dywedodd:

Dyma'r tro cyntaf inni gynnig brechiad rhag y ffliw i'r rhai ym mlynyddoedd 7-11 yn yr ysgol, gan ein bod yn sylweddoli bod mwy o risg y bydd y ffliw a chyflyrau anadlu yn lledaenu ymysg pobl ifanc yn ystod y gaeaf.

Rydym yn pryderu y bydd y ffliw a COVID-19 yn cyd-ddigwydd y gaeaf hwn, ac yn gwneud popeth i baratoi cystal ag y gallwn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae'n bwysig iawn bod pobl yn manteisio ar y cyfle i gael eu brechu rhag y ffliw ac rydyn ni’n falch iawn y bydd modd ei gyflwyno gyda dos atgyfnerthu COVID mewn rhai achosion.

Diolch i lwyddiant rhyfeddol ein rhaglen i frechu rhag COVID - y mae nifer digynsail o bobl wedi manteiso arni ac sydd wedi dysgu gwersi gwerthfawr inni - rydym wedi gallu ehangu’r rhaglen i frechu rhag y ffliw i gynnwys bawb sydd dros 50 oed neu ym  mlynyddoedd 7 i 11 yn yr ysgol.

Rydym yn disgwyl y bydd y ffliw a COVID-19 ar led yr un pryd y gaeaf hwn, ac allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw hi bod y rhai sy'n gymwys yn manteisio ar y cyfle i gael pigiad ffliw a brechiad atgyfnerthu COVID.