Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Gymru ystyried dyfodol y cyfyngiadau symud, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi canmol gwirfoddolwyr yng Nghymru ac wedi annog eraill i ymuno â nhw, gan y bydd angen eu cymorth yn fwy nag erioed yn ystod y misoedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r alwad yn dod wedi i fwy na 360 o bobl gynnig helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i osod dodrefn ac offer ym mhedwar ysbyty maes y sir. Roedd hyn dim ond 24 awr ar ôl i’r apêl am wirfoddolwyr fynd yn fyw drwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS) ar wefan Gwirfoddoli Cymru a phlatfform cysylltu Sir Gâr  (connect2carmarthenshire.org.uk platform).

Cafodd (Connect2Carmarthenshire) ei greu i gysylltu pobl sy’n cynnig cymorth â phobl y mae angen cymorth arnynt, fel rhan o ymgyrch SirGâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr.

Mae gwirfoddoli yng Nghymru yn digwydd ar bob lefel. Ar lefel genedlaethol, mae dros 30,000 o bobl wedi ymuno drwy wefan Gwirfoddoli Cymru, sef 16,000 yn rhagor ers 1 Mawrth, ac ar lefelau rhanbarthol, lleol a chymunedol, mae miloedd yn rhagor yn cefnogi eu trefi, eu pentrefi a sefydliadau gwirfoddol yn eu cymunedau.

O ganlyniad, mae Cymru yn llwyddo i adeiladu cronfa o wirfoddolwyr a fydd yn gallu parhau i gefnogi pobl drwy’r cyfnod o dan gyfyngiadau symud ac wedyn.

Mae’r ffaith bod gan Gymru boblogaeth fawr o bobl hŷn, a daearyddiaeth sy’n gymysgedd o gymunedau bach ac ardaloedd poblog iawn, yn golygu bod yn rhaid inni fynd ati mewn ffordd unigryw i drefnu ein gwirfoddolwyr, gan ganolbwyntio ar anghenion a seilwaith lleol.

Bydd yr angen yng Nghymru am y gronfa hon o wirfoddolwyr, sy’n barod i helpu ar lefelau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol, yn fwy nag erioed o’r blaen yn ystod y misoedd nesaf, yn enwedig wrth i bobl, sydd wedi bod yn gwirfoddoli tra bônt ar ffyrlo, ddychwelyd i’w gwaith.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt:

“Mae haelioni pobl Cymru yn ysbrydoliaeth ac mae wedi fy syfrdanu.

“Dw i eisiau diolch i’r miloedd o wirfoddolwyr gwych sydd eisoes wedi ymuno yn yr ymgyrch i helpu eu cymunedau a sefydliadau yn y trydydd sector. Wrth i amser fynd heibio, ac wrth i anghenion newid, bydd y galw am eich cymorth yn fwy nag erioed.

"Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi canfod rôl ichi eich hunan, neu os ydych wedi cofrestru ond nad oes neb wedi cysylltu â chi eto – mae mawr angen eich help.

 “Fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin, bu ymateb gwych i’r galwad am gymorth ym mhob sir ar hyd a lled Cymru. Dw i wedi clywed llu o hanesion am lwyddiant o bob rhan o’r wlad, lle mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i les eu cymunedau. Gan y bobl leol y mae’r wybodaeth orau am eu cymdogaeth a’r seilwaith lleol, felly nhw sy’n deall anghenion lleol orau.

“Os nad ydych wedi gwirfoddoli eto, rydyn ni’n eich annog i wneud hynny. Mae cymorth gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ymateb Cymru i COVID-19, ac wrth i fwy o bobl fynd yn ôl i’w gwaith, bydd angen eich cefnogaeth fwy nag erioed. Mae cyfraniad pob gwirfoddolwr yn cael ei werthfawrogi. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i gynnig eich cymorth ym mha bynnag ffordd sydd orau ichi – dim ond ichi gadw eich hunan ac eraill yn ddiogel.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyng. Emlyn Dole:

“Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn gwirfoddoli i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob un ohonoch sydd wedi cynnig eich help i sefydlu’r ysbytai maes hyn sydd mor hanfodol i’r GIG; dw i wir yn gwerthfawrogi ysbryd cymunedol pobl Sir Gâr.

“Dyma ichi nod SirGâredig, sef helpu pobl i gefnogi ei gilydd a dangos caredigrwydd, yn enwedig ar adegau cythryblus fel hyn.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin ac ar hyd a lled Cymru, bu ymateb anferth i’r galwadau am wirfoddolwyr. Cofiwch barhau i wirfoddoli, dyna ein neges wrth inni edrych i’r dyfodol, at fywyd ar ôl i’r cyfnod o gyfyngiadau symud caeth ddod i ben.

“Efallai na fyddwch yn clywed yn ôl yn syth ar ôl ichi gofrestru, ond dydy hynny ddim yn golygu na fydd angen eich help. Yn ystod y misoedd nesaf, pan fydd pobl yn dechrau dychwelyd i’w gwaith bydd yr angen am wirfoddolwyr yn fwy nag erioed. Felly mae’n hanfodol bod cronfa o bobl y gallwn ni alw arnynt pryd bynnag a lle bynnag y mae angen eu help.

“Mae digon o ffyrdd y gallai pobl helpu drwy wirfoddoli. Rydyn ni’n dal i wahodd pobl i gofrestru ar wefan Gwirfoddoli Cymru, a bydd y bobl hynny’n cael eu paru â sefydliadau gwirfoddol a darparwyr gwasanaethau lleol sydd angen sgiliau’r gwirfoddolwyr hynny.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

"Rydyn ni  wedi cael ein hysbrydoli gan barodrwydd cymaint o bobl i roi help llaw yn yr argyfwng hwn, a hoffwn ddiolch o galon i bob un ohonyn nhw. Bydd gwirfoddolwyr yn allweddol i helpu’r awdurdodau lleol a staff penodol i ymateb i anghenion lleol pan fyddan nhw’n codi, gan fod y galw yn sicr o gynyddu yn fwy byth yn ystod y misoedd heriol sydd i ddod. "