Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyllid yn rhan o £30 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau'r gwaith integredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Mawrth 2017, roedd 5,954 o blant mewn gofal yng Nghymru, sy'n gynnydd o 5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Tuedd sydd wedi cynyddu ledled y DU.

Bydd y cyllid i ehangu gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei ddarparu i deuluoedd a phlant yn gynnar yn y broses, er mwyn iddynt gael y gefnogaeth i aros gyda'i gilydd a lleihau'r angen yn y pendraw i blant dderbyn gofal.

Mae'r cyllid yn rhan o £30 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau'r gwaith integredig a gyhoeddwyd yng Nghyllideb ddrafft 2019-20 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

"Fel rhan o'n rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, pennwyd ymrwymiad clir gennym i edrych ar ffyrdd o sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill ac addasu’r ffordd y maent yn derbyn gofal, os oes angen. Mae ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, hefyd yn disgrifio'n blaenoriaethau o ran cefnogi plant a theuluoedd sydd ar ffiniau gofal a phobl ifanc sydd mewn gofal, yn enwedig wrth iddynt droi'n oedolion.

"Felly, rwy'n falch iawn o gadarnhau y byddwn yn buddsoddi £15 miliwn i fwrw ymlaen â'n huchelgais, sef drwy ymyrryd yn gynnar gallwn leihau'r angen i blant dderbyn gofal a darparu cymorth therapiwtig i blant mewn gofal a phlant sydd wedi’u mabwysiadu. Rwy'n disgwyl i awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a byrddau iechyd weithio mewn partneriaeth er mwyn defnyddio'r gronfa mewn ffordd hyblyg a chreadigol ar draws eu rhanbarthau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant a hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad a'u cydweithrediad hyd yn hyn.”

Fel rhan o raglen Llywodraeth Cymru, Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant, mae Gweinidogion yn mynd i weithredu mewn ffordd uchelgeisiol, trawslywodraethol ac ar draws y sectorau er mwyn helpu i wireddu eu blaenoriaethau a chyflawni eu hymrwymiad i wella bywydau plant mewn gofal. 
Mae'r rhaglen yn mynd i ganolbwyntio'n fwy ar fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n gallu arwain at roi plant yng ngofal yr awdurdod lleol. Llynedd, gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi £9miliwn er mwyn cefnogi plant sydd wedi cael profiad o ofal.  Mae hyn wedi arwain at:
  • Buddsoddiad gwerth £5miliwn mewn gwasanaethau ar ffiniau gofal Awdurdodau Lleol sydd wedi golygu bod awdurdodau lleol wedi helpu dros 3,600 o blant i aros o fewn yr uned deuluol drwy weithio gyda dros 2,000 o deuluoedd
  • Rhoi cyllid i dros 1,900 o blant sydd â phrofiad o ofal ledled Cymru drwy Gronfa Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, sydd werth £1miliwn, er mwyn eu cefnogi wrth iddynt droi'n oedolion a chael mwy o annibyniaeth
  • Sefydlu Gwasanaethau Reflect rhanbarthol.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gwasanaethau hyn wedi cefnogi 150 o rieni ifanc y mae eu plant wedi'u rhoi yn y system ofal. Maent wedi helpu gyda materion megis atal cenhedlu, tai, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a sgiliau rhianta ymarferol
  • Darparu £1miliwn i ehangu'r ddarpariaeth o Gynghorwyr Personol fel bod pob un hyd at 25 oed sy'n gadael gofal yn cael cynnig gwasanaeth Cynghorydd Personol, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau.  O ganlyniad, cafodd 20 Cynghorydd Personol ychwanegol eu recriwtio ac mae dros 500 o bobl sydd wedi gadael gofal wedi manteisio ar y cynnig estynedig
  • Mae'r rhai sy'n gadael gofal wedi cael cymorth i gael mynediad at gyfleoedd o ran addysg, gwaith neu hyfforddiant - mae 70 o bobl ifanc bellach yn cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith neu gynllun hyfforddi gydag awdurdod lleol.  
Ym mis Mai eleni, cafodd waith ymchwil ei gyhoeddi ar ganlyniadau lleoliadau plant yn dilyn gorchymyn gofal terfynol.  Roedd y gwaith ymchwil pwysig hwn yn dangos bod dros dri chwarter o'r plant yn yr astudiaeth mewn lleoliad sefydlog ynghyd â nodi profiadau cadarnhaol eraill o ran gofal.   Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran gwella'r canlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru yn arwain at ganlyniadau go iawn a phendant sy'n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc.”