Neidio i'r prif gynnwy

Nid mater o swyddi a sgiliau'n unig yw cyflogadwyedd. Mae gofyn i bob elfen o waith y Llywodraeth gydweithio i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma neges y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, heddiw wrth iddi ddisgrifio ei hagenda ar gyfer cyflogadwyedd yng Nghymru ar ôl cael mandad gan y Cabinet i arwain ar gyflogadwyedd ar draws Llywodraeth Cymru.  
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen i 'ail-lunio cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy’n barod am waith, a’r rheiny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, er mwyn eu helpu nhw i ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i gael a chadw swyddi cynaliadwy.’ 
Fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru'n datblygu Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd ynghyd â rhaglenni cysylltiedig a fydd yn cysylltu ac yn clymu amrywiaeth o bolisïau eraill ar draws y sefydliad i sicrhau yr eir ati i ymdrin â chyflogadwyedd mewn ffordd fwy integredig; mewn ffordd sy'n fwy addas i anghenion pobl a busnesau Cymru.
Mae'r Gweinidog, Julie James, yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod camau ar waith eisoes i gyflwyno mesurau newydd i helpu i ddatblygu'r Cynllun Cyflenwi. Yn ogystal â chael mandad gan y Cabinet i arwain ar gyflogadwyedd ar draws Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael swyddi ac aros ynddynt, bydd yn cyhoeddi heddiw ei bod hefyd:
  • yn sefydlu Bwrdd trawslywodraethol newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru i arwain ar ddatblygu'r Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd;
  • yn llunio Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Allanol, a fydd yn cyfrannu at waith y Bwrdd Trawslywodraethol ac yn cynnwys cynrychiolwyr partneriaid allweddol, i sicrhau ein bod yn defnyddio dull mwy integredig o ymdrin â chyflogadwyedd.
Yn ogystal, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau:
  • caiff y cynllun terfynol ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon
  • enw'r Rhaglenni Cyflogadwyedd fydd 'Cymru'n Gweithio'. 
Wrth ddisgrifio sut y mae gwaith Tasglu'r Cymoedd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu'r Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd, dywedodd y Gweinidog:

“Gwelsom welliannau sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae dros 1.4 miliwn o bobl mewn swyddi yng Nghymru, cynnydd o dros 19.1% ers datganoli  ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod y gyfradd ddiweithdra'n parhau i fod yn uchel mewn rhai cymunedau ar draws Cymru. 
"Er na ddylid diystyru cyfraniad Llywodraeth Cymru, na chymorth ariannol yr UE, tuag at gyfradd gyflogadwyedd sy'n ffafriol ar y cyfan, rydyn ni'n gwybod nad yw'r sefyllfa'n fêl i gyd a bod yn rhaid i ni wneud mwy i helpu'r rheiny sy'n anweithgar yn economaidd, y rheiny a hoffent weithio rhagor o oriau a'r rheiny sydd mewn swyddi ansicr.
"Yn wir, mae mynd i'r afael â chyflogadwyedd wedi bod yn elfen allweddol o drafodaethau Tasglu'r Cymoedd, ond rydyn ni hefyd yn cydnabod bod angen dod â swyddi a thwf cyn gynted ag y bo modd i gymunedau ledled Cymru sydd angen rhagor o'r ddau. Dyma'n union yr ydym yn gobeithio'i gyflawni drwy ddiwygio ein cymorth cyflogadwyedd."

Bydd Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd Cymru'n cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2017, a'r bwriad yw bod y rhaglenni cyflenwi newydd yn cael eu rhoi ar waith ym mis Ebrill 2019. 
Bydd y cwbl yn cael ei gyflwyno fel un cynnig cyflogadwyedd o dan yr enw Cymru'n Gweithio a bydd yn cael ei seilio ar raglen newydd ar gyfer oedolion ynghyd â dwy raglen newydd a fydd yn rhoi cymorth i bobl ifanc i fod yn fwy cyflogadwy.
Rhwng nawr a mis Ebrill 2019, bydd Llywodraeth Cymru'n ad-drefnu ei rhaglenni presennol i sicrhau bod y broses o bontio rhwng y naill drefn i'r llall yn mynd rhagddi'n effeithiol, gan ddefnyddio'r Cymoedd fel ardal beilot ar gyfer y dull cyflawni newydd. Byddwn yn diwygio’r rhaglenni cyflogadwyedd presennol, gan gynnwys ReAct a ariennir gan yr UE, Twf Swyddi Cymru a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, i sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â'r cynnig newydd, er mwyn gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl ddi-waith a'r rheiny sydd i mewn ac allan o waith yn ddiddiwedd mewn cyfres o swyddi dros dro ar gyflogau isel.Ychwanegodd Julie James: 
"Rydyn ni'n awyddus i hybu ffyniant pawb fel bod manteision twf economaidd yn cael eu rhannu gan bawb sydd mewn swydd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheiny sydd bellaf  sydd oddi wrth y farchnad lafur a darparu pecyn cyfannol o gymorth a mentora dwys, personol a phwrpasol iddyn nhw i chwalu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, ac i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd a chyflawni'n huchelgais o ddarparu ffyniant i bawb. Dim ond drwy weithio ar draws y Llywodraeth fel bod cymorth yn cael ei alinio'n yn well y gallwn wneud hyn. "Os ydyn ni'n mynd i lunio agenda cyflogadwyedd newydd, mae angen i ni ddefnyddio dull cydlynol ledled Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r llu o rwystrau sy'n atal pobl rhag cael swydd deg o ansawdd da a dod ymlaen yn eu swyddi. Bydd unigolion ar draws Cymru'n elwa ar y dull hwn, a bydd yn darparu'r dyfodol llewyrchus, sicr sydd ei angen arnom er mwyn Symud Cymru Ymlaen. "