Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, yn galw ar arweinwyr cymunedol y gogledd i gefnogi’i wrthwynebiad i gynlluniau, a allai pe baen nhw’n cael eu dewis, fod yn andwyol i brofiad cymudwyr y rhanbarth ac i gysylltiadau trawsffiniol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Manchester Recovery Task Force (MRTF) wedi dechrau ymgynghoriad fydd yn para tan 10 Mawrth fydd yn cynnig tri opsiwn i newid gwasanaethau teithwyr a nwyddau fel rhan o ymgais i wella perfformiad y rhwydwaith rheilffyrdd yn ardal Manceinion.

Mae’r tri opsiwn ar gyfer newid yn yr ymgynghoriad yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaeth Trafnidiaeth Cymru rhwng y gogledd a Manceinion.

  • Opsiwn a: cynnig i ailgyfeirio’r gwasanaethau rhwng y gogledd a Manceinion i orsafoedd Manceinion Victoria a Stalybridge, gan ddod â’r gwasanaethau uniongyrchol rhwng y gogledd a Maes Awyr Manceinion i ben, a pheidio â galw yng ngorsafoedd Manceinion Piccadilly ac Oxford Road
  • Opsiwn b: yn cadw’r gwasanaethau cyfredol rhwng y gogledd a Maes Awyr Manceinion/Manceinion Piccadilly.
  • Opsiwn c: ailgyfeirio’r gwasanaethau rhwng y gogledd a Manceinion ar hyd ‘Lein Canol Swydd Gaer’. Byddai hynny’n dod â gwasanaethau uniongyrchol rhwng y gogledd a Maes Awyr Manceinion i ben, gyda’r gwasanaeth yn galw yn y gorsafoedd canlynol yn unig i’r dwyrain o Gaer, Northwich, Knutsford, Altringham a Manceinion Piccadilly.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi trafod â thîm yr MRTF ac yn deall y byddai Opsiynau a ac c yn ychwanegu at amser y daith i deithwyr rhwng y gogledd a Maes Awyr Manceinion ac yn debygol o arwain at waethygu’r perfformiad i gymudwyr y gogledd. 

Yn ei lythyr, dywedodd Ken Skates:

“Rwy’n poeni bod yr ymgynghoriad yn canolbwyntio’n llwyr ar ymdrin â symptomau’r ffaith nad yw’r seilwaith rheilffyrdd yn ardal Manceinion yn cynnal lefel ac ansawdd y gwasanaethau sydd eu hangen ar deithwyr yng Nghymru a thu hwnt, hynny yn hytrach na mynd i’r afael â gwreiddyn problemau’r seilwaith.

“Unig ganlyniad derbyniol yr ymgynghoriad hwn i Gymru yw cadw gwasanaethau uniongyrchol Trafnidiaeth Cymru i Faes Awyr Manceinion, fel y’u gwelir yn Opsiwn B.

"Mae’n bwysig iawn fod yr holl randdeiliaid yn y Gogledd yn gwybod am yr ymgynghoriad hwn, a’u bod yn mynegi’r farn bod yn rhaid i’r Gogledd gadw ei gysylltiadau uniongyrchol â Maes Awyr Manceinion a Manceinion Piccadilly. Os ydy cysylltedd a ‘lefelu i fyny’ i olygu mwy na geiriau, dyma’r unig opsiwn posibl.