Mae UK Highways A55 Ltd wedi cadarnhau y bydd y gwaith Cam 2 ar Bont Menai yn cael ei ohirio o leiaf chwe mis.
- Mae contractwyr yn cadarnhau rhagor o oedi wrth gwblhau Cam 2, ac maen nhw bellach yn disgwyl oedi o chwe mis o leiaf.
- Mae camau'n cael eu cymryd i leihau tarfu yn ystod y cyfnod hwn.
Roedd y gwaith ar y strwythur 200 mlwydd oed i fod wedi'i gwblhau yng Ngwanwyn 2027, ond mae bellach wedi cael ei ohirio tan hydref 2027 am fod dŵr wedi cael ei ganfod yn dod i mewn ar y gwaith dur islaw'r bont.
Nid oedd archwiliadau cynharach wedi nodi'r cyflwr hwn, ac roedd yn golygu na ellid gosod y system baent arfaethedig yn ddibynadwy.
Er mwyn atal y gwaith rhag oedi pellach, aildrefnodd UK Highways A55 Ltd y gwaith Cam 2 a oedd ar ôl, wrth ddod o hyd i system baent a oedd yn gallu gwrthsefyll lleithedd ac a oedd yn addas ar gyfer strwythurau treftadaeth er mwyn bwrw ymlaen â'r paentio wedi'i gynllunio.
Bydd y rhaglen ddiwygiedig yn parhau i gydbwyso cyflawni'r ail gam â gweithredu'r bont mewn modd diogel a lleihau tarfu ar gymunedau lleol, gan gynnwys tynnu rheolaethau traffig o'r bont am weddill 2026. Bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn parhau i fod mewn grym drwy gydol gwaith Cam 2.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper
Mae pobl wedi goddef oedi ac anghyfleustra ar y bont hon am ormod o amser, a dyna pam mae'r llywodraeth hon wedi gweithredu'n gyflym i gychwyn ar drydedd bont dros y Fenai.
Roeddwn i'n hynod siomedig ac yn rhwystredig clywed gan y contractwyr y bydd eu rhaglen atgyweirio, sydd wedi gweld nifer o oediadau, yn cael ei gohirio unwaith eto.
Rwyf wedi ei gwneud yn glir i UK Highways A55 Ltd ers ymgymryd â'r rôl hon pa mor bwysig yw cynnal momentwm a meithrin hyder yn y rhaglen waith, felly mae'r oedi diweddaraf hwn yn annerbyniol.
Rwy'n cydnabod y gall prosiect o'r fath wynebu heriau annisgwyl a bod rhaid i ddiogelwch barhau i fod yn hollbwysig, ond mae angen i fi ddeall yn llawn pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol.
Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Equitix, sef corff llywodraethu UK Highways A55 Ltd yn mynegi fy rhwystredigaeth a fy mhryderon ac wedi galw am gyfarfod brys i drafod y materion hyn er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi cael ei gwblhau erbyn y dyddiad diwygiedig. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y cynnydd.
