Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies wedi canmol menter gymunedol lwyddiannus yng Nghasnewydd sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu a phobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Cwmni Cyfryngau Cymunedol Energize ei sefydlu ym mis Ionawr 2015 fel menter gymdeithasol yng Nghanolfan Gymunedol Shaftesbury yng Nghasnewydd.

Daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd yn 2014 gyda'r nod o gynnig cyfle ym maes radio cymunedol i grŵp o oedolion agored i niwed, pobl ifanc, a phobl sydd ag anableddau eraill neu broblemau iechyd meddwl.

Dechreuodd y prosiect fynd o nerth i nerth pan ddefnyddiodd Jeremy a Nigel - dau oedolyn sydd ag anableddau dysgu cymedrol - eu Taliadau Uniongyrchol i’w roi’n gadarn ar ei draed, a chyda chymorth gwirfoddolwyr, mae'r prosiect wedi parhau i ddatblygu.

O ganlyniad i'r fenter hon, mae un o'r sylfaenwyr, Jeremy Kempton, wedi magu hunan hyder i’r fath raddau fel ei fod wedi symud i fyw i lety byw â chymorth ar ôl 50 mlynedd o fyw gyda'i fam. Mae ei fam yn credu bod y prosiect a'r gwaith sydd wedi ei gyflawni yno wedi rhoi bywyd newydd iddo.

Fel grŵp, maen nhw hefyd wedi sefydlu prosiect ysgol llwyddiannus iawn sydd wedi gweithio gyda nifer o ddisgyblion yn y Ganolfan ac yn Ysgol Uwchradd Casnewydd gerllaw. Mae'r modd y mae'r prosiect wedi llwyddo i integreiddio pawb a thrawsnewid bywydau pobl ifanc wedi cael ei ganmol ar draws y De.

Dywedodd un o'r sylfaenwyr, Simon Harvey:

"Mae'n anhygoel yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni gan bawb sy'n rhan o Energize, gyda Jeremy a Nigel yn dangos eu ffydd yn y prosiect drwy ddefnyddio eu Taliadau Uniongyrchol i agor y drws i lawer mwy o bobl. Mae llawer o oedolion agored i niwed, a'u teuluoedd, wedi bod ag ofn defnyddio Taliadau Uniongyrchol, gan eu bod heb ddeall y rhyddid y mae'r taliadau hyn yn ei gynnig.

"Rydyn ni nawr yn gweithio gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru i gryfhau ac ehangu ein gwaith, a helpu i gyflawni'r weledigaeth o sefydlu rhagor o fentrau cymunedol i arwain ym maes darpariaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru."

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies:             

“Roedd yn bleser mawr ymweld â'r ganolfan heddiw i gwrdd â phawb sy'n rhan o'r fenter hon, ac roeddwn wrth fy modd o glywed am sut yr oedd Jeremy a Nigel wedi ysbrydoli eraill drwy ddod at ei gilydd i helpu i roi'r prosiect ar ben y ffordd, a hefyd sut mae'r fenter wedi llwyddo’n rhyfeddol i newid eu bywydau nhw ac eraill er gwell.

“Mae'n enghraifft wych o sefydliad llwyddiannus ac iddo werth cymdeithasol drwy ei fod yn helpu pobl sydd ag anableddau dysgu a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd, yn unol ag egwyddorion ein deddf arloesol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

“Mae'n amlwg bod y prosiect hwn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol, gan obeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth."