Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar batrôl gyda Heddlu’r De yn y Barri, yn cael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd i gadw cymunedau yn ddiogel.
Mae’r profiad o gysgodi swyddogion yr wythnos hon yn digwydd yn sgil penderfyniad y Gweinidog i gael gwell dealltwriaeth o’r math o broblemau y mae’r uned ymateb i ddigwyddiadau yn delio â hwy wrth iddynt gael eu galw i ddigwyddiadau byw tra’u bod ar ddyletswydd.
Nid yw plismona yn fater datganoledig, ond mae gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol gyfrifoldeb dros ddiogelwch cymunedol. Oherwydd hynny, mae gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru hanes hir a chynhyrchiol o weithio mewn partneriaeth gyda'r nod unfrydol o gadw Cymru yn ddiogel a gwasanaethu cymunedau.
Mae’r Gweinidogion hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru, sy'n gyswllt hanfodol rhwng cymdogaethau a'r heddlu.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal cyllid ar gyfer 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac yn darparu 100 arall dros dymor y Senedd hon. Mae'r cyllid yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gymunedau, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cydweithio â swyddogion yr heddlu ac yn rhannu peth, ond nid y cyfan, o'u pwerau. Maent yn gweithredu fel llygaid a chlustiau i’r heddlu ar lawr gwlad, mae ganddynt awydd i ddatrys problemau a datblygu atebion hirdymor a chynaliadwy mewn perthynas â’r problemau hynny ac i feithrin perthynas yn lleol drwy fentrau amrywiol sy'n creu ymdeimlad o ddiogelwch mewn cymunedau.
Maent yn rhan hanfodol o blismona, sy’n sicrhau bod cymunedau yn saff ac yn ddiogel, maent yn gweithio gyda’r unigolion mwyaf agored i niwed, gan roi cyngor a chefnogaeth i'r cyhoedd am amrywiaeth eang o faterion diogelwch cymunedol.
Mae’r meysydd y mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn rhoi cefnogaeth i Swyddogion rheng flaen yr Heddlu â hwy yn cynnwys atal goryrru y tu allan i ysgolion, adrodd am fandaliaeth a lleihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Rwyf eisiau diolch i’r swyddogion yng Ngorsaf Heddlu y Barri am rannu eu profiadau â mi, ac am y gwaith pwysig a gwerthfawr y maent yn ei wneud bob dydd i’n cadw’n ddiogel.
“Mae plismona yn rhan mor bwysig o’n cymunedau. Mae Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn teimlo’n ddiogel.
“Wedi cael amser gyda’r heddlu ar batrôl, rwy’n deall mwy am y gwahanol ddigwyddiadau y mae’r heddlu’n cael eu galw iddynt, a sut y maent yn perthyn i’r meysydd y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb drostynt megis iechyd a gofal cymdeithasol.
“Ein bwriad yw sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn gryf ac yn ddiogel, a bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i leihau’r gyfradd droseddu.”