Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi y bydd cynghorau yng Nghymru yn derbyn £6.3 biliwn mewn cyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyllid refeniw craidd cyffredinol, heb ei neilltuo, ar gyfer cynghorau yn cynyddu 3.8% ar sail gyfatebol ag eleni, i dros £4.6bn.

Mae’r cynnydd cyfatebol o £172m yn y setliad a’r cynnydd mewn grantiau penodol yn adlewyrchu’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i lywodraeth leol yn ei chyllideb gyffredinol.

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i rannu £198 miliwn mewn Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2021-22, sef cyllid i’w wario ar eu blaenoriaethau a’u rhwymedigaethau statudol. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus, gan gynnwys cymorth ar gyfer teithio llesol. Mae hefyd yn parhau i ddarparu £35 miliwn ychwanegol ar gyfer y grant cyfalaf cyffredinol, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymateb i’n blaenoriaethau ar y cyd: datgarboneiddio, tai ac adferiad economaidd yn sgil COVID-19.

Y llynedd, cyhoeddwyd cynnydd yn y setliad ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’r setliad eleni yn cynnwys cynnydd pellach mewn cyllid refeniw.

Mae dyraniadau penodol o fewn hyn yn cynnwys:

  • Parhau i ddarparu £4.8m i awdurdodau roi rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i fusnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill mewn ymateb i faterion lleol penodol
  • Parhau i ddarparu cyllid ar gyfer cynigion Gweinidogion o ran meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim, wrth i Gredyd Cynhwysol barhau i gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU
  • Cyllid ar gyfer addysg i gyflawni ymrwymiadau llywodraeth leol ynghylch cytundeb cyflogau athrawon 2020/21.

Ynghyd â dyraniadau’r setliad craidd, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch grantiau penodol sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ar ben £198m mewn Cyllid Cyfalaf Cyffredinol, mae dros £520m o grantiau cyfalaf yn yr arfaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, bydd grantiau refeniw penodol sydd wedi’u cynllunio yn werth cyfanswm o bron i £1bn.

Dywedodd Julie James:

“Bydd hyn yn darparu llwyfan cadarn i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllideb, a chan adeiladu ar gyllid sylweddol eleni, dyma’r setliad gorau y gallaf ei gynnig. Er bod llywodraeth leol yn wynebu pwysau sylweddol, yn enwedig yn sgil y pandemig, bydd y cynnydd hwn mewn cyllid refeniw craidd yn galluogi cynghorau i gynnal a darparu gwasanaethau lleol gwerthfawr.

“Eleni, yn fwy nag erioed, rydym wedi gweld pa mor hanfodol yw llywodraeth leol i’n bywydau ni i gyd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r cyllid hwn yn cydnabod rôl hanfodol awdurdodau lleol yn ein cenhadaeth genedlaethol i wella addysg, darparu gofal cymdeithasol, trechu tlodi a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

“Rwyf wedi trafod ag arweinwyr cynghorau ein cydnabyddiaeth gyffredin o’r angen i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, ac rwy’n gobeithio y bydd y setliad hwn yn helpu cynghorau i adeiladu rhagor o dai yng Nghymru, ac i wneud hynny yn gyflymach.”

Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn darparu dros £1bn i lywodraeth leol ymateb i effeithiau’r pandemig. Heblaw am gyllid ar gyfer rhai meysydd penodol, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim, cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid yn ei datganiad cyllideb eleni y bydd cyllid i ymateb i effeithiau’r pandemig yn cael ei ystyried ar wahân ac nid yw’n ffurfio rhan o’r setliad hwn.   

Mae Setliad Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru yn destun ymgynghoriad ffurfiol a fydd yn para saith wythnos.