Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi canmol gwaith ac ymroddiad staff GIG Cymru wrth iddynt baratoi i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Gweinidog yn cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir yr wythnos hon, gan arddangos y gorau o’r GIG yng Nghymru, ac edrych yn ôl ar bopeth y mae wedi’i gyflawni ers cael ei sefydlu gan yr AS o Gymru, Aneurin Bevan yn 1948.

Ymhlith y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mae Gwasanaeth Diolchgarwch aml-ffydd yn Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái, Caerdydd, yfory, i gydnabod y cyfoeth o dalent ac amrywiaeth yng ngweithlu GIG Cymru. Bydd medal Croes y Brenin Siôr, a roddwyd i’r GIG yng Nghymru gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth y llynedd, yn cael ei harddangos yn y gwasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae’r ffaith ein bod ni nawr yn byw yn hirach yn brawf o lwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Rwy’n sicr pe bai Aneurin Bevan yma heddiw y byddai’n falch o’r gwasanaeth a sefydlodd yma yng Nghymru, a sut y mae wedi datblygu dros y 75 mlynedd diwethaf.

Mae ein hanghenion iechyd, meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau wedi newid llawer ers 1948, ond dyw un peth heb newid; ymroddiad y staff, a dyma oedd y sylfaen y sefydlwyd y GIG arni.

Mae’r bobl hyn yn ganolog i’r sefydliad annwyl hwn, ac mae pandemig COVID-19 wedi dangos inni pa mor wirioneddol arbennig ydyn nhw.

Felly ar yr achlysur arbennig hwn, hoffwn ddiolch yn bersonol iddyn nhw am eu sgiliau, eu hymroddiad, eu dewrder a’u tosturi – nid yn ystod y pandemig yn unig, ond bob dydd o’r flwyddyn.

Heddiw mae’r gwasanaeth iechyd yn wynebu galw digynsail am ei wasanaethau. Ni allwn fforddio i barhau fel yr ydym.

Rwy’n credu’n gryf bod pob un ohonom yn fodlon ymladd i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal i fod y system gynaliadwy rydym ei hangen a’i heisiau ar gyfer y dyfodol, sy’n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Bydd angen i bawb chwarae eu rhan i’n helpu ni i gyflawni’r weledigaeth hon fel y gall y bobl hynny sydd â’r angen mwyaf am ein gwasanaethau gael mynediad at yr hyn y maen nhw ei angen, pan maen nhw ei angen, yn agos at eu cartref.

Cyn y gwasanaeth eglwys yn Nhrelái, bydd y Gweinidog Iechyd yn mynd i seremoni yng Ngorsaf Drenau Casnewydd lle bydd trên GWR yn cael ei enwi’n swyddogol yn 'Aneurin Bevan', ac ar ôl y gwasanaeth bydd yn rhoi datganiad i nodi’r achlysur yn y Senedd.

Ddydd Mercher, bydd y Gweinidog yn mynd i Wasanaeth GIG 75 yn San Steffan, a dydd Iau bydd hi’n annerch Cynhadledd Comisiwn Bevan yng ngwesty’r Celtic Manor, yng Nghasnewydd gan edrych ar yr hyn y mae’r GIG wedi’i gyflawni a sut y bydd yn edrych yn y dyfodol.

Ddydd Sadwrn, bydd pob digwyddiad Park Run sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn dathlu GIG 75.

Bydd Byrddau Iechyd hefyd yn cynnal digwyddiadau drwy gydol yr wythnos i ddathlu GIG 75 a gall pobl ddarganfod beth sy’n digwydd yn eu hardal leol drwy edrych ar wefan eu bwrdd iechyd ac ar y cyfryngau cymdeithasol.