Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn pwysleisio bod cymaint mwy i Ŵyl y Dyn Gwyrdd na cherddoriaeth, cymdeithasu a chysgu o dan y sêr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod ei hymweliad fis diwethaf â'r digwyddiad a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, cafodd y Gweinidog gwrdd â threfnwyr y digwyddiad gan weld â'i llygaid ei hun sut mae'r ŵyl yn mynd ati i gefnogi gwyddoniaeth a sgiliau drwy'r amryw brosiectau creadigol y mae'n eu cynnal.


Ar ôl mynd am dro i weld Gardd Einstein − amgylchedd dysgu rhyngweithiol sy'n hyrwyddo gwyddoniaeth ac arloesi drwy gynnwys yr ymwelwyr − bu Julie James yn sgwrsio gyda'r unigolion sy'n rhan o Brosiect Merthyr yr ŵyl.


Rhaglen ddatblygu a thwf personol yw Prosiect Merthyr. Fe'i sefydlwyd gan y Dyn Gwyrdd saith mlynedd yn ôl ac mae'n cael ei gynnal gan Goleg Merthyr i helpu pobl yr ardal i ddatblygu eu sgiliau ac i roi gwell cyfle iddyn nhw ddod o hyd i waith. 


Mae tair rhan i'r prosiect − ymyrraeth, hyfforddiant a datblygu cymdeithasol, ac mae'n perthyn i'r ystod ehangach o gyfleoedd profiad gwaith a hyfforddiant y mae'r Dyn Gwyrdd yn eu cefnogi gydol y flwyddyn.


Uchafbwynt y prosiect yw bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael y cyfle i roi eu sgiliau a'u profiadau newydd ar waith yn yr ŵyl flynyddol.    


Yn ystod ei hymweliad, ac yng nghwmni Cyfarwyddwr a Pherchennog y Dyn Gwyrdd, Fiona Stewart, a Nicola Ebdon, sy'n gweithio fel darlithydd ffilm yng Ngholeg Merthyr Tudful, cafodd y Gweinidog gyfle i sgwrsio â Ben Willshee (19), Ryan Speck (21), a Rebecca Hopkins (22). Roedd y tri wedi cymryd rhan yn y prosiect eleni, gan helpu i sicrhau bod yr ŵyl boblogaidd hon, sydd wedi ennill gwobrau, yn llwyddiant.


Mae Ben a Ryan newydd ddechrau ar eu hail flwyddyn yng Ngholeg Merthyr Tudful ac yn astudio ar gyfer gradd sylfaen mewn ffilm.


Fe wnaeth Rebecca astudio'r un cwrs hefyd, ac mae hi newydd orffen ei thrydedd blwyddyn yng nghampws Caerdydd, sy'n golygu bod ganddi bellach radd baglor lawn. Mae ei phrofiad dros y tair blynedd diwethaf gyda Phrosiect Merthyr wedi'i helpu i gael lle ym Mhrifysgol De Cymru, lle mae bellach yn astudio tuag at radd meistr mewn Cysylltiadau Cyhoeddus.


Mae'r tri ohonynt wedi nodi bod y prosiect wedi eu helpu i fagu hyder, deall y diwydiant, dilyn hyfforddiant a meithrin sgiliau gwerthfawr.

Wrth egluro sut mae'r rhaglen yn gweithio, dywedodd Fiona: 

"Mae dwy ran i Brosiect Merthyr, ac mae'r rhan gyntaf yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais am swydd. Mae'n rhoi blas i'r unigolion o'r gwahanol fathau o rolau a chyfrifoldebau cynhyrchu sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol. Maen nhw’n mynd ymlaen wedyn i lenwi CV a mynd drwy broses ymgeisio, gan elwa ar fentora ac adborth ar yr un pryd.

"Mae'r ail ran yn canolbwyntio ar brofiadau ymdrochi sy'n gallu bod yn heriol weithiau, gan gynnwys hyfforddiant sgiliau a defnyddio offer. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn cael profiad uniongyrchol o gynhyrchu a golygu ffilm, gosod llwyfan, a gweld beth sydd ei angen i gynnal gŵyl lwyddiannus. 


"Mae amcanion y prosiect yn amrywiol iawn ond meithrin sgiliau a thwf personol yw'r canolbwynt. Mae meithrin sgiliau craidd, y mae modd eu defnyddio ym mhob maes, fel hyder, gwydnwch cymeriad a sgiliau rhyngbersonol yr un mor bwysig â'r hyfforddiant penodol i'r maes mae'r unigolion yn ei gael. Mae'n brofiad dwys, ac mae angen ymroddiad ac ymrwymiad gan bawb. Er hynny, yn aml iawn mae hynny'n talu ar ei ganfed.

"Cymuned go iawn yw'r Dyn Gwyrdd ac ry'n ni i gyd yn cydweithio i helpu’n gilydd. Prif nod y prosiect yw rhoi'r cyfle i'r rheini sydd angen cymorth fwyaf gael mynediad at y diwydiant a datblygu eu sgiliau cymdeithasol fel eu bod yn gallu addasu i fod yn fwy gwydn ac yn llwyddiannus. Ry’n ni’n edrych tuag at y dyfodol o ran y sgiliau ry'n ni eisiau i'n prentisiaid eu datblygu er mwyn gwneud yn siŵr y byddan nhw'n dal yn berthnasol ymhen ychydig flynyddoedd. Does dim diben dysgu pethau fydd ddim yn eu helpu neu fydd ddim yn berthnasol iddyn nhw yn y byd go iawn."  

Wrth egluro sut mae'r prosiect wedi ei helpu ef, dywedodd Ben: 

"Dyma gyfle gwych, sy'n gwbl wahanol i unrhyw beth arall. Ry'n ni i gyd yn cydweithio fel tîm, gan helpu a chefnogi’n gilydd i ddysgu a datblygu oherwydd ein bod eisiau i bob un ohonom fod y gorau y gallwn ni fod. Weithiau, does dim angen mwy na 'da iawn ti' − gall hynny yn ei hun fod yn ddigon i wneud rhywun deimlo'n dda. Mae'r prosiect wedi fy helpu i fagu hyder." 

Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Julie James: 

"Gan amrywio o'r ardaloedd rhyngweithiol sy'n annog mwy o bobl i droi at wyddoniaeth, i'r prosiectau sgiliau a hyfforddiant sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau craidd, nid gŵyl gyffredin mo'r Dyn Gwyrdd. Heb os nac oni bai, mae'r ymweliad hwn wedi dangos imi ei fod yn gymaint yn fwy na'r disgwyl.

"Roedd yn wych dysgu mwy am Brosiect Merthyr, yn arbennig felly gan y rheini sydd wedi elwa arno'n uniongyrchol. Roedd gwrando ar Ben, Ryan a Rebecca yn siarad mor frwdfrydig a hyderus am eu cyfnod gyda'r prosiect cyn mynd ymlaen i ddangos rhai o'r sgiliau ymarferol y gwnaethon nhw eu dysgu wir yn ysbrydoli rhywun. 

"Gan mai dyma'r ŵyl gerddoriaeth a chelf gyfoes fwyaf yng Nghymru, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi datblygiad y Dyn Gwyrdd. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld beth fydd gan 2018 i'w gynnig, ar y llwyfan ac ar y maes."