Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, wedi ymweld â meithrinfa ar Ynys Môn i weld sut mae plant a’u rhieni yn elwa ar y Cynnig Gofal Plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Babinogion Menai ym Mhorthaethwy yn cynnig darpariaeth gofal plant dwyieithog o dan y Cynllun Gofal Plant. Yn unol â’r cynnig, mae Llywodraeth Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Erbyn dechrau 2019, bydd pob awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn darparu’r cynnig i rieni sy’n gymwys.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae wedi bod yn dda cael ymweld â Babinogion Menai a gweld fy hun y gwahaniaeth mae’r Cynnig Gofal Plant yn ei wneud i ddarparwyr, rhieni ac, yn bwysicaf oll, y plant.

“Mae ein cynlluniau peilot eisoes yn dangos y gwahaniaeth mae’r cynllun yma yn ei wneud. Mae gennym enghreifftiau o deuluoedd yn arbed bron i £250 yr wythnos – arian y gallant ei ddefnyddio tuag at dreuliau eraill. Rydyn ni hefyd wedi gweld rhieni yn cynyddu eu horiau gwaith a rhieni yn newid eu horiau gwaith fel y gallan nhw dreulio mwy o amser gyda’u plant.”