Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, a fydd yn rhoi’r lle canolog i gefnogi staff a dysgwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yng Ngholeg y Cymoedd neithiwr (10 Mawrth), nododd y Gweinidog gamau gweithredu i gefnogi’r gweithlu dros y 12 mis nesaf, gan gynnwys:

  • Cynllun Dysgu Proffesiynol ar gyfer gweithwyr addysg bellach;
  • Adolygiad sylfaenol o Addysg Gychwynnol Athrawon;
  • Prosiect Trosglwyddo Gwybodaeth i ddod ag arbenigedd diwydiannau penodol i gynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgwr mewn meysydd digidol, sgiliau gwyrdd, ôl-osod a pheirianneg; ac
  • Ymgyrch recriwtio i godi ymwybyddiaeth o'r gyrfaoedd sydd ar gael ymhlith darparwyr addysg a hyfforddiant.

Cyhoeddodd y Gweinidog fod Cynllun Dysgu Proffesiynol pwrpasol yn cael ei lunio, gan gydweithio’n agos â’r sector, i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u bywydau proffesiynol. Bydd pecyn craidd o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn cael ei gynhyrchu, gyda ffocws ar wella sgiliau digidol. Bydd y cynllun digidol yn cael ei dreialu cyn cael ei gyflwyno o'r haf ymlaen.

Cadarnhaodd hefyd y cynhelir adolygiad o Addysg Gychwynnol Athrawon, i asesu effaith ac effeithiolrwydd cymwysterau presennol, a diwygiadau posibl i'r hyn a gynigir eisoes, gan gynnwys cymhellion.

Bydd ymgyrch recriwtio yn cael ei lansio i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o’r gyrfaoedd sydd ar gael ymhlith darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Y nod yw denu newydd-ddyfodiaid, o raddedigion diweddar i grefftwyr profiadol, neu weithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol i weithio mewn coleg addysg bellach.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Mae’r sector addysg bellach yn hollbwysig i greu entrepreneuriaid a gweithlu medrus y dyfodol. Mae angen sector sy’n sicrhau mynediad at y sgiliau cywir, ar yr amser cywir, gan ymateb yn gyflym ac yn hyblyg i wybodaeth am y farchnad lafur mewn economi sy’n newid. 

“Rwyf hefyd yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw hi i ddatblygiad y gweithlu a gwydnwch y sector ein bod yn cefnogi darlithwyr yn eu datblygiad proffesiynol a’u gyrfa. 

“Rydym am godi proffil y proffesiwn addysgu ôl-16 a dangos i bobl ar draws y sector addysg pa mor werthfawr a buddiol y gall gyrfa broffesiynol ym myd addysg bellach fod. Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn bwrw ymlaen â phedwar darn hanfodol o waith i gefnogi'r proffesiwn. 

“Rwy’n gyffrous am y cyfle sydd gennym yn y blynyddoedd i ddod ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r sector i wneud y mwyaf ohono.”