Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl 17 mlynedd, mae Christianne Glossop yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru. Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi diolch iddi am ei chyfraniad anhygoel i iechyd a lles anifeiliaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr Athro Glossop yw Prif Swyddog Milfeddygol cyntaf Cymru yn dilyn datganoli pwerau iechyd a lles anifeiliaid yn 2005.  Cafodd ei phenodi ar ôl treulio amser yng Ngwasanaeth Milfeddygol y Wladwriaeth, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel APHA, yn delio ag achosion o Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001 ac yna TB mewn gwartheg.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae cyfraniad Christianne i iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru yn aruthrol.  Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae wedi ymdrin â nifer o achosion anodd o glefydau anifeiliaid fel ffliw adar, yr effaith ar Gymru yn sgil achosion o glwy'r traed a'r genau yn Lloegr yn 2007, yn ogystal â gweithio'n ddiflino gyda'i thîm ar y rhaglen Dileu TB.

Yng Nghymru mae gennym bellach Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid a Rhaglen allweddol ar gyfer ymrwymiadau'r Llywodraeth ar les anifeiliaid a nodir yn ein cynllun pum mlynedd.  Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cynnwys modiwlau'n canolbwyntio ar gynllunio iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch, a fydd yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau a nodir yn y Fframwaith. Hefyd, mae gennym bellach ysgol milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyntaf yng Nghymru, ac mae Christianne yn ymwneud yn agos â hi.

Mae cymaint i Christianne fod yn falch ohono yn ystod ei chyfnod fel y Prif Swyddog Milfeddygol. Byddaf yn gweld eisiau ei gwybodaeth, ei chyngor a'i chefnogaeth ac yn dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

Mae hi wedi bod yn fraint fawr cael bod yn Brif Swyddog Milfeddygol cyntaf Cymru – mae wedi bod yn swydd fy mreuddwydion.

Wrth ddatganoli pwerau iechyd a lles anifeiliaid, roedd yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gynllunio'r dull gweithredu yma yng Nghymru, a byddaf bob amser yn ddiolchgar fy mod wedi bod yn rhan o hynny.

Rydym wedi wynebu sawl her, gan gynnwys yr achosion o glwy'r traed a'r genau yn 2007 yn Lloegr, ac yna'r achos cyntaf o'r Tafod Glas yn dod i Brydain, a bygythiad parhaus ffliw adar, ond rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael tîm ardderchog o filfeddygon a swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â mi ar hyd yr amser.

Pan ddechreuais i yn y swydd doedd dim hyb ar gyfer addysg ac ymchwil milfeddygol yng Nghymru a nawr mae gennym ysgol milfeddygaeth yn Aberystwyth, a llawer mwy yn ogystal â hynny, sy'n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod yn yr amser yna.

Rydw i mor ddiolchgar am y cyfleoedd sydd wedi dod i'm rhan fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at bennod nesaf fy ngyrfa fel milfeddyg.