Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn awyddus i dynnu sylw at amrywiol fanteision prentisiaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau o lefel 2 i lefelau uwch. Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Gweinidog ag IT Pie ym Mhenarth i siarad ag un o brentisiaid y cwmni, Jaimie Warburton, a'r Cyfarwyddwr Creadigol Aran Pitter, er mwyn clywed pam mae prentisiaethau yn gweithio iddyn nhw, o safbwynt y dysgwr a'r busnes.  

Dywedodd Jaimie, sy'n 28 oed ac o Gaerffili, ei fod wedi bod â diddordeb mewn TG a datblygu gwefannau erioed, ond ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed, ei fod wedi ei chael yn anodd dod o hyd i swydd oedd wrth ei fodd. 
Ar ôl gweithio fel swyddog cymorth TG mewn gwahanol fusnesau, dechreuodd Jaimie ddigalonni ynghylch ei yrfa ac roedd am gael cyfle i weithio mewn cwmni dylunio gwefannau. Ond heb gymwysterau ffurfiol ym maes datblygu gwefannau na phrofiad gwaith perthnasol, roedd yn anodd iddo gael swydd.
Penderfynodd fynd ati i weithio ar ei liwt ei hun am gyfnod byr er mwyn ennill peth profiad. Cyn hir daeth ar draws y cyfle i ddilyn prentisiaeth Lefel 4 mewn Datblygu Pen Blaen Gwefannau gydag IT Pie ym Mhenarth. 
Esboniodd fod y broses gais yn un syml iawn a'i fod wedi bod yn ddigon lwcus i gael ei dderbyn. Nawr, ddeuddeg mis wedyn, diolch i IT Pie, Sgil Cymru a Llywodraeth Cymru, mae Jaimie ar y trywydd iawn i gwblhau ei brentisiaeth. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd yn cymhwyso'n llawn fel datblygwr gwefannau â dyfodol disglair, llewyrchus o'i flaen.
Wrth sôn pam mai prentisiaeth oedd y llwybr gorau iddo fe, dywedodd Jaimie:

"Mae'r cwrs wedi bod yn hollol wych. Dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth ac arweiniad gan fy nghydweithwyr. Maen nhw wedi dysgu'r holl dermau a'r holl iaith dechnegol imi. Mae wedi bod yn wych cael rhoi popeth dwi'n ei ddysgu yn y coleg ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn bob dydd.

"Fe fydda i'n gorffen fy mhrentisiaeth ym mis Medi ac yn cymhwyso'n llawn fel datblygwr gwefannau. Dwi'n teimlo fy mod i'n dechrau ar fy ngyrfa o'r diwedd.  

"Fe fyddwn i'n bendant yn argymell dilyn prentisiaeth. Doeddwn i ddim yn meddwl eu bod nhw ar gael mewn meysydd fel dylunio gwefannau. Roeddwn i'n meddwl bod yn rhaid ichi fynd i'r brifysgol i fynd i faes datblygu gwefannau a chodio, ond dyw hynny ddim yn wir. Mae wedi bod yn ffordd ardderchog o gael profiad ymarferol yn ogystal â meithrin y sgiliau ac ennill y cymwysterau perthnasol. I fi, mae prentisiaeth yn ffordd gyflymach o gael y swydd rydych chi ei heisiau."

Wrth sôn pam mae prentisiaethau yn gweithio i IT Pie, dywedodd Aran Pitter:

"Yn ein gwaith ni - datblygu a dylunio gwefannau - mae technoleg yn datblygu'n barhaus, felly mae'n hollbwysig ein bod ni gam ar y blaen a bod ein gwybodaeth yn gyfoes. Mae'r sgiliau y mae ein prentisiaid yn eu dysgu a'r hyfforddiant maen nhw'n ei gael yn dibynnu ar anghenion busnes. Mae'r math hwn o ddysgu a datblygiad yn berthnasol i'r unigolyn felly, ac i'n cwmni ni.

"Mae Jaimie yn gaffaeliad i IT Pie. Mae e wedi dysgu'n gyflym iawn. Dros y deg mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi cymryd nifer o brentisiaid. Ar wahân i un, fe wnaeth pob un ohonyn nhw barhau i weithio gyda ni ar ôl cymhwyso.

"Y peth gwych am gymryd prentis yw eich bod chi'n gallu cymryd rhywun o lefel sylfaenol iawn, a strwythuro ei ddysgu a'i ddatblygiad o amgylch anghenion y cwmni a'i gleientiaid. Nid yn unig mae hyn yn cefnogi twf y busnes, ond mae'n golygu bod y prentis yn gallu datblygu sgiliau sy'n berthnasol i fywyd go iawn."

Ychwanegodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

"Mae Jaimie yn un enghraifft o rywun sydd mewn gyrfa lewyrchus ar ôl dilyn prentisiaeth. Mae'n dangos pa mor werthfawr yw profiad ymarferol a sut mae'n gallu cynnig y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen er mwyn cael gyrfa lewyrchus, sy'n dod â boddhad.  

"Mae prentisiaethau yn fan cychwyn i yrfa gyffrous ac maen nhw'n addas i unrhyw un o unrhyw oedran. Maen nhw'n gyfle i gael profiad ymarferol, ac ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar yr un pryd.

"Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad allweddol i gyflogwyr. Maen nhw'n gyfle i hyfforddi eu gweithlu yn y sgiliau arbenigol y mae eu hangen ar eu sefydliad. Ar lefel ehangach, mae prentisiaethau yn chwarae rôl bwysig wrth gynyddu set sgiliau gyffredinol y genedl a chynyddu twf economaidd, gan sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol ar lwyfan y byd."

I gael gwybod mwy am fod yn brentis, ewch i gyrfacymru.com a dilyn y ddolen brentisiaethau, neu i gael gwybod sut y gallai eich busnes chi elwa ar recriwtio prentis, ewch i wefan y Porth Sgiliau i Fusnes, neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym hefyd ar Facebook yn www.facebook.com/apprenticeshipscymru ac ar Twitter @apprenticewales.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth ariannol o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.