Neidio i'r prif gynnwy

Mae twf o atyniadau, lletyau, bwytai a chynhyrchion o ansawdd wedi helpu Aberteifi i ffynnu fel cyrchfan poblogaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gyntaf, ymwelodd y Gweinidog â Chastell Aberteifi lle y gwelodd sut y mae prosiect adfer gwerth £11 miliwn wedi trawsnewid y castell i fod yn atyniad gwych i ymwelwyr sy'n cynnwys llety a bwyty. Enillodd y Castell y wobr yng nghategori adeiladau Sioraidd rhaglen Adferiad y Flwyddyn 2017 ar Channel 4 ac mae hefyd wedi'i enwi fel un o'r prosiectau ar gyfer Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop 2018. Y datblygiad diweddaraf yn y Castell yw'r wybodaeth ddehongli ryngweithiol am yr Eisteddfod, yn enwedig am rôl y Castell fel cartref yr Eisteddfod gyntaf ym 1176.

Gyda llai nag wythnos i fynd tan Eisteddfod 2018, cafodd y Gweinidog y cyfle i siarad â Chyfarwyddwr y Castell, Jac Owen Davies am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.  Dechreuodd Jac ei swydd y llynedd ar ôl dychwelyd i'r Gorllewin yn dilyn ei gyfnod yn Llundain yn gweithio fel cyfarwyddwr a rheolwr cyffredinol tîm Cynghrair Rygbi y London Skolars ac fel prif swyddog gweithredol yng Nghanolfan Cymraeg Llundain.

Cafodd y Gweinidog gyfle i gwrdd â pherchennog Pizza Tipi, James Lynch, sydd hefyd yn berchen ar Fforest yng Nghilgerran lle y mae cynhyrchion lleol ardderchog, ymrwymiad y staff a'r lleoliad hyfryd ar hyd Afon Teifi yn ysgogi llwyddiant go iawn. Yno, trafododd gyfleoedd pellach i'r dref fanteisio i'r eithaf ar dwristiaeth ac i ddarparu rhagor o swyddi i bobl ifanc lleol.

Ers ehangu o fod yn ficro-fecws ac agor caffi, deli a bwyty yn un o adeiladau eiconig Aberteifi dros y Pasg, mae Catrin ac Osian Jones, y ddau entrepreneur lleol sy'n gyfrifol am Crwst, wedi mynd o nerth i nerth. Yn ddiweddar, maent wedi ehangu ymhellach mewn ystâd ddiwydiannol yn y dref i fodloni'r galw ac maent wedi datblygu enw da fel un o brif fwytai'r dref. Gwnaeth y Gweinidog gwrdd â chogydd Crwst, Sam Everton, a enillodd wobr y cogydd gorau o dan 24 oed yng Nghystadleuaeth Sgiliau'r Byd eleni. Mae Crwst hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ranbarthol ar gyfer yr ail flwyddyn yn olynol yn y Gwobrau Busnesau Gwledig.  

Roedd Cered (menter iaith Ceredigion) hefyd yno ac esboniwyd sut y mae Cymraeg yn y Gweithle yn helpu busnesau lleol i ddatblygu naws am le gan hybu defnydd o’r Gymraeg yn y busnes.

Mae El Salsa yn enghraifft arall o fusnes sydd wedi bod yn brysur ers iddo agor drysau ei safle parhaol yn Aberteifi ddechrau'r mis. Mae El Salsa wedi ennill cyfres o wobrau bwyd stryd ac mae ganddo enw da mewn sawl gŵyl a digwyddiad. Mae wedi ymuno'n dda â byd bwyd Aberteifi ac mae'n enghraifft arall o'r sawl stori llwyddiant sy'n perthyn i Aberteifi a'r cyffiniau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:

"Roeddwn wrth fy modd yn gynharach yr wythnos hon i lansio adnodd newydd i ddathlu cestyll a hanes Arglwyddi a Thywysogion Cymru. Mae Castell Aberteifi yn un o 24 castell ochr yn ochr ag abatai a safleoedd hanesyddol eraill sydd yn y llyfryn. Roeddwn wrth fy modd o gael ymweld â'r castell heddiw ar ei newydd wedd a gweld ei fod unwaith eto yn ganolog i fywyd yn Aberteifi

Braf iawn oedd mynd ar daith o amgylch Aberteifi heddiw a gweld amrywiaeth ac ansawdd yr hyn y mae'r dref yn ei gynnig. Mae'r dref yn un bywiog ac mae'r datblygiadau newydd yn manteisio ar ddiwylliant a threftadaeth y dref gan roi gwir flas o Aberteifi i ymwelwyr. Mae'n gyfnod gwell ar ddiwydiannau'r dref, gyda Hiut Denim yn hybu ei enw da ledled y byd.

Dyma dref sy'n falch o'i hanes a thrwy gynnig profiad o ansawdd, cyflogi staff lleol a darparu cynhyrchion lleol ardderchog, mae hefyd yn dangos nodweddion gorau'r Gorllewin. Rwyf wrth fy modd o weld Aberteifi yn wynebu'r dyfodol yn hyderus a chyda gweledigaeth. Mae'n hyfryd clywed am y storïau llwyddiant a chynlluniau busnesau'r dref ar gyfer y dyfodol – rwy'n ffyddiog y bydd y llwyddiant hwn yn parhau".