Neidio i'r prif gynnwy

Os yw Cymru am fod yn genedl sy'n ystyriol o ddementia, mae angen buddsoddi mewn ymchwil i wella iechyd a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymwelodd y Gweinidog â Chanolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mharc Singleton, sy'n rhan o Brifysgol Abertawe. Yno, cafodd gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr i drafod eu gwaith.  

Dywedodd Rebecca Evans: 

"Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £43 miliwn y flwyddyn mewn ymchwil iechyd a gofal. Mae hynny'n cynnwys hanner miliwn o bunnau yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ddefnyddio ymchwil i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

"Mae ymchwil dementia, a defnyddio'r ymchwil honno i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, yn hynod bwysig. Mae'n galonogol iawn fod ymchwilwyr o Gymru yn gweithio i greu canolfan ymchwil o'r radd flaenaf yma ym Mharc Singleton.

"Rydw i wedi cwrdd ag ymchwilwyr ymroddedig sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol - o'r amgylchedd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia i'r ffactorau genetig sy'n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer.  Bydd eu gwaith yn helpu i wneud gwahaniaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac i fywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw."


Dywedodd yr Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia: 

"Roeddwn i'n falch iawn fod y Gweinidog wedi dod i ymweld â'r Ganolfan, gan fod hynny'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r maes ymchwil hanfodol hwn.

"Rwy'n hynod falch o'r cynnydd mae'r Ganolfan wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf, a chefais gyfle i sôn wrth y Gweinidog am ddatblygiadau diweddaraf y Ganolfan yn ystod ei hymweliad.

"Rydyn ni eisoes wedi sefydlu Join Dementia Research yng Nghymru; wedi sicrhau cyllid Ewropeaidd Cost Action ar gyfer gwaith ar y cyd â 30 o wledydd partner ar leihau allgáu cymdeithasol ymysg pobl hŷn; wedi cael cyllid Catalyst gan Weinyddiaeth Busnes, Arloesi a Chyflogaeth Seland Newydd i ddatblygu prosiect ar Heneiddio, tai ac iechyd; wedi dechrau gwerthuso cARTrefu - celfyddydau mewn lleoliadau gofal; ac wedi dechrau datblygu'r sampl fwyaf yn y byd o ddata holiaduron DNA a ffenoteip ar gyfer 4,000 o bobl sy'n dangos arwyddion cynnar o glefyd Alzheimer.

"Rwy'n meddwl bod y Gweinidog wedi mwynhau cael blas ar y bwrlwm deallusol a diwylliannol sy'n nodweddiadol o'r Ganolfan."