Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Sefydlwyd y gweithgor cyllid hwn yn dilyn argymhelliad y gwaith ymchwil manwl ar ynni adnewyddadwy, gyda chylch gorchwyl ar gyfer:

  • Edrych ar fodelau ariannu gwahanol a chwilio am gyllid i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Dylai hyn flaenoriaethu buddsoddi mewn mentrau cymunedol, ond ni ddylai fod yn gyfyngedig i hynny.
  • Nodi modelau ariannu ar gyfer cynyddu maint prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth a’u gwerth yng Nghymru. 
  • Edrych ar y cyfleoedd y gallai buddsoddiad preifat gyflwyno ym maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
  • Nodi sut y gellid addasu cynlluniau ariannu presennol i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Sefydlwyd y gweithgor o unigolion sydd ag arbenigedd ym maes cyllid a buddsoddi yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac ynni cymunedol. Mae rhestr lawn o'r aelodau i'w gweld yn Atodiad A.

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r prif drafodaethau gan y grŵp a'r argymhellion sy'n edrych ar gyllid preifat, cyhoeddus a chymunedol.

Cyllid preifat

Mae'r farchnad cyllid preifat ar gyfer ynni adnewyddadwy yn y DU wedi hen sefydlu. Yng Nghymru, mae buddsoddiad preifat sylweddol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws nifer o sectorau. Daeth y grŵp i'r casgliad nad oes unrhyw fethiannau cyffredinol yn y farchnad o ran cyflenwi cyllid preifat ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru – os ystyrir bod prosiectau'n darparu digon o elw sy'n dderbyniol yn fasnachol yna, ar y cyfan, mae buddsoddiad cyfalaf ar gael o farchnadoedd preifat. Er nad oes methiannau cyffredinol yn y farchnad, gall rhai technolegau, fel technolegau ynni dŵr ac ynni morol, ei chael hi'n anodd denu cyllid preifat.

Mae'r prif rwystrau sy'n cael eu nodi o ran prosiectau ynni adnewyddadwy yn ymwneud â materion seilwaith a chynllunio, ac ystyriaethau sy'n ymwneud â nodweddion buddsoddi rhai prosiectau yng Nghymru. Mae'r grŵp gwaith ymchwil manwl wedi edrych ar y rhwystrau hyn, gydag isadeiledd, yn enwedig y grid, yn cael ei nodi fel her benodol yng Nghymru.

O ganlyniad, mae'r grŵp wedi canolbwyntio ar y cyfleoedd i fanteisio i’r eithaf ar fuddsoddiad preifat i gefnogi gwerth economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, gan arwain at nodi sawl cam posib. Roedd y grŵp yn cydnabod y gallai fod rhinwedd mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a datblygwyr ynni adnewyddadwy masnachol, gan y byddai hyn yn rhoi eglurder i'r datblygwr a chyfeiriad clir o ran y buddion yr oedd Llywodraeth Cymru am eu sicrhau yn gyfnewid am hynny.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ddatblygu menter/Siarter partneriaeth gyda'r sector ynni adnewyddadwy masnachol: gyda'r sector yn ymrwymo i safonau ynglŷn â buddion lleol a chymunedol, buddion o ran y gadwyn gyflenwi; a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi'r weledigaeth i Gymru fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy, gan gyhoeddi targedau ynni adnewyddadwy wedi eu diweddaru ac eglurder o ran gofynion perchnogaeth gymunedol.   

Wrth i'r grŵp ystyried yr ystod o ffynonellau buddsoddi yng Nghymru trafodwyd rôl cronfeydd pensiynau. Fe wnaeth y grŵp gydnabod bod yn rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am reoli buddsoddiadau pensiwn yn y sector cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau o fewn y fframwaith cyfreithiol a osodwyd gan Lywodraeth y DU. Er bod yr Awdurdodau Pensiwn yn atebol i'w cyflogwyr a'u haelodau ar gyfer y penderfyniadau hyn a'u heffeithiau, rhaid iddynt fod yn ymwybodol o'u gofynion cyfreithiol o ran rheoli risgiau. Daeth y grŵp i'r casgliad bod gofyniad o'r fath yn golygu bod y potensial ar gyfer buddsoddi cronfeydd pensiwn mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn sylweddol. Byddai sicrhau cyfran fwy o fuddsoddiad pensiwn Cymru mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn helpu i gefnogi ymrwymiadau ehangach o ran newid hinsawdd.

Argymhelliad 2

Wrth i gronfeydd pensiwn Cymru fynd ati i weithredu eu gofynion cyfreithiol i reoli eu cronfeydd a goruchwylio risgiau, gan gynnwys amddiffyn y cronfeydd pensiwn rhag risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i achub ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddulliau presennol megis y Cyngor Partneriaeth. Mae gan y sector ynni adnewyddadwy rôl bwysig hefyd wrth hybu cyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso buddsoddiad, er enghraifft drwy ddod â rheolwyr cronfeydd pensiwn a datblygwyr ynni adnewyddadwy ynghyd i archwilio'r cyfleoedd hyn ymhellach.

Cyllid y sector cyhoeddus

Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn weithredol o ran cefnogi'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, gan ddarparu cyllid uniongyrchol i gefnogi datblygiadau a seilwaith cysylltiedig, a chyngor a chymorth ariannu.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES) yn darparu cymorth technegol a masnachol i ddatblygu prosiectau cymunedol hyfyw dan arweiniad y gymuned a phrosiectau’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae WGES yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i fentrau cymunedol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys grantiau ar gyfer gwaith datblygu cynnar prosiectau, grantiau cyfalaf a grantiau ar gyfer adnoddau mewnol a chael gafael ar fenthyciadau i ddatblygu a benthyciadau cyfalaf i adeiladu prosiectau drwy Fanc Datblygu Cymru (DBW). Mae gan fentrau cymunedol hefyd fynediad at reolwr datblygu penodedig i ddarparu cymorth technegol drwy gydol y broses o ddatblygu prosiect. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi arian grant i Ynni Cymunedol Cymru (CEW), sefydliad nid-er-elw ag aelodau sy'n cefnogi ac yn cynrychioli grwpiau cymunedol sy'n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru.

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae £150m wedi'i fuddsoddi ym mhrosiectau WGES sydd wedi cwblhau’r agweddau ariannol, ac o'r rheini daeth £90m gan Lywodraeth Cymru. Mae cymorth ariannol WGES wedi bod ar ffurf grantiau a benthyciadau di-log i gyrff cyhoeddus ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.

Mae'r cymorth hwn ar gyfer cynlluniau ynni lleol a chymunedol wedi cyfrannu at sicrhau bod 825MW o ynni a gynhyrchwyd mewn perchnogaeth leol, a hynny yn erbyn targed o 1 Gigawatt erbyn 2030.

Mae cyfle i Lywodraeth Cymru ddefnyddio arian cyhoeddus i gefnogi mwy o werth a chadw buddion yng Nghymru, yn enwedig wrth ddefnyddio asedau cyhoeddus. Mae'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Datblygwr Ynni Adnewyddadwy cyhoeddus i ddatblygu ar dir cyhoeddus yn enghraifft dda o sut y gall cyllid cyhoeddus helpu i gyflawni'r uchelgais o gynyddu ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n cefnogi gwerth economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. Wrth i gwmpas y swyddogaeth ddatblygu hon gael ei ddiffinio, dylai Llywodraeth Cymru chwilio am gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â'r sectorau preifat a chymunedol.

Daeth y grŵp i'r casgliad bod angen targedu cyllid cyhoeddus tuag at fylchau penodol a methiannau'r farchnad. Er enghraifft, problemau mentrau cymunedol o ran cael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau sy'n mabwysiadu model refeniw a rennir. Wrth fynd i'r afael â'r bylchau hyn mae cyfle i adnoddau cyhoeddus Cymru sicrhau mwy o fudd i Gymru. Yn benodol, cefnogodd y grŵp waith DBW o ran cwmpasu opsiynau ar gyfer defnyddio modelau ariannu'r banc i gefnogi ynni adnewyddadwy yng Nghymru (gweler Atodiad B).

Cefnogodd y grŵp fwriad DBW i ddatblygu achos busnes i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n cefnogi sero net. Yn benodol, gwelodd y grŵp rôl gadarnhaol i DBW fod yn fuddsoddwr cyhoeddus ar ran cymunedau ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy mawr yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod yr uchelgais ar gyfer pob datblygiad ynni newydd i gael elfen o leiaf o berchnogaeth leol. Fodd bynnag, mae cymryd cyfran o ddatblygiad mawr yn gymhleth ac mae angen dealltwriaeth dda o'r risgiau a'r buddion, yn ogystal â mynediad at gyllid ar raddfa. Tynnodd y grŵp sylw at y potensial i DBW fuddsoddi ar ran cymunedau yng Nghymru, gyda'r enillion o fuddsoddiad yn cefnogi prosiectau mewn cymunedau lleol.

Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru barhau i drafod y potensial i Fanc Buddsoddi'r DU (UKIB) gefnogi buddsoddiadau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a'r rôl ehangach y gall y banc ei chael o ran cefnogi blaenoriaethau datgarboneiddio yng Nghymru.

Argymhelliad 3

Dylai Banc Datblygu Cymru (DBW) barhau i ddatblygu'r achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy. Dylai buddsoddiad gan DBW lenwi bylchau a nodwyd lle nad yw'r modelau presennol ar gyfer perchnogaeth leol a chymunedol yn bosibl. Dylai enillion o fuddsoddiadau gefnogi buddsoddiad economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol.

Capasiti’r grid – rhwystr allweddol rhag buddsoddi

Nododd y grŵp fod mynediad at y grid yn rhwystr allweddol o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Roedd cefnogaeth i fwrw ati i weithredu argymhellion ynghylch y grid o'r gwaith ymchwil manwl.  

O ystyried ei amlygrwydd fel rhwystr rhag cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mae'r grŵp yn cefnogi unrhyw gamau ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflwyno'r buddsoddiad angenrheidiol yng Nghymru, gan gydnabod y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i fapio'r angen ar y grid yn y dyfodol a ddylai helpu i ryddhau buddsoddiad a ragwelir. Mae maint y costau sydd ynghlwm ag ariannu seilwaith y grid yn golygu bod yr achos cyffredinol neu economaidd i Lywodraeth Cymru gyfrannu'n ariannol at hyn yn anodd iawn i’w gyfiawnhau. Fodd bynnag, mae'r grŵp yn annog Llywodraeth Cymru i gadw’r opsiwn ar agor o ran adolygu unrhyw ddulliau ariannu a allai fod ar gael i wneud buddsoddiad cyllid mewn datrysiadau grid lleol yn opsiwn mwy realistig. 

Mae gan gyhoeddiadau NG-ESO ynglŷn â’u prosiect Dylunio Rhwydwaith Cyfannol, a wnaed yn dilyn cyfarfod olaf y grŵp, y potensial i gynnig atebion i nifer o rwystrau cyson o ran y grid, gan gynnwys eu galluogi i ddarparu seilwaith grid yng nghanolbarth Cymru. Yn ogystal, dylai mesurau eraill fel amnest ar gytundebau cysylltiad grid presennol nad oes eu hangen bellach a gwelliannau i'r trefniadau rheoli ciw gael effaith fuddiol wrth leihau'r grid fel rhwystr rhag datblygu.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cynnydd o ran gweithredu argymhellion ynghylch y grid o'r gwaith ymchwil manwl a diwygiadau ehangach y DU. Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os yw maint a chyflymder y newid yn parhau i fod yn annigonol i ddiwallu anghenion Cymru, dylai adolygu a cheisio gwneud defnydd o'r holl ysgogiadau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i annog buddsoddiad uniongyrchol yn seilwaith y grid yng Nghymru.

Cyllid cymunedol

Mae'r grŵp yn croesawu'r ffocws yn y gwaith ymchwil manwl ar y cyfleoedd i gefnogi'r gwaith o gynyddu adnoddau ar gyfer y sector ynni cymunedol yng Nghymru.

Mae'r cyfeiriad positif roedd ynni cymunedol yn ei gymryd yng Nghymru wedi ei gefnogi gan bolisi ac arian Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi arwain at sector ynni cymunedol ffyniannus yng Nghymru, gyda sawl prosiect arloesol. Yr her oedd cyflymu'r momentwm hwnnw, yn enwedig yn sgil llai o gymorth gan Lywodraeth y DU sy’n amlwg wedi arafu nifer y prosiectau newydd a gaiff eu cyflwyno. Roedd dileu'r Tariff Cyflenwi Trydan (FIT), a’r Tariff Allforio, gan Lywodraeth y DU wedi gwneud llawer o niwed i dwf parhaus y sector, ac mae’r hyn a ddaeth yn ei le, sef Gwarant Allforio Doeth (SEG), yn cynnig cyfradd is. O ganlyniad, mae wedi profi'n ddeniadol ar gyfer prosiectau ar raddfa fach (aelwyd) yn lle hynny. Trafododd y grŵp sut i greu prosiectau ynni cymunedol hyfyw sy'n fuddsoddiadau deniadol.

Mewn ymateb i argymhelliad 14 o'r gwaith ymchwil manwl ar ynni adnewyddadwy, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo tua £750k dros y tair blynedd ariannol nesaf i gefnogi gwaith CEW, codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd buddsoddi yn y sector ynni cymunedol a chefnogi WGES i weithio gyda phrosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Mae'r cymorth ychwanegol hwn i'w groesawu, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i hybu cyfleoedd i ysgogi buddsoddiad i'r sector ynni cymunedol.

Mae gwaith ymchwil CEW, o ddechrau 2022, yn awgrymu bod llif o 54MW o ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghymru, gan ddangos bod ynni adnewyddadwy yn dal yn hyfyw heb y FIT a'r tariff allforio. Fodd bynnag, mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu ei fod yn hyfyw ar hyn o bryd ddim ond ar raddfa sy'n llawer mwy na chynlluniau ynni cymunedol traddodiadol. O ganlyniad, mae'r gystadleuaeth am safleoedd a chyfleoedd yn fwy heriol nag erioed, ac mae'n anodd i gymunedau allu symud yn ddigon cyflym i gystadlu â'r datblygwyr mwy. 

Mae cyfleoedd yn dod i'r amlwg i gymunedau sy'n cynnig ffordd o weithio sy’n wahanol i gynlluniau ‘traddodiadol’. Er mwyn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn llwyddiannus, mae angen i ni ystyried mwy o hyblygrwydd ym maes cyllid cyhoeddus i ymateb i arloesedd yn y sector cymunedol a chydnabod yr amrywiaeth eang o fuddion lleol a chymunedol y gall prosiectau o'r fath eu cyflawni.

Yn gyffredinol, cytunwyd bod y model Ripple, sy'n defnyddio model cydweithredol i ariannu’r broses ddatblygu ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gadarnhaol iawn. Mae arbedion maint enfawr o ran prosiectau ynni, gydag asedau ar raddfa fawr yn gallu cynhyrchu trydan ar gost uned llawer is na rhai ar raddfa fach. Mae'r model Ripple yn caniatáu i ddefnyddwyr gael gafael ar yr arbedion maint hyn a thrydan adnewyddadwy yn rhatach drwy berchnogaeth gydweithredol nag a fyddai'n bosibl fel unigolion.

Er bod gan y sector yng Nghymru amrywiaeth o fodelau gweithredol, mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynigion cyfranddaliadau cymunedol yn is nag ar draws y DU fel cyfanwaith. Gyda niferoedd uwch yn manteisio ar gyfleoedd i fuddsoddi, mae'r grŵp o'r farn ei bod yn bosibl cynyddu'r gwaith o gynhyrchu ynni o dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, gan gefnogi targedau Llywodraeth Cymru ar berchnogaeth gymunedol ond hefyd sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol i fuddsoddwyr.

Er bod hybu gweithredol yn allweddol, mae’n bosibl fod rôl i'r sector cyhoeddus fynd ymhellach a darparu arian cyfatebol ar gyfer cynigion cyfranddaliadau cymunedol. Gallai DBW ddefnyddio eu harbenigedd i arwain hyn ar ran y sector cyhoeddus.

Argymhelliad 5

Gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i Ynni Cymunedol Cymru (CEW) hybu cynigion cyfranddaliadau cymunedol, mae angen cwblhau gwaith i ddeall pam bod y nifer sy'n manteisio arnynt yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.  Mae angen i CEW allu dangos effaith gadarnhaol eu gweithgarwch a sicrhau bod gan bobl amddiffyniad digonol wrth ystyried buddsoddiad. Dylai CEW adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd y cyllid ychwanegol ac adrodd ar unrhyw fylchau mewn cyllid, os oes rhai. 

Drwy gydol trafodaethau'r grŵp pwysleisiwyd manteision Cytundebau Prynu Pŵer fel trefniant cytundebol ar gyfer sicrhau enillion i ddatblygwyr a chostau sefydlog i gwsmeriaid. Gan nodi'r argymhelliad o'r gwaith ymchwil manwl ar Gytundebau Prynu Pŵer, mynegodd aelodau'r grŵp ddiddordeb mewn gweithio fel grŵp gorchwyl a gorffen ar Gytundebau Prynu Pŵer i flaenoriaethu’r gwaith o weithredu'r argymhelliad hwnnw.

Atodiad A: Yr aelodau

Enw

Sefydliad/Rôl

Sarah Jennings (Cadeirydd)

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Elsie Grace

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Rob Proctor

Ynni Cymunedol Cymru (CEW)

Peter Capener

Bath & West Community Energy

Rhys Wyn Jones

Renewable UK Cymru

Sarah Merrick

Ripple Energy

Alwyn Thomas

Statkraft

Paul Hewett

Belltown Power

Richard Evans

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES)

Chris Williams

Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) ar gyfer Diwydiant Cymru

Jim Cardy

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES)

Jennifer Pride

Llywodraeth Cymru, Is-adran Ynni

Andrew Jeffreys

Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru

Ed Sherriff

Llywodraeth Cymru, Is-adran Ynni

Neil Paull

Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru

Atodiad B Banc Datblygu Cymru (DBW): Cymorth posibl o dan ystyriaeth

Enw

Cymorth o dan ystyriaeth

Rhaglen Cymhelliant Gwyrdd ar gyfer adeiladau newydd

Cymhelliant benthyca - Cymorth ar gyfer cost benthyca i ddatblygwyr eiddo sy'n adeiladu cartrefi carbon isel / eiddo masnachol. Gostyngiad o ran y ffioedd benthyca a weithredir pan fo technolegau carbon isel yn cael eu defnyddio – bydd canllawiau cymhwystra yn cael eu darparu.

Benthyciadau a chymhellion gwyrdd i fusnesau

Cynllun ariannu - Benthyciadau fforddiadwy ac amyneddgar gyda chymorth ymgynghori posibl i annog gweithredu gwyrdd. Amrywiaeth o gyfleoedd sy'n canolbwyntio ar gefnogi prosiectau datgarboneiddio, gan gefnogi'r gadwyn gyflenwi i droi at osod technoleg carbon isel a chymell mwy o fusnesau i ystyried newid o ran datgarboneiddio.

Ôl-osod tai i berchnogion sy’n feddianwyr

Cynllun ariannu – Pecynnau benthyca â chymhellion a grantiau i annog perchnogion tai i fuddsoddi mewn lleihau ôl troed carbon eu cartrefi a gwrthbwyso cynnydd mewn costau byw.

Hybiau ynni lleol i fusnesau

Cynllun ariannu - Ariannu prosiectau (gwynt/solar) i ddarparu ynni i fusnesau lleol. Mae busnes yn ymrwymo i Gytundeb Prynu Pŵer gyda'r prosiect i gyflenwi ynni. Cynllun peilot sy'n cael ei ariannu ar hyn o bryd.

Ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr sydd dan berchnogaeth leol

DBW i gymryd cyfranddaliadaeth mewn prosiectau gwynt mwy, gan ddarparu'r elfen dan berchnogaeth leol sydd ei hangen yn y prosiectau hyn. Elw o'r prosiect i gael ei fuddsoddi yn ôl i mewn i  fusnesau lleol. I ategu’r model perchnogaeth gymunedol, y gallai DBW hefyd ei gefnogi.

Cwmnïau gwasanaeth ynni PV/EV

Creu cyfrwng ar gyfer gwasanaethau ynni annibynnol i ddarparu atebion ffotofaltaig (PV) a cherbydau trydan (EV) i fusnesau.