Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithlu gofal iechyd Cymru yn ‘dod ynghyd’ i sicrhau bod rhaglen frechu COVID-19 Cymru yn cael ei chyflwyno mor gyflym ag sy’n ddiogel, meddai’r Gweinidog Iechyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw hyn wrth i’r fferyllfeydd cyntaf yng Nghymru ddechrau gweinyddu brechlynnau rhag COVID-19, gyda chynllun peilot yn dechrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw [dydd Gwener 15].

Dywedodd Vaughan Gething:

Rydym yng nghamau cynnar y gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf y mae Cymru wedi’i gweld erioed ac ni ddylid amcangyfrif yn rhy isel beth yw graddfa’r hyn a gyflawnwyd hyd yma, a’r hyn sy’n parhau i ddigwydd.

Mae cyflwyno’r brechlynnau hyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru mor gyflym ag sy’n ddiogel yn enghraifft unwaith eto o’n gweithlu gofal iechyd ysbrydoledig yn dod ynghyd. 

Dewiswyd cymysgedd o safleoedd a chanolfannau brechu i sicrhau bod gan bawb yn y wlad fynediad cyfartal at frechlynnau. Disgwylir y bydd gofyn i bobl fynd i ganolfan brechu torfol neu gymuned, ysbyty, practis meddyg teulu, fferyllfa neu uned symudol.

Os nad oes math o wasanaeth yn agos atoch chi, nid yw hyn yn golygu bod llai yn digwydd.

Mae diogelwch wrth galon popeth y mae ein Byrddau Iechyd a’n staff yn ei wneud, ond rydym hefyd wedi gweithio i sicrhau bod ein lleoliadau brechu yn diwallu anghenion priodoleddau’r brechlynnau ac wedi’u lleoli mor gyfleus â phosibl ar gyfer y gymuned sy’n cael ei gwasanaethu.

Efallai na fydd eich fferyllydd lleol chi’n cynnig y brechlyn eto, ond mae’n ddigon posib ei fod yn hytrach yn brysur yn gweithio yn eich canolfan brechu torfol leol.

I’r gwrthwyneb, nid yw canolfannau brechu torfol yn addas ar gyfer pob awdurdod lleol felly efallai y gofynnir ichi ddod i ganolfan gymuned neu ganolfan symudol.

Rydym hefyd eisiau i bobl deimlo’n gyfforddus yn cael eu brechiad, a bod y trefniadau mor gyfleus â phosibl, yn enwedig ar gyfer y bobl sydd mewn mwyaf o berygl o ddioddef effeithiau coronafeirws. Golyga hyn y byddwn yn defnyddio practisau meddyg teulu ar gyfer llawer o’n gwaith cyflawni cenedlaethol a bydd y rhain yn allweddol wrth i’r gwaith cyflwyno fynd rhagddo.

Ni allaf bwysleisio ddigon; mae eich gweithlu gofal iechyd lleol yn gwneud popeth posibl ac rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am hyn.

Pan ddaw eich tro, byddwch yn cael gwybod ble i fynd. Peidiwch â ffonio eich meddyg teulu na’ch gwasanaethau iechyd i ofyn am frechlyn rhag COVID-19 ac ychwanegu’n ddiangen at eu llwyth gwaith.

Cynhelir cynlluniau peilot mewn fferyllfeydd – yn debyg i’r cynlluniau peilot mewn cartrefi gofal yn y camau cynnar – i ddod o hyd i’r ffordd gyflymaf a diogelaf o roi brechlynnau yn y lleoliadau penodol hyn, gan eu bod yn wahanol iawn i feddygfeydd meddyg teulu a’r canolfannau brechu mawr.

Fferyllfa Llŷn Cyf yn Llanbedrog, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw’r cyntaf yng Nghymru i gynnig y brechlyn Oxford AstraZeneca o fferyllfa.

Dywedodd y Fferyllydd Llyr Hughes o Fferyllwyr Llŷn Cyf:

Rydym yn falch iawn o fod y fferyllfa gyntaf yng Nghymru i gynnig y brechlyn rhag COVID-19 ac rydym yn awyddus i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i gyflymu’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen.

Ein nod yw cydweithio gyda’r Canolfannau Brechu Torfol, practisau meddyg teulu a fferyllfeydd cymunedol i gyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf y mae’r GIG wedi’i gweld erioed.

Mae fferyllwyr yn chwarae rhan enfawr yn y gwaith o frechu rhag y ffliw yn flynyddol ac mae ganddynt y sgiliau a’r arbenigedd i ddarparu’r brechlynnau newydd.

Rwy’n edrych ymlaen at weld fferyllfeydd ar draws Cymru’n chwarae rhan fawr yn y gwaith o helpu i ddiogelu ein cymunedau wrth i’r rhaglen ehangu.