Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ôl am flwyddyn arall i ddathlu’r gorau ym myd addysg Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg , fod y broses o chwilio am Addysgwyr Proffesiynol gorau Cymru wedi dechrau ar gyfer y trydydd rhifyn o Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i’r Ysgrifennydd Addysg ymweld ag enillydd y categori Athro’r Flwyddyn y llynedd, sef Lorraine Dalton o Ysgol Esgob Morgan.

Mae disgyblion, cydweithwyr a rhieni o bob cwr o Gymru yn cael eu hannog i enwebu addysgwyr proffesiynol o bob cwr o’r wlad sydd, yn eu barn nhw, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i addysg yng Nghymru.

Yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru y llynedd, gwelwyd cynnydd o 20% yn nifer yr enwebiadau, gyda 9 enillydd yn cael eu cyhoeddi ar y noson o blith 24 unigolyn a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae’r categorïau ar gyfer enwebiadau yn cynnwys Pennaeth y Flwyddyn, Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg a Hyrwyddo Lles, Cynhwysiant a Pherthnasau â’r Gymuned, ac mae Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion yn gategori newydd ar gyfer 2019.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Dwi’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn dychwelyd am y trydydd tro. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi dathlu rhai addysgwyr arbennig o bob rhan o Gymru, ac mae pob un ohonynt wedi dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad i addysgu eraill.”

“Mae athrawon wrth wraidd Cymru – maent yn gosod y llwybr ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae dyletswydd arnom i godi safonau addysg yng Nghymru i sicrhau bod pobl ifanc yn cyrraedd eu llawn botensial.

Enillwyd y wobr Athro’r Flwyddyn yn 2018 gan Lorraine Dalton o Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy am ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad cyson a’r effaith enfawr y mae wedi’i chael ar ei hysgol, lle dechreuodd ei gyrfa addysgu 20 mlynedd yn ôl. Dywedodd:

“Cefais syndod mawr pan glywais fy mod wedi ennill. Pan gefais fy enwi ar y rhestr fer, ro’n i’n dweud a dweud mai dim ond swydd yw addysgu, ond wedi meddwl am y peth, mae’n fwy na hynny; mae’n ffordd o fyw. Mae’r plant wrth galon yr hyn rwy’n ei wneud.

“Pan ddes i â’r wobr yn ôl i’r ysgol, roedd y plant wrth eu bodd. Roedd hi’n hyfryd gweld pa mor hapus roedd pawb – mae’r fath brofiad yn gwneud popeth yn werth chweil. Ers ennill dwi wedi cario ‘mlaen fel o’r blaen, yn addysgu a charu pob eiliad – ond nawr mae gen i dlws sgleiniog ar fy nesg hefyd!”

Mae’r cyfnod enwebu ar agor tan 30 Tachwedd a bydd yr enillwyr yn cael eu henwi mewn Seremoni Wobrwyo fawreddog ym mis Mai 2019.