Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates wedi croesawu'r ystadegau diweddaraf sy'n dangos bod cyfradd gyflogaeth pobl 16 i 64 oed yng Nghymru ar gynnydd a'i bod yn tyfu gyflymaf yn y Gorllewin a'r Cymoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl ystadegau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, roedd cyfradd gyflogaeth pobl 16 i 64 oed yng Nghymru wedi codi i 71.2 y cant ar ddiwedd 2016, sy'n gynnydd o 1.0 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol. 

Y Gorllewin a'r Cymoedd sydd wedi profi'r cynnydd rhanbarthol mwyaf o ran cyfradd gyflogaeth, gyda chynnydd o 1.6 pwynt canran ar y flwyddyn flaenorol. 

Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'r ystadegau diweddaraf hyn yn galonogol iawn, ac maen nhw'n dangos cyfradd gyflogaeth sy'n gwella, yn benodol yn y Gorllewin a'r Cymoedd. 

"Rydyn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio'n galed i sicrhau'r amodau economaidd cywir i greu a diogelu swyddi cynaliadwy drwy Gymru – rhywbeth sy'n bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd gythryblus sydd ohoni. 

"Yn gynharach yn y mis, amlinellais fy nghynlluniau ar gyfer dilyn trywydd newydd i ddatblygu economi pob un o ranbarthau Cymru'n llawnach. 

Rwy' am dyfu’n heconomïau rhanbarthol a rhyddhau eu potensial i ysgogi twf mwy cytbwys drwy'r wlad gyfan er mwyn i ni allu cyflenwi swyddi gwell yn agosach at gartrefi pobl a sicrhau bod pob rhan o Gymru yn dod yn fwy cydnerth i'r heriau economaidd rydyn ni'n disgwyl eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf."