Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r gyfraith ynghylch cosbi corfforol yng Nghymru?

A yw’r gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru?

Ydy, mae’n berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bo’r rhiant yn absennol.

Ac fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.

Mae cosbi corfforol wedi bod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant ers peth amser.

Beth sy'n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol?

Os bydd unrhyw un yn cosbi plentyn yn gorfforol:

  • bydd yn torri’r gyfraith
  • mae perygl y caiff ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
  • efallai yn caiff gofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.

Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu os ydw i’n poeni am blentyn?

  • Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.
  • Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.