Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gynddaredd yn glefyd angheuol sy'n effeithio ar y system nerfol ac yn cael ei achosi gan feirws. Mae'n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n gallu taro unrhyw mamal gan gynnwys pobl. Ni fu achos o'r gynddaredd ym Mhrydain ers 1922. Ond mae pryderon y gallai'r clefyd ddod i'r wlad trwy anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio'n anghyfreithlon.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall y gynddaredd fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • ymosodedd a cholli'r ofn o bobl ac anifeiliaid eraill
  • newid sydyn yn yr ymddygiad ac ymosod heb reswm
  • gwendid yn y cyhyrau a thrawiadau
  • glafoeri a methu llyncu
  • hydroffobia
  • marw o barlys cynyddol

Trosglwyddo ac atal

Mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo fel arfer trwy frathiad neu grafiad gan anifail heintiedig - ci fel arfer.

Rhaid i anifeiliaid sy'n teithio i neu o Brydain ar basbort anifeiliaid anwes gael eu brechu rhag y gynddaredd.