Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ochr yn ochr â Gweinidog yr Alban ar gyfer Nawdd Cymdeithasol, Ben MacPherson a Gweinidog Cymunedau Gogledd Iwerddon Deirdre Hargey yn annog Llywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn eu llythyr ar y cyd, a gyhoeddwyd ar ôl cyfarfod â Gweinidogion datganoledig yr wythnos ddiwethaf, galwodd y Gweinidogion am y canlynol:

  • codiad brys ar unwaith o £25 i'r holl fudd-daliadau prawf modd gan gynnwys budd-daliadau gwaddol;
  • diddymu'r cap ar fudd-daliadau a'r cyfyngiad dau blentyn;
  • ac ymgyrch hawlio budd-daliadau.

Adleisiodd y Gweinidogion hefyd alwad gan eu Gweinidogion Cyllid unigol am gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer budd-daliadau nawdd cymdeithasol, a wnaed mewn llythyr at y Canghellor Kwasi Kwarteng ar 30 Medi.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae Gweinidogion ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi uno i alw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw hwn. Mae’r effaith y mae hyn yn ei chael ar draws y DU gyfan ar gyfer teuluoedd a’r rhai mwyaf agored i niwed yn glir i bawb.

Mae penderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan Lywodraethau Ceidwadol olynol y DU – o ddegawd o gyni i doriadau creulon i fudd-daliadau a thorri addewidion ar drethi – wedi creu’r amodau ar gyfer yr argyfwng digynsail hwn ac maent yn ychwanegu at y pwysau ar gyllidebau cartrefi.

Mae’r gyllideb fechan wedi achosi cyfnod cythryblus ar y marchnadoedd arian, gan achosi i’r bunt blymio a gwneud morgeisi’n ddrytach. Disgwylir i gyfraddau llog a chwyddiant godi ymhellach.

Dyma pam mae angen gweithredu ar frys nawr.

Mae’r gwledydd datganoledig yn galw am dri cham gweithredu ar unwaith; codiad o £25 i’r holl fudd-daliadau prawf modd, gan gynnwys budd-daliadau gwaddol, diddymu’r cap ar fudd-daliadau a’r cyfyngiad dau blentyn ac ymgyrch hawlio budd-daliadau ar unwaith.

Mae’r rhain i gyd yn atebion ymarferol, a fyddai’n lleddfu’r baich ar aelwydydd ac, yn bwysicach fyth, yn atal degau o filoedd yn rhagor o bobl – a phlant – rhag llithro i dlodi.

Yma yng Nghymru, rydym wedi dewis cefnogi pobl drwy’r argyfwng hwn drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf a thrwy gefnogi pawb drwy raglenni sy’n rhoi arian yn ôl yn eu pocedi.

Mae angen i Lywodraeth y DU wrando, ailfeddwl a darparu cymorth ystyrlon i holl bobl y Deyrnas Unedig, yn enwedig y rhai mwyaf bregus.